Mesur Gwastraff (Cymru) 2010

9Rheoliadau sy'n gwahardd gollwng gwastraff ar safle tirlenwi

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o ollwng mathau penodedig o wastraff ar safle tirlenwi yng Nghymru, ac mewn cysylltiad â'i wahardd neu ei reoleiddio.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol (ymhlith pethau eraill)–

(a)diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 ac sy'n ymwneud â dull gweithredu safle tirlenwi;

(b)darparu ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â darpariaeth a wnaed o dan y rheoliadau;

(c)darparu ar gyfer cosbau mewn perthynas â'r tramgwyddau hynny;

(d)darparu ar gyfer awdurdodau gorfodi a swyddogaethau'r awdurdodau hynny.

(3)Yn is-adran (1), mae i “safle tirlenwi” yr ystyr a roddir i “landfill” yn Erthygl 2(g) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC dyddiedig 26 Ebrill 1999 am dirlenwi gwastraff.