Newidiadau dros amser i: Adran 9A
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 18/10/2023.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Gwastraff (Cymru) 2010, Adran 9A.
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
[9ARheoliadau sy’n gwahardd llosgi gwastraffLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o losgi mathau penodedig o wastraff yng Nghymru, ac mewn cysylltiad â’i wahardd neu ei reoleiddio.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol (ymhlith pethau eraill)—
(a)diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 sy’n ymwneud â gweithrediad peiriannau llosgi gwastraff neu beiriannau cydlosgi gwastraff;
(b)darparu ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â darpariaeth a wnaed o dan y rheoliadau;
(c)darparu ar gyfer cosbau mewn perthynas â’r tramgwyddau hynny;
(d)darparu ar gyfer awdurdodau gorfodi a swyddogaethau’r awdurdodau hynny.
(3)Yn yr adran hon—
mae i “peiriant cydlosgi gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste co-incineration plant” yn Erthygl 3(41) o Gyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol (atal a rheoli llygredd integredig) (Ail-lunio);
mae i “peiriant llosgi gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste incineration plant” yn Erthygl 3(40) o’r Gyfarwyddeb honno;
ystyr “llosgi” (“incineration”) mewn perthynas â gwastraff, yw—
(a)
llosgi gwastraff mewn peiriant llosgi gwastraff neu beiriant cydlosgi gwastraff, a
(b)
unrhyw driniaethau thermol eraill i’r gwastraff cyn ei losgi.]
Yn ôl i’r brig