8.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru.
9.Mae is-adran (1) yn datgan bod i’r Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru.
10.Mae is-adran (2) yn darparu bod effaith gyfreithiol yn cael ei rhoi, heb ragfarnu’r egwyddor gyffredinol yn is-adran (1), i statws swyddogol y Gymraeg gan y deddfiadau ynghylch dyletswyddau ar gyrff i ddefnyddio’r Gymraeg; ynghylch peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; ynghylch dilysrwydd defnyddio’r Gymraeg; ynghylch hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg; ynghylch rhyddid personau sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg i wneud hynny gyda’i gilydd; ynghylch creu swydd Comisiynydd y Gymraeg ac ynghylch materion eraill sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
11.Mae is-adran (3) yn cyfeirio at enghreifftiau o ddeddfiadau sy’n rhoi effaith gyfreithiol i statws swyddogol y Gymraeg.
12.Mae is-adran (4) yn datgan nad yw’r Mesur yn effeithio ar statws y Saesneg yng Nghymru.
13.Mae’r adran hon yn sefydlu swydd Comisiynydd ac yn rhoi ei heffaith i Atodlen 1 sy’n gwneud rhagor o ddarpariaeth ynglŷn â’r Comisiynydd. Mae’r Comisiynydd yn cael ei benodi gan Brif Weinidog Cymru.
14.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch prif nod y Comisiynydd wrth iddo arfer ei swyddogaethau. Y nod hwnnw yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Mae is-adran (2) yn gwneud darpariaeth ynghylch y camau y mae’n rhaid i’r Comisiynydd eu cymryd wrth arfer swyddogaethau yn unol â’r prif nod, ac mae is-adran (3) yn rhestru’r egwyddorion y mae’n rhaid i’r Comisiynydd roi sylw iddyn nhw pan fydd yn arfer swyddogaethau’n unol â’r prif nod.
15.Mae’r adran hon yn amlinellu swyddogaethau cyffredinol y Comisiynydd. Mae is-adran (1) yn darparu y caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth y mae’n meddwl ei fod yn briodol i hybu defnyddio’r Gymraeg, i hwyluso defnyddio’r Gymraeg ac i weithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
16.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar y Comisiynydd i gynhyrchu adroddiad ynghylch sefyllfa’r Gymraeg. Rhaid cynhyrchu adroddiad ar gyfer pob cyfnod adrodd, fel y mae’n cael ei ddiffinio yn is-adran (5). Rhaid i’r adroddiad cyntaf sy’n cael ei gyhoeddi ar ôl pob cyfrifiad gynnwys dadansoddiad o ganlyniadau’r cyfrifiad o ran y Gymraeg.
17.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ychwanegol ynghylch cynhyrchu a chyhoeddi’r adroddiadau 5-mlynedd.
18.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i’r Comisiynydd i gynnal ymholiadau i unrhyw fater sy’n ymwneud ag unrhyw rai o’i swyddogaethau. Mae’r pŵer ymholi cyffredinol hwn yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) i (5). Mae is-adran (9) yn rhoi ei heffaith i Atodlen 2 sy’n gwneud rhagor o ddarpariaeth ynghylch ymholiadau.
19.Mae’r adran hon yn galluogi’r Comisiynydd i gychwyn achos cyfreithiol neu i ymyrryd mewn achos cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr os yw’n ymddangos i’r Comisiynydd fod yr achos yn berthnasol i fater y mae ganddo swyddogaeth mewn perthynas ag e.
20.Yn ychwanegol at ddarparu bod pŵer y Comisiynydd i gychwyn achos cyfreithiol neu i ymyrryd mewn achos cyfreithiol yn ddarostyngedig i gyfyngiadau sydd wedi’u gosod gan ddeddfwriaeth neu gan reolau’r llys, mae is-adran (2) yn egluro nad yw is-adran (1), ohoni ei hun, yn creu sail i achos.
21.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i’r Comisiynydd i ddarparu cymorth i unigolyn os yw’r person hwnnw’n barti neu os gallai ddod yn barti i achos cyfreithiol cyfredol neu bosibl yng Nghymru a Lloegr sy’n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn perthynas ag e. Mae “cymorth”, at ddibenion yr adran hon, yn cynnwys cyngor cyfreithiol, cynrychiolaeth gyfreithiol a chyfleusterau i ddatrys anghydfod, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhain.
22.Mewn amgylchiadau lle mae’r Comisiynydd wedi helpu unigolyn o dan adran 9 mewn perthynas ag achos cyfreithiol, a phan gaiff yr unigolyn hwnnw hawl i gael rhywfaint neu’r cyfan o’i gostau yn yr achos, mae’r adran hon yn sicrhau bod treuliau’r Comisiynydd wrth roi’r cymorth yn cael eu codi ar symiau sy’n cael eu talu i’r unigolyn ar ffurf costau. Gall y symiau hyn gael eu gorfodi fel dyled sy’n ddyladwy i’r Comisiynydd.
23.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer cyffredinol i’r Comisiynydd i wneud unrhyw beth y mae’n credu ei fod yn briodol i’w wneud mewn cysylltiad ag unrhyw rai o’i swyddogaethau gan gynnwys y pethau hynny sydd wedi’u rhestru yn is-adran (2) ond heb fod yn gyfyngedig iddyn nhw. Mae is-adran (2) yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) i (6).
24.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch staff y Comisiynydd sy’n gorfod cynnwys Dirprwy Gomisiynydd.
25.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i’r Comisiynydd i ddirprwyo unrhyw rai neu’r cyfan o’i swyddogaethau i aelod o’r staff. Mae’r adran yn cyfeirio hefyd at y sefyllfaoedd hynny lle mae swyddogaethau’r Comisiynydd yn gallu cael eu harfer gan y Dirprwy Gomisiynydd.
26.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar y Comisiynydd i sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion ynghylch gweithredoedd neu anweithiau sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.
27.Mae’r adran hon yn ymdrin â chyflawni dogfennau gan y Comisiynydd a’u defnyddio fel tystiolaeth.
28.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer amodol i Weinidogion Cymru i gyfarwyddo’r Comisiynydd ac yn gosod dyletswydd ar y Comisiynydd i gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau o’r fath. Ni ellir rhoi cyfarwyddiadau mewn perthynas â rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson gan y Comisiynydd, mewn perthynas â gorfodi safonau gan y Comisiynydd neu mewn cysylltiad â swyddogaethau’r Comisiynydd a geir yn y Rhan honno o’r Mesur sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg.
29.Pan fo’r Comisiynydd, mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth, yn ymgynghori â’r Panel Cynghori neu ag unrhyw berson arall yn unol â’r Mesur, mae’n rhaid i’r Comisiynydd roi sylw i’r ymgynghoriad wrth arfer y swyddogaeth.
30.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd gynhyrchu adroddiadau mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol.
31.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ychwanegol ynghylch cynhyrchu a chyhoeddi adroddiadau blynyddol y Comisiynydd.
32.Pan fo’r Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad i orfodi safonau (fel y mae wedi’i ddiffinio) neu pan fo ganddo hawl i’w gynnal, a bod testun yr ymchwiliad yn un y gallai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ymchwilio iddo hefyd, os yw’r Comisiynydd yn credu bod hynny’n briodol mae’n rhaid iddo roi gwybod i’r Ombwdsmon ac ymgynghori ag e. Yna caiff y Comisiynydd a’r Ombwdsmon gydweithredu â’i gilydd drwy wneud unrhyw rai o’r pethau neu’r cyfan o’r pethau sydd wedi’u rhestru yn is-adran (3).
33.Mae’r adran hon yn gymwys os yw’n ymddangos i’r Comisiynydd fod pwnc ymchwiliad i orfodi safonau (fel y mae wedi’i ddiffinio) y bydd y Comisiynydd yn ei gynnal, neu y mae ganddo hawl i’w gynnal, yn ymwneud â mater neu’n codi mater y gallai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru neu’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (y mae pob un ohonynt yn gyrff sy’n dod o fewn y diffiniad o “ombwdsmon” yn is-adran (6)) ymchwilio iddo. Mewn achos o’r fath rhaid i’r Comisiynydd, os yw’n meddwl bod hynny’n briodol, ymgynghori â’r ombwdsmon perthnasol ynghylch y mater hwnnw.
34.Pan fo’r Comisiynydd yn cynnal ei ymchwiliad a bod yr ombwdsmon perthnasol hefyd yn cynnal ymchwiliad i’r mater sy’n dod o fewn cylch gwaith yr ombwdsmon hwnnw, cânt wneud unrhyw rai o’r pethau neu’r cyfan o’r pethau sydd wedi’u rhestru yn is-adran (4).
35.Mae is-adran (7) yn darparu i Weinidogion Cymru’r pŵer i ddiwygio’r diffiniad o “ombwdsmon” yn is-adran (6) drwy ychwanegu person, hepgor person neu newid disgrifiad o berson.
36.Mae’r adran hon yn cyflwyno Atodlen 3.
37.Mae’r adran hon yn atal y Comisiynydd rhag datgelu gwybodaeth a geir wrth arfer unrhyw rai o’i swyddogaethau oni bai bod is-adran (2) yn awdurdodi ei datgelu.
38.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch penodi’r Panel Cynghori ac mae’n rhoi ei heffaith i Atodlen 4 sy’n gwneud rhagor o ddarpariaeth ynghylch aelodau’r Panel Cynghori.
39.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i’r Comisiynydd i ymgynghori â’r Panel Cynghori ynghylch unrhyw fater.
40.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson (y cyfeirir ato yma fel “P”) gydymffurfio â safon ymddygiad os bodlonir, a thra bodlonir, y chwe amod sydd wedi’u rhestru yn is-adrannau (2) i (7).
Amod 1 yw bod P yn agored i orfod cydymffurfio â safonau. Mae darpariaeth ynghylch personau sy’n agored i orfod cydymffurfio â safonau yn cael ei gwneud ym Mhennod 3.
Amod 2 yw bod y safon yn gymwysadwy i P. Mae darpariaeth ynghylch y dosbarthiadau o safon sy’n gymwysadwy yn cael ei gwneud ym Mhennod 4.
Amod 3 yw bod y safon yn benodol gymwys i P. Mae darpariaeth ynghylch safonau sy’n benodol gymwys yn cael ei gwneud ym Mhennod 5.
Amod 4 yw bod y Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i P. Mae darpariaeth ynghylch hysbysiadau cydymffurfio yn cael ei gwneud ym Mhennod 6.
Amod 5 yw bod yr hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â’r safon (gweler Pennod 6).
Amod 6 yw bod yr hysbysiad cydymffurfio mewn grym (gweler Pennod 6).
41.Mae’r ddyletswydd sy’n cael ei gosod ar P i gydymffurfio â safon yn ddarostyngedig i’r darpariaethau yn yr hysbysiad cydymffurfio sy’n cael ei roi i P (gweler Pennod 6).
42.Mae’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu un neu ragor o safonau cyflenwi gwasanaethau, safonau llunio polisi, safonau gweithredu, safonau hybu neu safonau cadw cofnodion.
43.Mae pob un o’r safonau hyn yn cael ei diffinio ar wahân yn adrannau 28 i 32.
44.Mae’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu safon cadw cofnodion ar gyfer cwynion sy’n ymwneud â’r Gymraeg heblaw cwynion ynghylch sut mae person wedi cydymffurfio â safonau eraill o dan amgylchiadau penodol. Mae hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n pennu gwahanol safonau o’r math y cyfeirir atynt yn adran 26 mewn perthynas ag ymddygiad gwahanol.
45.Mae’r adran hon yn diffinio “safon cyflenwi gwasanaethau” i olygu safon ymddygiad sy’n ymwneud â gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau ac y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio’r Gymraeg, neu weithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, wrth i’r gweithgaredd hwnnw gael ei gyflawni.
46.Mae “gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau” yn cael ei ddiffinio yn is-adran (2) i olygu bod person yn cyflenwi gwasanaethau i berson arall neu’n ymdrin â pherson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau i’r person arall hwnnw neu i drydydd person.
47.Mae’r adran hon yn diffinio “safon llunio polisi” i olygu safon sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi ac y bwriedir iddi sicrhau, neu gyfrannu at sicrhau, un neu ragor o’r canlyniadau canlynol:
bod y person sy’n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried pa effaith, os byddai effaith o gwbl, a gâi’r penderfyniad polisi ar y cyfleoedd i bersonau eraill ddefnyddio’r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;
bod y person sy’n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried sut y gallai gwneud y penderfyniad gael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar gyfleoedd i bersonau eraill ddefnyddio’r Gymraeg neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;
bod y person sy’n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried sut y gallai’r penderfyniad gael ei wneud fel nad yw’n cael effeithiau andwyol neu fel ei fod yn lleihau unrhyw effeithiau andwyol a gâi’r penderfyniad polisi ar gyfleoedd i bersonau eraill ddefnyddio’r Gymraeg neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
48.Yn yr adran hon, gall effeithiau cadarnhaol neu andwyol olygu’r rhai sy’n cael eu profi yn uniongyrchol ynteu’n anuniongyrchol.
49.Ystyr “penderfyniad polisi” at ddibenion y Rhan hon yw penderfyniad gan y person ynghylch arfer swyddogaethau’r person neu ynghylch cynnal busnes neu ymgymeriad arall y person.
50.Mae’r adran hon yn diffinio “safon gweithredu” i olygu safon ymddygiad sy’n ymwneud â gweithgareddau perthnasol person (y cyfeirir ato yma fel “A”) ac y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio’r Gymraeg:
gan A wrth gyflawni gweithgareddau perthnasol A;
gan A a pherson arall wrth iddyn nhw ddelio â’i gilydd mewn cysylltiad â gweithgareddau perthnasol A; neu
gan berson heblaw A wrth gyflawni gweithgareddau at ddibenion gweithgareddau perthnasol A, neu mewn cysylltiad â nhw.
51.Mae “gweithgareddau perthnasol” yn cael eu diffinio i olygu swyddogaethau, neu fusnes neu ymgymeriad arall. Mae cyfeiriad at gyflawni gweithgareddau perthnasol yn gyfeiriad at arfer swyddogaethau neu at gynnal busnes neu ymgymeriad arall.
52.Mae’r adran hon yn diffinio “safon hybu” i olygu safon ymddygiad (yn ymwneud ag unrhyw weithgaredd) y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn ehangach.
53.Mae’r adran hon yn diffinio “safon cadw cofnodion” i olygu safon sy’n ymwneud â chadw cofnodion ynghylch safonau penodedig eraill a chofnodion ynghylch cwynion ynglŷn â sut mae person wedi cydymffurfio â safonau eraill neu gwynion eraill sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Ystyr “safon benodedig” yw safon sydd wedi’i phennu gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau o dan adran 26(1).
54.Mae person (“P”) yn agored i orfod cydymffurfio â safonau os yw P:
yn dod o fewn colofn (2) o’r tabl yn Atodlen 5; a hefyd o fewn colofn (1) o’r tabl yn Atodlen 6, neu’n dod o fewn categori o bersonau sydd wedi’u rhestru yn y colofnau hynny; neu
yn dod o fewn colofn (2) o’r tabl yn Atodlen 7 a hefyd yn dod o fewn un o’r disgrifiadau yng ngholofn (1) o’r tabl yn Atodlen 8.
55.Mae’r adran hon yn diffinio pa bryd y mae person yn dod o fewn Atodlenni 5, 6, 7 neu 8.
56.Mae gan y personau a’r cyrff yn y tabl yn Atodlen 6 (cyrff cyhoeddus etc) safonau wedi’u rhestru gyferbyn â’u henwau nhw, ac mae’r personau a’r cyrff hynny yn agored i orfodi cydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau hynny. Mae gan y personau a’r cyrff sydd wedi’u rhestru yn y tabl yn Atodlen 8 (cyrff eraill) wasanaethau penodedig wedi’u rhestru gyferbyn â’u henwau ac y maent yn agored i orfod cydymffurfio â safonau cyflenwi gwasanaethau a safonau cadw cofnodion mewn perthynas â’r gwasanaethau hynny. Nid yw’r ffaith bod corff wedi’i restru yn yr Atodlenni hyn yn ei hun yn gosod dyletswydd ar gorff i gydymffurfio â safonau.
57.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n datgan pa safonau sydd i fod yn gymwys i ba bersonau neu gyrff, ac sydd yn awdurdodi’r Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio. Mae safonau’n cael eu gosod ar berson neu gorff pan fydd y Comisiynydd yn rhoi hysbysiad cydymffurfio (adran 44) yn ei gwneud yn ofynnol i’r person neu’r corff sydd wedi’i restru yn y tablau yn Atodlen 6 neu 8 gydymffurfio â’r safon neu’r safonau fel y maen nhw wedi’u nodi yn yr hysbysiad: yna mae’r person neu’r corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio.
58.Mae’r tablau yn Atodlen 5 (y categorïau o berson y caniateir eu hychwanegu at Atodlen 6) ac Atodlen 7 (y categorïau o berson y caniateir eu hychwanegu at Atodlen 8) yn rhoi disgrifiadau o bersonau neu gyrff a all gael eu dwyn o fewn cylch Atodlenni 6 neu 8.
59.Caniateir i bersonau neu gyrff sy’n dod o fewn y categori o bersonau yn Atodlen 5 gael eu hychwanegu at Atodlen 6, a chaniateir i’r personau sy’n dod o fewn i’r disgrifiadau o bersonau yn Atodlen 7 gael eu hychwanegu at Atodlen 8. Mae hyn yn galluogi i nifer y personau neu’r cyrff sydd wedi’u rhestru yn Atodlenni 6 ac 8 a all fod yn agored i gydymffurfio â safonau gynyddu dros amser ond, fel yr esboniwyd uchod, fydd personau ddim o dan ddyletswydd i gydymffurfio â safonau nes bod y Comisiynydd yn rhoi hysbysiad cydymffurfio iddyn nhw.
60.Mae’r adran hon hefyd yn darparu nad yw newid yn enw person sydd wedi’i bennu yn Atodlenni 6 neu 8 yn effeithio ar sut mae’r Mesur hwn yn gweithredu mewn perthynas â’r person hwnnw.
61.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn i ddiwygio’r tablau yn Atodlenni 6 ac 8 yn unol â’r adran hon.
62.Mae’r adran hon yn gymwys i berson (“P”) sydd o fewn colofn (1) o’r tabl yn Atodlen 6. Mae’n darparu mai’r safonau hynny sy’n ymddangos yng ngholofn (2) o gofnod P yn y tabl yn Atodlen 6 yw’r math o safonau y gallai Gweinidogion Cymru eu cymhwyso at P mewn rheoliadau.
63.Mae’r adran hon yn gymwys i berson (“P”) sydd o fewn colofn (1) o’r tabl yn Atodlen 8, ac mae’n darparu mai’r unig ddau fath o safon y gallai Gweinidogion Cymru eu cymhwyso at P mewn rheoliadau yw-
safonau cyflenwi gwasanaethau penodol; neu
safonau cadw cofnodion penodol.
64.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio’r tablau yn Atodlenni 6 ac 8 yn unol â’r adran hon.
65.Bydd safon yn gymwys i berson (“P”) os bydd Gweinidogion Cymru yn darparu mewn rheoliadau fod y safon yn gymwys i P ac yn awdurdodi’r Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i P yn ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â’r safon. Mae Pennod 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch hysbysiadau cydymffurfio.
66.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod y rheoliadau sy’n cael eu gwneud o dan adran 39 yn darparu bod y safon o dan sylw yn gymwys i un neu ragor o bersonau.
67.Os bydd Gweinidogion Cymru yn pennu nifer o safonau mewn perthynas ag ymddygiad penodol, mae’r adran hon yn galluogi rheoliadau o dan adran 39 i ddarparu ar gyfer un neu ragor o’r canlynol:
i un safon fod yn benodol gymwys i un person, i ddau neu fwy o bersonau, neu i grŵp o bersonau;
i ddwy neu fwy o safonau fod yn benodol gymwys i un person, i ddau neu fwy o bersonau, neu i grŵp o bersonau;
i safonau gwahanol fod yn benodol gymwys i bersonau gwahanol.
68.Os bydd rheoliadau sy’n cael eu gwneud o dan adran 39 yn darparu bod unrhyw safon cyflenwi gwasanaethau yn gymwys i P (a bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud rheoliadau o dan adran 26(1) yn pennu safon o’r fath), mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod y rheoliadau hynny’n darparu bod safonau cyflenwi gwasanaethau yn ymwneud â’r holl weithgareddau sydd wedi’u rhestru yn Atodlen 9 yn gymwys (os yw P yn cyflawni’r gweithgareddau hynny, ac i’r graddau y mae’n eu cyflawni).
69.Fodd bynnag, o dan is-adran (3) os bydd, neu i’r graddau y bydd:
adroddiad safonau o dan adran 64 yn dangos y byddai’n afresymol neu’n anghymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â’r gweithgaredd hwnnw; neu
Gweinidogion Cymru’n credu y byddai’n afresymol neu’n anghymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â’r gweithgaredd hwnnw,
yna nid oes angen i reoliadau o dan adran 39 sicrhau bod safonau cyflenwi gwasanaethau’n benodol gymwys i P mewn perthynas â gweithgaredd a bennir yn Atodlen 9. Mae’r adran hon hefyd yn galluogi rheoliadau sy’n cael eu gwneud o dan adran 38 i ddarparu bod safonau cyflenwi gwasanaethau eraill yn gymwys i P.
70.Yn unol â’r adran hon, dim ond os yw’r safon yn perthyn i’r math o safon y gallai fod yn bosibl i’r person neu i grŵp o bersonau orfod cydymffurfio â hi (gweler Pennod 4) y caiff rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 39 ddarparu bod safon yn benodol gymwys i berson neu i grŵp o bersonau. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n darparu i safon fod yn benodol gymwys i unrhyw un o Weinidogion y Goron oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i’r ddarpariaeth honno.
71.Mae “hysbysiad cydymffurfio” yn cael ei ddiffinio gan yr adran hon i olygu hysbysiad sy’n cael ei roi gan y Comisiynydd i berson (“P”) ac sy’n nodi neu’n crybwyll un neu ragor o safonau sy’n cael eu pennu gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau sy’n cael eu gwneud o dan adran 26(1), gan ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â’r safon neu’r safonau a nodwyd neu a grybwyllwyd.
72.Caiff hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio â safon benodol o dan rai amgylchiadau, ond nid amgylchiadau eraill a/neu mewn rhyw ardal neu ardaloedd, ond nid ardaloedd eraill.
73.Pan fo rheoliadau sy’n cael eu cynhyrchu gan Weinidogion Cymru o dan adran 39 yn darparu bod dwy neu fwy o safonau yn gymwys i berson penodol mewn perthynas ag ymddygiad penodol caiff hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i'r person wneud y canlynol:
cydymffurfio ag un yn unig o’r safonau; neu
gydymffurfio â gwahanol safonau ar adegau gwahanol, o dan amgylchiadau gwahanol (boed ar yr un adeg ynteu ar adegau gwahanol) neu mewn ardaloedd gwahanol (boed ar yr un adeg ynteu ar adegau gwahanol).
74.Dim ond os yw P yn agored i orfod cydymffurfio â safonau yn unol â Phennod 3 y caniateir i’r Comisiynydd roi hysbysiad cydymffurfio i P.
75.Caiff hysbysiad cydymffurfio sy’n cael ei roi i P nodi neu grybwyll safon benodol, ond dim ond os yw’r safon:
yn safon sy’n gymwysadwy i P (yn unol â Phennod 4); ac
yn benodol gymwys i P (yn unol â Phennod 5).
76.Pan fo hysbysiad cydymffurfio yn cael ei roi i P gan y Comisiynydd, rhaid i’r Comisiynydd roi copi i P o unrhyw god ymarfer perthnasol sydd wedi’i ddyroddi o dan adran 68 a rhoi gwybod i P am yr hawl i herio o dan Bennod 7.
77.Mae darpariaeth ynghylch rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr yn cael ei gwneud yn adran 48.
78.Rhaid i bob safon sy’n cael ei phennu mewn hysbysiad cydymffurfio ddatgan y diwrnod(au) gosod. Rhaid i’r diwrnod gosod, neu’r cynharaf o’r diwrnodau gosod, syrthio ar ôl diwedd chwech mis sy’n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad cydymffurfio.
79.Mewn perthynas â safon, ystyr “diwrnod gosod” yw:
y diwrnod y mae’n dechrau bod yn ofynnol i’r person gydymffurfio â’r safon; neu
y diwrnod y mae’n dechrau bod yn ofynnol i berson gydymffurfio â’r safon mewn modd penodol.
80.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd ymgynghori â pherson cyn rhoi hysbysiad cydymffurfio i’r person hwnnw. Dydy’r gofyniad hwn ddim yn gymwys os yw’r Comisiynydd yn fodlon yr ymgynghorwyd â’r person eisoes, neu ei fod wedi cael cyfle ar gyfer ymgynghori ag e, mewn cysylltiad ag ymchwiliad i safonau (gweler Pennod 8). Os bydd person yn methu â chymryd rhan mewn ymgynghoriad, fydd hynny ddim yn atal y Comisiynydd rhag rhoi hysbysiad cydymffurfio i’r person hwnnw.
81.Mae’r adran hon yn gymwys i hysbysiad cydymffurfio sy’n cael ei roi i berson sy’n dod o fewn colofn (2) o’r tabl yn Atodlen 7 (“person neilltuedig”) sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd (“y gwasanaethau perthnasol”) sy’n cael eu darparu o dan gontract, neu yn unol â threfniadau, a wnaed gydag awdurdod cyhoeddus (“y contract perthnasol”). Dim ond os yw’r amodau yn is-adran (2) wedi’u bodloni y caniateir i hysbysiad o’r fath nodi neu grybwyll safon benodol mewn perthynas â darparu’r gwasanaethau perthnasol o dan y contract perthnasol. Rhaid i’r gofyniad i’r person cymwys gydymffurfio â’r safon benodol fod yr un fath â’r gofyniad, neu heb fod yn fwy na’r gofyniad, i’r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â’r safon.
82.Mae’r adran hon yn caniatáu i’r Comisiynydd amrywio unrhyw hysbysiad cydymffurfio.
83.Mae’r adran hon yn caniatáu i’r Comisiynydd ddirymu unrhyw hysbysiad cydymffurfio.
84.Mae hysbysiad cydymffurfio sy’n cael ei roi i P mewn grym o’r diwrnod y bydd y Comisiynydd yn rhoi’r hysbysiad i P hyd nes iddo gael ei ddirymu.
85.Rhaid i’r Comisiynydd gydymffurfio â’r gofynion sy’n cael eu gosod gan yr adran hon ynghylch trefnu bod copïau o hysbysiadau cydymffurfio yn hygyrch ac ar gael i’w harchwilio.
86.Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i P beidio â bod o dan ddyletswydd i gydymffurfio â safon yn sgil y ffaith bod un neu ragor o’r amodau yn adran 25 heb eu bodloni, neu fod y safon yn peidio â bod wedi’i phennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1), rhaid i’r Comisiynydd sicrhau bod unrhyw hysbysiadau cydymffurfio sy’n ymwneud â P ac sy’n dal mewn grym yn adlewyrchu’r newid hwnnw.
87.Pan fo person (“P”) wedi cael hysbysiad cydymffurfio sy’n ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â safon o ddiwrnod gosod yn y dyfodol, caniateir i P wneud cais i’r Comisiynydd am ddyfarnu a yw’r gofyniad i gydymffurfio â’r safon, neu i gydymffurfio â hi mewn modd penodol, yn afresymol neu’n anghymesur.
88.Pan fo P wedi cael hysbysiad cydymffurfio sydd eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â safon, mae’r adran hon yn caniatáu i P wneud cais i’r Comisiynydd am ddyfarnu a yw’r gofyniad i P gydymffurfio â’r safon, neu i gydymffurfio â hi mewn modd penodol, yn afresymol neu’n anghymesur.
89.Caiff y Comisiynydd wrthod derbyn cais o dan yr adran hon os yw’n fodlon nad oes newid o sylwedd wedi bod yn amgylchiadau P ers y diwrnod y daeth yn ofynnol am y tro cyntaf i P gydymffurfio â’r safon honno (yn gyfan gwbl neu mewn modd penodol) neu ers y diwrnod y dyfarnodd y Comisiynydd ar y cwestiwn perthnasol ar gais blaenorol o dan yr adran hon (os oes cais blaenorol wedi’i wneud).
90.Yn yr adran hon, ystyr “cwestiwn perthnasol” yw’r cwestiwn y mae cais o dan yr adran hon yn cyfeirio ato sef a oedd y gofyniad i gydymffurfio â’r safon neu i gydymffurfio â’r safon mewn modd penodol, yn afresymol neu’n anghymesur.
91.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys ceisiadau i’r Comisiynydd sy’n ceisio herio dyletswyddau dyfodol a dyletswyddau presennol o dan adran 54 neu 55.
92.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch dyfarnu ar unrhyw gais i’r Comisiynydd o dan adran 54 neu unrhyw gais nad yw’r Comisiynydd yn gwrthod ei dderbyn o dan adran 55. Mae’r baich yn cael ei osod ar P i ddangos bod y gofyniad i P gydymffurfio â safon (yn gyfan gwbl neu mewn modd penodol) yn afresymol neu’n anghymesur.
93.Os bydd y Comisiynydd yn dyfarnu o blaid cais P mae’n rhaid i’r Comisiynydd (a) dirymu’r hysbysiad cydymffurfio (b) dirymu’r hysbysiad cydymffurfio a rhoi hysbysiad cydymffurfio newydd neu (c) amrywio’r hysbysiad cydymffurfio presennol.
94.Os bydd y Comisiynydd yn rhoi gwybod i P am ddyfarniad nad yw’r gofyniad y mae P wedi’i herio yn afresymol neu’n anghymesur, mae’r adran hon yn caniatáu i P apelio i’r Tribiwnlys am ddyfarniad a yw’r gofyniad hwnnw’n afresymol neu’n anghymesur neu beidio.
95.Yn ddarostyngedig i is-adran (4), rhaid i apêl o dan yr adran hon gael ei gwneud o fewn 28 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y rhoddodd y Comisiynydd wybod i P am ei ddyfarniad ar y cais.
96.Rhaid i’r Tribiwnlys roi gwybod i P a’r Comisiynydd am ei ddyfarniad ar apêl sy’n cael ei gwneud o dan yr adran hon.
97.Os bydd y Tribiwnlys yn dyfarnu bod y gofyniad yn afresymol neu’n anghymesur, rhaid i’r Tribiwnlys (a) dirymu’r hysbysiad cydymffurfio (b) dirymu’r hysbysiad cydymffurfio a rhoi hysbysiad cydymffurfio newydd neu (c) amrywio’r hysbysiad cydymffurfio presennol. Mae’r hawl i apelio’n ddarostyngedig i Reolau Tribiwnlys, sy’n gallu gwneud darpariaethau ynghylch dwyn apêl o dan yr adran hon.
98.Pan fo’r Tribiwnlys wedi penderfynu apêl o dan adran 58, caiff y Comisiynydd neu P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu’r Uchel Lys, apelio i’r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol sy’n deillio o benderfyniad y Tribiwnlys.
99.Os yw’r Uchel Lys yn dyfarnu bod y Tribiwnlys wedi gwneud gwall ar bwynt cyfreithiol, caiff yr Uchel Lys osod penderfyniad y Tribiwnlys o’r naill du. Os gosodir yr achos o’r naill du, rhaid i’r Uchel Lys naill ai anfon yr achos yn ôl i’r Tribiwnlys gyda chyfarwyddyd ar gyfer ei ailystyried, neu ail-wneud y penderfyniad.
100.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfarwyddyd y caiff yr Uchel Lys ei roi i’r Tribiwnlys ac mae’n darparu y caiff yr Uchel Lys, pan fydd yn ail-wneud penderfyniad, wneud unrhyw benderfyniad y gallai’r Tribiwnlys ei wneud, a chaiff wneud canfyddiadau ffeithiol fel y bo’n briodol yn ei farn ef.
101.Rhaid gwneud cais i’r Tribiwnlys neu i’r Uchel Lys am ganiatâd i apelio a hynny cyn pen 28 o ddiwrnodau ar ôl i’r Tribiwnlys hysbysu’r ymgeisydd am ei ddyfarniad ar yr apêl. Fodd bynnag, mae gan y Tribiwnlys neu’r Uchel Lys y disgresiwn i ganiatáu apelau ar ôl 28 o ddiwrnodau os yw wedi’i fodloni bod rheswm da dros fethu â cheisio am ganiatâd mewn pryd, neu os bod rheswm da dros ohirio cais am ganiatâd.
102.Os bydd P yn gwneud cais i’r Comisiynydd am ddyfarniad a yw’r gofyniad i gydymffurfio, neu i gydymffurfio mewn modd penodol, â safon yn afresymol neu’n anghymesur ai peidio, nid oes angen i P gydymffurfio â’r safon honno, neu gydymffurfio â hi yn y modd hwnnw, oni fydd a hyd nes bydd y Comisiynydd wedi gwneud dyfarniad a bod hawliau P i apelio wedi’u dihysbyddu.
103.Ystyr “ymchwiliad safonau” yw ymchwiliad sy’n cael ei gynnal mewn perthynas â pherson (“P”) er mwyn dyfarnu ar un neu ragor o’r cwestiynau ym mharagraffau (a) i (e) yn is-adran (1).
104.Caniateir i ymchwiliad safonau penodol gael ei gynnal mewn perthynas â pherson penodol neu grŵp penodol o bersonau.
105.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i’r Comisiynydd i gynnal ymchwiliadau safonau ar yr amod ei fod wedi rhoi hysbysiad rhagymchwilio i bob person perthnasol o leiaf 14 diwrnod cyn dechrau’r ymchwiliad.
106.Hysbysiad ysgrifenedig sy’n datgan bod y Comisiynydd yn bwriadu cynnal ymchwiliad safonau ac sy’n nodi pwnc yr ymchwiliad hwnnw yw “hysbysiad rhagymchwilio”.
107.Ystyr “person perthnasol” yw:
yn achos ymchwiliad safonau sy’n ymwneud â pherson penodol, y person hwnnw; ac
yn achos ymchwiliad safonau sy’n ymwneud â grŵp o bersonau, unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i’r Comisiynydd eu bod yn aelodau o’r grŵp a phersonau y mae’r Comisiynydd yn credu ei bod yn briodol rhoi hysbysiadau rhagymchwilio iddyn nhw.
108.Mae’n rhaid i’r Comisiynydd, wrth gynnal ymchwiliad safonau, roi sylw i’r angen i sicrhau nad yw gofynion i bersonau gydymffurfio â safonau yn afresymol neu’n anghymesur.
109.Mae is-adran (2) yn gwneud darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried a’r canlyniadau y mae’n rhaid dod iddynt mewn amgylchiadau penodedig pan fo’r Comisiynydd yn penderfynu, neu pan gaiff ei gyfarwyddo, bod ymchwiliad safonau i ystyried a ddylai safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i berson.
110.Wrth gynnal ymchwiliad safonau, rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori â phob person perthnasol, â’r Panel Cynghori ac â’r cyhoedd (oni fydd, ac i’r graddau y bydd, y Comisiynydd o’r farn ei bod yn amhriodol ymgynghori â’r cyhoedd).
111.Nid yw methiant person i gymryd rhan yn ymgynghoriad y Comisiynydd yn atal y Comisiynydd rhag cynnal yr ymchwiliad safonau.
112.Ystyr “person perthnasol” yw:
yn achos ymchwiliad safonau sy’n ymwneud â pherson penodol, y person hwnnw; ac
yn achos ymchwiliad safonau sy’n ymwneud â grŵp o bersonau, unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i’r Comisiynydd eu bod yn aelodau o’r grŵp a phersonau y mae’r Comisiynydd yn credu ei bod yn briodol ymgynghori â nhw.
113.Ar ôl cynnal ymchwiliad safonau, mae’n rhaid i’r Comisiynydd gynhyrchu adroddiad safonau sy’n nodi casgliadau’r ymchwiliad safonau a rhesymau’r Comisiynydd dros ddod i’r casgliadau hynny.
114.Os bydd ymchwiliad yn dod i’r casgliad y dylai safonau fod yn benodol gymwys i P, a bod unrhyw rai neu’r cyfan o’r safonau hynny heb eu pennu mewn rheoliadau sydd wedi’u gwneud gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1), rhaid i’r adroddiad safonau nodi’r safonau sydd heb eu pennu.
115.Rhaid i’r Comisiynydd anfon copi o’r adroddiad safonau i’r rhai a restrir yn is-adran (4)(a), a chaniateir iddo anfon copi o’r adroddiad at unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd o’r farn bod ganddo fuddiant yn yr adroddiad.
116.Pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan adran 16 (gweler Rhan 2) i gyfarwyddo’r Comisiynydd i gynnal ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson neu grŵp o bersonau, mae’n rhaid i’r cyfarwyddyd bennu’r materion sydd wedi’u rhestru ym mharagraffau (a) i (d) o is-adran (2).
117.Pan fo’r Comisiynydd wedi cynnal ymchwiliad safonau ac wedi cynhyrchu adroddiad safonau rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i’r adroddiad safonau wrth benderfynu a ddylen nhw arfer y pwerau sy’n cael eu rhoi iddyn nhw gan y Rhan hon o’r Mesur, a sut ddylen nhw arfer y pŵer hwnnw.
118.Mae’r adran hon yn darparu nad yw’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i berson nac yn awdurdodi person i’w gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio â safon os yw’r safon honno’n ymwneud â darlledu, ac i’r graddau y mae’n ymwneud â darlledu.
119.Mae is-adran (2) yn diffinio “darlledu” at ddibenion yr adran hon.
120.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i’r Comisiynydd i ddyroddi dogfen y bwriedir iddi roi canllawiau ymarferol (“cod ymarfer safonau”) o ran gofynion unrhyw safonau sy’n cael eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1). Mae codau ymarfer safonau sy’n cael eu cynhyrchu o dan yr adran hon yn dod o dan ofynion ynglŷn ag ymgynghori yn ogystal â gofynion ynglŷn â chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
121.Yn rhinwedd yr adran hon, dydy methiant person i gydymffurfio â darpariaeth mewn cod ymarfer sydd wedi'i gymeradwyo ddim yn peri bod y person hwnnw’n agored i gamau gorfodi o unrhyw fath.
122.Serch hynny, os bydd camau’n cael eu cymryd o dan y Mesur mewn perthynas â methiant person (P) i gydymffurfio â safon (“y methiant safonau honedig”), caniateir dibynnu ar fethiant gan P i gydymffurfio â darpariaeth berthnasol mewn cod ymarfer sydd wedi’i gymeradwyo fel rhywbeth sy’n tueddu i sefydlu bod P yn atebol am y methiant safonau. Ar y llaw arall, caniateir dibynnu ar gydymffurfio â darpariaeth berthnasol mewn cod ymarfer sydd wedi’i gymeradwyo fel rhywbeth sy’n tueddu i sefydlu nad yw P yn atebol am y methiant safonau honedig.
123.Mae’r adran hon yn darparu bod cyfeiriadau:
at fod person yn agored i orfod cydymffurfio â safonau i’w darllen yn unol ag adran 33;
at gofnod person yn y tabl yn Atodlenni 6 neu 8 i’w darllen yn unol ag adran 34;
at fod safon yn gymwysadwy i berson i’w darllen yn unol ag adrannau 36 a 37;
at fod safon yn benodol gymwys i berson i’w darllen yn unol ag adran 39.
124.Darperir hefyd ddiffiniadau i’r tablau yn Atodlenni 5, 6, 7 ac 8.
125.Caiff y Comisiynydd ymchwilio i weld a yw person (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “D”) wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol.
126.Yn y Rhan hon, ystyr “gofyniad perthnasol” yw unrhyw rai o’r canlynol:
dyletswydd i gydymffurfio â safon sy’n cael ei phennu gan Weinidogion Cymru (gweler adran 25);
gofyniad sydd wedi’i gynnwys mewn hysbysiad penderfynu yn rhinwedd adran 79 (sy’n cael ei hesbonio isod);
cynllun gweithredu (gweler adrannau 79 a 80, sy’n cael eu hesbonio isod);
gofyniad sy’n cael ei gynnwys mewn hysbysiad penderfynu yn rhinwedd adran 82 (sy’n cael ei hesbonio isod).
127.Mae Atodlen 10 yn rhoi rhagor o fanylion am ymchwiliadau.
128.Caiff y Comisiynydd, ar unrhyw adeg, derfynu ymchwiliad sy’n cael ei gynnal o dan adran 71. Os caiff ymchwiliad ei derfynu, rhaid i’r Comisiynydd roi gwybod i bob person sydd â buddiant, gan roi gwybod i D am y rhesymau dros wneud y penderfyniad.
129.Pan na fydd y Comisiynydd yn terfynu ymchwiliad, mae’n rhaid iddo ddyfarnu a yw D wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad perthnasol neu beidio (gweler adran 71 uchod). Wrth wneud hynny, rhaid i’r Comisiynydd:
gynhyrchu adroddiad ar yr ymchwiliad (yn unol â’r diffiniad yn adran 74), gan roi copi i bob person sydd â buddiant; a
rhoi hysbysiad penderfynu i D, gan roi copi i unrhyw berson arall sydd â buddiant.
130.Wrth wneud dyfarniad o dan yr adran hon, rhaid i’r Comisiynydd gydymffurfio â’r gofynion sy’n cael eu gosod gan adran 85 (ymgynghori cyn dyfarnu’n derfynol etc).
131.Ystyr adroddiad ar ymchwiliad yw adroddiad ar ymchwiliad o dan adran 71 sy’n cynnwys y cyfan o’r canlynol:
cylch gorchwyl yr ymchwiliad;
crynodeb o’r dystiolaeth a gafodd ei chymryd yn ystod yr ymchwiliad;
canfyddiadau’r Comisiynydd ar yr ymchwiliad;
dyfarniad y Comisiynydd a yw D wedi cydymffurfio â’r gofyniad perthnasol neu beidio;
datganiad ynghylch a fydd y Comisiynydd yn gweithredu ymhellach;
os yw’r Comisiynydd am weithredu ymhellach, datganiad ar y gweithredu hwnnw.
132.Serch hynny, gall y Comisiynydd gynnwys materion eraill yn yr adroddiad.
133.Ystyr hysbysiad penderfynu yw hysbysiad yn datgan dyfarniad y Comisiynydd a wnaeth D fethu â chydymffurfio â’r gofyniad perthnasol neu beidio (yn unol â’r diffiniad yn adran 71), er nad yw’r Comisiynydd yn cael ei atal rhag cynnwys materion eraill yn yr hysbysiad. Mae adrannau eraill yn y Rhan hon o’r Mesur hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad penderfynu gynnwys materion penodol.
134.Os yw’r Comisiynydd yn dyfarnu nad yw D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol (a ddiffinnir yn adran 71) gall benderfynu peidio â gweithredu ymhellach neu, ar y llaw arall, gall roi argymhellion neu gyngor i D neu i unrhyw berson arall.
135.Mae is-adran (4) yn darparu, os ymchwiliad yn dilyn cwyn (o dan adran 93) a wnaed gan berson sy’n honni i D fethu â chydymffurfio â safon yw ymchwiliad a arweiniodd at y dyfarniad na fu methiant i gydymffurfio, rhaid i’r Comisiynydd sicrhau bod yr hysbysiad penderfynu a roddwyd i’r person a wnaeth y gŵyn yn rhoi gwybod i’r person hwnnw am yr hawl i apelio yn erbyn dyfarniad y Comisiynydd. Hawl i apelio i Dribiwnlys y Gymraeg o dan adran 99 ar y sail bod D wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad perthnasol yw’r hawl honno i apelio.
136.Cyn gwneud dyfarniad terfynol ynghylch a yw D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol rhaid i’r Comisiynydd fodloni gofynion adran 85.
137.Mae’r adran hon yn rhestru’r opsiynau sydd ar gael i’r Comisiynydd os yw wedi dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol. Caniateir i’r Comisiynydd beidio â gweithredu ymhellach, neu caiff wneud un neu ragor o’r canlynol o dan adran is-adran (3):
ei gwneud yn ofynnol i D baratoi cynllun gweithredu (at y diben yn adran 79);
ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau (at y diben yn adran 79);
rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio;
ei gwneud yn ofynnol i D roi cyhoeddusrwydd i’r methiant i gydymffurfio;
gosod cosb sifil ar D.
138.O dan is-adran (4), caniateir i’r Comisiynydd roi argymhellion neu gyngor i D neu i unrhyw berson arall neu, os yw D wedi methu â chydymffurfio â safon, wneud cytundeb setlo gyda D. Dydy hi ddim yn ofynnol i D wneud cytundeb o’r fath, ond os bydd D yn gwrthod, mae’r Comisiynydd yn cael arfer ei bwerau o dan yr adran hon yn wahanol. Rhaid i’r Comisiynydd fodloni gofynion adran 85 hefyd.
139.Os bydd y Comisiynydd yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad perthnasol a’i fod yn penderfynu peidio â gweithredu ymhellach, neu os bydd yn rhoi cyngor neu argymhellion neu’n gwneud cytundeb setlo gyda D o dan adran 77(4), rhaid i’r hysbysiad penderfynu (sydd wedi’i ddiffinio yn adran 75) roi rhesymau’r Comisiynydd dros y penderfyniad. Rhaid i’r Comisiynydd fodloni gofynion adran 85 hefyd.
140.Diben y cynllun gweithredu a’r camau yw atal methiant D i gydymffurfio â’r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd.
141.Os bydd y Comisiynydd yn penderfynu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol a’i fod yn ei gwneud yn ofynnol i D baratoi cynllun gweithredu neu gymryd camau, neu’r ddau, yna mae’n rhaid i’r hysbysiad penderfynu nodi’r hyn y mae’r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol i D ei wneud, y terfynau amser o dan sylw, y canlyniadau os na fydd D yn cydymffurfio â’r gofynion yn yr hysbysiad, a rhoi gwybod i D am yr hawl i apelio o dan adran 95 (Apelau i’r Tribiwnlys).
142.Pan fo’r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun gweithredu gael ei baratoi, mae’r adran hon yn caniatáu i’r Comisiynydd gymeradwyo’r cynllun drafft cyntaf, neu ofyn am gynllun drafft diwygiedig os nad yw’r drafft yn ddigonol. Caiff y Comisiynydd wneud cais i lys sirol am orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun drafft cyntaf neu gynllun drafft diwygiedig gael ei roi iddo yn unol â’r gorchymyn.
143.Mae cynllun gweithredu’n dod i rym—
chwe wythnos ar ôl i ddrafft cyntaf neu ddrafft diwygiedig gael ei roi i’r Comisiynydd, (os nad yw’r Comisiynydd yn dyroddi hysbysiad sy’n datgan nad yw’r drafft yn ddigonol gan ofyn am ddrafft diwygiedig, neu nad yw’r Comisiynydd yn gwneud cais i lys am orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddrafft diwygiedig pellach gael ei baratoi), neu
os yw’r Comisiynydd yn gwneud cais i lys am orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddrafft diwygiedig pellach gael ei baratoi, ar yr adeg pan fo llys yn gwrthod gwneud y gorchymyn.
144.Caniateir i gynllun gweithredu gael ei amrywio drwy gytundeb rhwng y Comisiynydd a’r person a’i paratôdd.
145.Mae’r adran hon yn esbonio’r hyn a olygir pan fo’r Mesur yn crybwyll bod y Comisiynydd neu D yn rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio.
146.Mae’r Comisiynydd yn rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio drwy gyhoeddi datganiad bod D wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad perthnasol neu drwy gyhoeddi’r adroddiad ar yr ymchwiliad mewn perthynas â’r ymchwiliad i D, neu’r ddau.
147.Pan fo’n ofynnol i D roi cyhoeddusrwydd i’w fethiant i gydymffurfio â’r gofyniad perthnasol, mae’n ofynnol iddo roi cyhoeddusrwydd i unrhyw rai neu’r cyfan o’r canlynol: datganiad bod D wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad perthnasol, yr adroddiad ar yr ymchwiliad a gynhyrchwyd, neu wybodaeth arall am fethiant D i gydymffurfio.
148.Pan fo’r Comisiynydd yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol a’i fod yn penderfynu rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D neu ei gwneud yn ofynnol i D roi cyhoeddusrwydd i’r methiant, rhaid i’r hysbysiad penderfynu nodi’r hyn y mae’r Comisiynydd i’w wneud neu’r hyn y mae’n ei gwneud yn ofynnol i D ei wneud. Yn ychwanegol, rhaid i’r hysbysiad penderfynu roi gwybod i D am ganlyniadau peidio â chydymffurfio â gofyniad yn yr hysbysiad ac am hawl D i apelio o dan adran 95. Rhaid i’r Comisiynydd fodloni gofynion adran 85 hefyd.
149.Wrth ddyfarnu a ddylai osod cosb sifil ar unrhyw berson, a swm unrhyw gosb sifil, mae’n rhaid i’r Comisiynydd roi sylw i ba mor ddifrifol yw’r mater y mae’r gosb yn cael ei gosod amdano, amgylchiadau’r person y mae’r gosb i’w gosod arno, a’r angen i atal y methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol rhag parhau neu ddigwydd eto. Dydy’r Comisiynydd ddim yn cael ei atal rhag rhoi sylw i faterion eraill.
150.Mae’r adran hon hefyd yn pennu uchafswm cosb sifil.
151.Os yw’r Comisiynydd yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol, a’i fod yn penderfynu gosod cosb sifil, mae’n rhaid i’r hysbysiad penderfynu nodi’r gosb sifil, sut y gall gael ei thalu, ac o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid iddi gael ei thalu (sy’n gorfod bod yn gyfnod o nid llai nag 28 diwrnod). Mae’n rhaid hefyd i’r hysbysiad roi gwybod i D am y canlyniadau os na fydd D yn ei thalu, ac am hawl D i apelio o dan adran 95. Rhaid i’r Comisiynydd fodloni gofynion adran 85 hefyd.
152.Mae’r adran hon yn gymwys os bydd y Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad o dan adran 71. Cyn dyfarnu’n derfynol a yw D wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad perthnasol neu beidio, rhaid i’r Comisiynydd roi hysbysiad o ddyfarniad arfaethedig y Comisiynydd i bob person sydd â buddiant.
153.Cyn penderfynu’n derfynol pa gamau i’w cymryd, os yw am gymryd camau o gwbl, o dan is-adran (3) mae’n rhaid i’r Comisiynydd roi hysbysiad i bob person sydd â buddiant i ddweud a yw’r Comisiynydd yn bwriadu cymryd camau neu beidio, hysbysiad o unrhyw gamau arfaethedig, datganiad o’r rhesymau dros fwriadu cymryd y camau hynny, a chopïau o’r hysbysiad penderfynu drafft y mae’r Comisiynydd yn bwriadu ei ddyroddi.
154.Cyn setlo’r adroddiad ar yr ymchwiliad, rhaid i’r Comisiynydd roi drafft i bob person sydd â buddiant yn yr adroddiad arfaethedig ar yr ymchwiliad, gan roi cyfle i D ac unrhyw berson arall sydd â buddiant gyflwyno sylwadau am y dyfarniad neu’r adroddiad arfaethedig ar yr ymchwiliad. Mae D hefyd yn cael cyflwyno sylwadau ynghylch y cynigion sydd wedi’u rhestru yn is-adran (3).
155.Rhaid i’r Comisiynydd roi sylw dyladwy i unrhyw sylwadau wedi’u gwneud gan D neu gan unrhyw berson arall sydd â buddiant cyn gwneud unrhyw beth y mae’r sylwadau’n cyfeirio ato. Y Comisiynydd sy’n pennu’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau, ond rhaid iddo beidio â bod yn llai nag 28 diwrnod.
156.Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r Tribiwnlys yn cyfarwyddo’r Comisiynydd, yn dilyn apêl o dan adran 99 neu adran 101, neu’n dilyn unrhyw apêl arall, i benderfynu o dan adran 73 fod D wedi methu â chydymffurfio â safon.
157.Cyn penderfynu’n derfynol pa gamau i’w cymryd, os cymryd camau o gwbwl, ar sail y dyfarniad, rhaid i’r Comisiynydd, mewn perthynas â phob person a chanddo fuddiant, fodloni gofynion is-adrannau (2)(a) i (c).
158.Cyn setlo’r adroddiad ar ymchwiliad, rhaid i’r Comisiynydd roi i bob person a chanddo fuddiant ddrafft o’r adroddiad arfaethedig ar ymchwiliad a rhoi i D ac unrhyw berson arall a chanddo fuddiant gyfle i wneud sylwadau. Yn achos D, caiff D wneud sylwadau ynghylch y cynigion y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2) a (3) ac yn achos unrhyw berson arall a chanddo fuddiant, caiff y person hwnnw wneud sylwadau ynghylch y cynigion y cyfeirir atynt yn is-adran (3).
159.Rhaid i’r Comisiynydd roi sylw dyladwy i unrhyw sylwadau a wnaed gan D neu gan unrhyw berson arall a chanddo fuddiant cyn gwneud unrhyw beth y mae’r sylwadau’n ymwneud â hwy. Bydd y Comisiynydd yn penderfynu beth fydd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau ond rhaid i’r cyfnod beidio â bod yn llai na 28 o ddiwrnodau.
160.Mae “person a chanddo fuddiant” mewn perthynas ag ymchwiliad gan y Comisiynydd i’r cwestiwn a yw D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol yn cynnwys D a, phan fydd yr ymchwiliad yn dilyn cwyn a wnaed o dan adran 93, y person a wnaeth y gŵyn.
161.Mae’r adran hon yn nodi beth sy’n digwydd os bydd y Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D sy’n nodi’r camau gorfodi y mae’r Comisiynydd wedi penderfynu eu cymryd.
162.Ar ddiwedd y cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer gwneud apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 95, mae’r camau gorfodi’n dod yn effeithiol ac mae’n rhaid i D baratoi cynllun gweithredu neu gymryd camau, rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfio, neu dalu cosb sifil, yn unol â gofynion yr hysbysiad penderfynu, a chaiff y Comisiynydd roi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio.
163.Serch hynny, os bydd apêl yn cael ei gwneud i’r Tribiwnlys, dydy’r camau gorfodi ddim yn dod yn effeithiol nes i’r apêl honno ac unrhyw apêl arall ddod i ben, ac ni chaniateir i apêl arall gael ei gwneud, neu ddim ond gyda chaniatâd Tribiwnlys neu lys y caniateir i apêl arall gael ei gwneud.
164.Pan fo hysbysiad penderfynu yn ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau, mae’r adran hon yn caniatáu i’r Comisiynydd wneud cais i lys sirol am orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i D gymryd y camau hynny.
165.Caiff y Comisiynydd wneud cais i’r llys yn ystod cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd yr hysbysiad penderfynu ei roi.
166.Pan fo D wedi paratoi cynllun gweithredu yn unol â’r gofynion yn yr hysbysiad penderfynu, mae’r adran hon yn caniatáu i’r Comisiynydd wneud cais i lys sirol am orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â’r cynllun gweithredu.
167.Caiff y Comisiynydd wneud cais i’r llys yn ystod cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r cynllun gweithredu i rym.
168.Pan fo hysbysiad penderfynu yn ei gwneud yn ofynnol i D roi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfio, mae’r adran hon yn caniatáu i’r Comisiynydd wneud cais i lys sirol am orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i D roi cyhoeddusrwydd i’r methiant yn unol â’r hyn a nodwyd yn yr hysbysiad.
169.Caiff y Comisiynydd wneud cais i’r llys yn ystod cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd yr hysbysiad penderfynu ei roi.
170.Mae’r adran hon yn esbonio’r hyn a olygir pan fo’r Mesur yn cyfeirio at gytundeb setlo rhwng y Comisiynydd a pherson (y cyfeirir ato fel D) mewn perthynas â methiant D i gydymffurfio â safon.
171.Mae cytundeb setlo yn cynnwys ymrwymiad gan D:
i beidio â methu â chydymffurfio ag un neu ragor o safonau;
i gymryd camau penodol;
i ymatal rhag cymryd camau penodol
ac ymrwymiad gan y Comisiynydd i beidio â chymryd camau gorfodi mewn perthynas â’r methiant.
172.Caiff y cytundeb setlo gynnwys darpariaeth arall ac mae hefyd yn gallu cael ei amrywio neu ei derfynu drwy gytundeb y Comisiynydd a D. Serch hynny, dydy gwneud cytundeb setlo ddim yn golygu bod D wedi cyfaddef i’r methiant.
173.Caniateir i’r Comisiynydd wneud cais i’r llys sirol am orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â chytundeb setlo. Caiff y Comisiynydd wneud cais i’r llys yn ystod cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r cytundeb setlo’n cael ei wneud.
174.Pan fo person (y cyfeirir ato fel “P”) yn gwneud cwyn ddilys i’r Comisiynydd ynghylch ymddygiad D, mae’r Comisiynydd o dan ddyletswydd i ystyried a ddylai gynnal ymchwiliad o dan adran 71 ynghylch a yw D wedi methu â chydymffurfio â safon.
175.I fod yn gŵyn ddilys, rhaid i’r amodau yn is-adrannau (3) i (6) gael eu bodloni. Hyd yn oed os yw’r gŵyn yn un ddilys, does dim dyletswydd ar y Comisiynydd i ystyried a ddylai gynnal ymchwiliad o dan yr amgylchiadau sydd wedi’u rhestru yn is-adran (7).
176.Serch hynny, o dan amgylchiadau pan nad yw’r gŵyn yn bodloni pob un o’r amodau ar gyfer cwyn ddilys, neu pan fo is-adran (7) yn gymwys, mae gan y Comisiynydd y disgresiwn i ystyried a ddylai gynnal yr ymchwiliad.
177.Os gwneir cwyn o dan yr adran hon gan berson sy’n gweithredu ar ran person arall, mae is-adran (9) yn sicrhau bod cyfeiriad at y person a wnaeth y gŵyn (gan gynnwys achos pan gyfeirir at y person hwnnw fel “P”), yn narpariaethau’r Mesur hwn sy’n ymwneud ag apelau neu apelau eraill sy’n gysylltiedig â’r gŵyn, i’w ddarllen fel cyfeiriad at y person arall hwnnw (ac nid fel cyfeiriad at y person a wnaeth y gŵyn ar ran y person arall hwnnw).
178.Pan fo’r Comisiynydd, ac yntau wedi cael cwyn gan P o dan adran 93, yn gwneud penderfyniad sy’n dod o fewn unrhyw un o’r pum achos a restrir isod, mae’r Comisiynydd o dan ddyletswydd i hysbysu P o’r penderfyniad, y rhesymau dros y penderfyniad ac o’r hawl i wneud cais i’r Tribiwnlys o dan adran 103 am gael adolygiad o’r penderfyniad.
Achos 1: dyma achos pan fo cwyn sy’n bodloni’r amodau yn adran 93(3) i (6) yn cael ei gwneud a phan fo’r Comisiynydd o dan ddyletswydd i ystyried a ddylai gynnal ymchwiliad, ond yn penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad.
Achos 2: dyma achos pan nad yw’r Comisiynydd o dan ddyletswydd i ystyried a ddylai gynnal ymchwiliad gan fod y gŵyn yn un o fath sy’n dod o fewn adran 93(7), a phan fo’r Comisiynydd yn gwneud y penderfyniad i beidio ag ystyried a ddylai gynnal ymchwiliad.
Achos 3: dyma achos pan wneir cwyn, a phan fo’r Comisiynydd yn penderfynu nad yw’r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried a ddylai gynnal ymchwiliad yn gymwys.
Achos 4: dyma achos pan wneir cwyn a phan nad yw’r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried a ddylid cynnal ymchwiliad ai peidio i’r ymddygiad honedig yn gymwys a phan fo’r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ystyried a ddylai gynnal ymchwiliad i’r ymddygiad honedig o dan adran 93(8) neu, ar ôl ystyried a ddylai gynnal ymchwiliad o dan yr adran honno, yn penderfynu peidio â chynnal yr ymchwiliad.
Achos 5: dyma achos pan wneir cwyn a phan fo’r Comisiynydd, ac yntau’n wreiddiol wedi penderfynu cynnal ymchwiliad, wedyn yn penderfynu peidio â pharhau â’r ymchwiliad.
179.Mewn amgylchiadau pan fo’r Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad o dan adran 71 ac yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol, mae adran 95 yn darparu ffordd i D i apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn y dyfarniad hwnnw yn ogystal ag yn erbyn unrhyw gamau gorfodi a gymerir gan y Comisiynydd mewn cysylltiad â methiant D i gydymffurfio.
180.Mae apêl D i’r Tribiwnlys ar y sail na fu methiant i gydymffurfio â’r gofyniad perthnasol yn ddarostyngedig i is-adran (3) sy’n atal D rhag apelio os yw cyfarwyddyd a roddwyd gan y Tribiwnlys yn dilyn apêl gan P o dan adran 99 neu 101, neu unrhyw apêl bellach, wedi arwain at ddyfarniad y Comisiynydd bod methiant i gydymffurfio wedi bod.
181.Caniateir gwneud apêl yn erbyn unrhyw gamau gorfodi a gymerir gan y Comisiynydd mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol ar y sail bod y camau gorfodi’n afresymol neu’n anghymesur.
182.Caiff D apelio yn erbyn y dyfarniad bod methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol wedi bod yn ogystal ag yn erbyn camau gorfodi a gymerir gan y Comisiynydd. Rhaid i apelau gael eu gwneud o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y mae’r Comisiynydd yn rhoi’r hysbysiad penderfynu sy’n ofynnol o dan adran 73 i D. Caiff y Tribiwnlys dderbyn apelau ar ôl y cyfnod o 28 o ddiwrnodau os bydd D yn gwneud cais ysgrifenedig iddo a bod y Tribiwnlys wedi’i fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a thros yr oedi (os oes oedi wedi bod) cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol.
183.Mae’r adran hon yn nodi’r hyn y caiff y Tribiwnlys ei wneud mewn perthynas â dyfarniad y Comisiynydd neu â chamau gorfodi’r Comisiynydd. Rhaid i’r Tribiwnlys hysbysu D a’r Comisiynydd o’i benderfyniad ar apêl o dan adran 95.
184.Mae i unrhyw benderfyniad sy’n cael ei gymryd gan y Tribiwnlys ynghylch apêl yr un effaith, a gall gael ei orfodi yn yr un ffordd, â dyfarniad gan y Comisiynydd.
185.Pan fo’r Tribiwnlys wedi penderfynu ar apêl, caiff y Comisiynydd, D neu, mewn achosion pan fo P wedi gwneud cais llwyddiannus i gael ei ychwanegu’n barti yn achos y Tribiwnlys, P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu’r Uchel Lys, apelio i’r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol sy’n codi o benderfyniad y Tribiwnlys.
186.Os bydd yr Uchel Lys yn dyfarnu bod y Tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad ar bwynt cyfreithiol, caiff yr Uchel Lys osod penderfyniad y Tribiwnlys o’r neilltu. Os caiff yr achos ei osod o’r neilltu, rhaid i’r Uchel Lys naill ai ail-wneud y penderfyniad neu anfon yr achos yn ôl i’r Tribiwnlys gyda chyfarwyddiadau mewn cysylltiad â’i ailystyried.
187.Mae is-adrannau (4) a (5) yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfarwyddiadau y caiff yr Uchel Lys eu rhoi i’r Tribiwnlys ac ynghylch pwerau’r Uchel Lys pan fydd yn ail-wneud penderfyniad a wnaed gan y Tribiwnlys.
188.Rhaid gwneud cais i’r Tribiwnlys neu i’r Uchel Lys am ganiatâd i apelio a hynny cyn pen cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dechrau ar y diwrnod yr hysbysodd y Tribiwnlys y person sy’n gwneud y cais o benderfyniad y Tribiwnlys ar yr apêl o dan adran 95. Mae gan y Tribiwnlys neu’r Uchel Lys y disgresiwn i ganiatáu i apelau gael eu gwneud ar ôl y cyfnod hwnnw os yw wedi’i fodloni bod rheswm da dros y methiant i wneud cais am ganiatâd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ac, os oes oedi wedi bod cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw).
189.Mewn amgylchiadau pan yw’r Comisiynydd wedi ymchwilio i fethiant honedig gan D i gydymffurfio â safon yn dilyn cwyn a wnaed gan berson o dan adran 93 a phan wneir apêl o dan adran 95 neu 97, neu unrhyw apêl bellach, mewn perthynas â’r ymchwiliad a phan nad yw P yn barti yn yr achos hwnnw, rhaid i’r Comisiynydd gydymffurfio â’r gofynion a geir yn is-adran (2).
190.Mae is-adran (2) yn darparu bod yn rhaid i’r Comisiynydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael gwybod, hysbysu’r person sydd wedi gwneud y gŵyn ynghylch:
canlyniad apêl o dan adran 95;
y ffaith bod apêl o dan adran 97 (neu unrhyw apêl bellach ) wedi’i gwneud; a
canlyniad apêl o dan adran 97 (neu unrhyw apêl bellach).
191.Mae’r adran hon yn darparu hawl i apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn dyfarniad gan y Comisiynydd, yn dilyn ymchwiliad, na fu methiant i gydymffurfio â safon. Dim ond person (“P”) gaiff wneud yr apêl honno, a hynny mewn amgylchiadau pan fo’i gŵyn i’r Comisiynydd o dan adran 93 ynghylch methiant honedig gan berson (“D”) i gydymffurfio â safon, wedi arwain at ymchwiliad a’r dyfarniad dilynol na fu methiant i gydymffurfio.
192.Caiff P apelio ar y sail bod D wedi methu â chydymffurfio â safon. Rhaid gwneud apelau o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau’n dechrau ar y diwrnod y mae’r Comisiynydd yn rhoi i P yr hysbysiad penderfynu mewn perthynas â gofynion adran 73. Caiff y Tribiwnlys dderbyn apelau ar ôl y cyfnod o 28 o ddiwrnodau os yw P yn gwneud cais ysgrifenedig i’r Tribiwnlys a bod y Tribiwnlys wedi’i fodloni bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a thros yr oedi (os oes oedi wedi bod) cyn ceisio am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol.
193.Mae’r adran hon yn darparu y gall y Tribiwnlys, os daw apêl o dan adran 99 i law, naill ai cadarnhau neu ddiddymu dyfarniad y Comisiynydd. Os yw’r Tribiwnlys yn diddymu dyfarniad y Comisiynydd, rhaid i’r Tribiwnlys gyfarwyddo’r Comisiynydd i benderfynu o dan adran 73 fod D wedi methu â chydymffurfio â’r safon.
194.Mae’r adran hon yn darparu ffordd i’r Comisiynydd, i P neu, mewn achosion pan fo D wedi gwneud cais llwyddiannus i gael ei ychwanegu’n barti mewn achos, i D, apelio i’r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol sy’n deillio o benderfyniad y Tribiwnlys yn dilyn apêl gan P.
195.Os yw’r Uchel Lys yn dyfarnu bod y Tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad ar bwynt cyfreithiol, caiff yr Uchel Lys roi penderfyniad y Tribiwnlys o’r neilltu. Os rhoddir yr achos o’r neilltu, rhaid i’r Uchel Lys naill ai ail-wneud y penderfyniad neu anfon yr achos yn ôl i’r Tribiwnlys gyda chyfarwyddiadau mewn cysylltiad â’i ailystyried.
196.Mae is-adrannau (4) a (5) yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfarwyddiadau y caiff yr Uchel Lys eu rhoi i’r Tribiwnlys ac ynghylch pwerau’r Uchel Lys pan fydd yn ail-wneud penderfyniad a wnaed gan y Tribiwnlys.
197.Rhaid gwneud cais i’r Tribiwnlys neu i’r Uchel Lys am ganiatâd i apelio, a hynny o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dechrau ar y diwrnod yr hysbysodd y Tribiwnlys y person sy’n gwneud y cais o’i benderfyniad ar yr apêl o dan adran 99. Mae gan y Tribiwnlys neu’r Uchel Lys y disgresiwn i ganiatáu i apelau gael eu gwneud ar ôl y cyfnod hwnnw os ydynt wedi’u bodloni bod rheswm da dros y methiant i geisio am ganiatâd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ac, os oes oedi wedi bod cyn ceisio am ganiatâd i apelio ar ôl y cyfnod priodol, dros yr oedi hwnnw.
198.Mewn amgylchiadau pan fydd y Comisiynydd wedi ymchwilio i fethiant honedig gan D i gydymffurfio â safon yn dilyn cwyn a wnaed gan berson o dan adran 93 a phan wneir apêl o dan adran 99 neu 101, neu unrhyw apêl bellach, mewn perthynas â’r ymchwiliad a phan nad yw D yn barti yn yr achos hwnnw, rhaid i’r Comisiynydd gydymffurfio â’r gofynion a geir yn is-adran (2).
199.Mae is-adran (2) yn darparu bod yn rhaid i’r Comisiynydd hysbysu D, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael gwybod:
am ganlyniad apêl o dan adran 99;
am y ffaith bod apêl o dan adran 101 (neu unrhyw apêl bellach) wedi’i gwneud; ac
am ganlyniad apêl o dan adran 101 (neu unrhyw apêl bellach).
200.Mae’r adran hon yn darparu bod gan berson sydd wedi gwneud cwyn o dan adran 93 (“P”) yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys yn gofyn i’r Tribiwnlys adolygu un o benderfyniadau’r Comisiynydd sy’n dod o fewn unrhyw un o’r pum achos a bennir yn is-adrannau (5) i (9).
Achos 1: dyma achos pan wneir cwyn sy’n bodloni’r amodau yn adran 93(3) i (6) a phan fo’r Comisiynydd o dan ddyletswydd i ystyried a ddylai gynnal ymchwiliad ai peidio ond pan fo’n penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad.
Achos 2: dyma achos pan nad yw’r Comisiynydd o dan ddyletswydd i ystyried a ddylai gynnal ymchwiliad ai peidio gan fod y gŵyn yn un o fath sy’n dod o fewn adran 93(7) a phan fo’r Comisiynydd yn gwneud penderfyniad i beidio ag ystyried a ddylai gynnal ymchwiliad.
Achos 3: dyma achos pan wneir cwyn a phan fo’r Comisiynydd yn penderfynu nad yw’r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried a ddylai gynnal ymchwiliad ai peidio yn gymwys.
Achos 4: dyma achos pan wneir cwyn a phan nad yw’r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried a ddylid cynnal ymchwiliad ai peidio i’r ymddygiad honedig yn gymwys a phan fo’r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ystyried a ddylai gynnal ymchwiliad i’r ymddygiad honedig o dan adran 93(8) neu, ac yntau wedi ystyried a ddylai gynnal ymchwiliad o dan yr adran honno, yn penderfynu peidio â chynnal yr ymchwiliad.
Achos 5: dyma achos pan wneir cwyn a phan fo’r Comisiynydd, ac yntau’n wreiddiol wedi penderfynu cynnal ymchwiliad, wedyn yn penderfynu peidio â pharhau â’r ymchwiliad.
201.I wneud cais, rhaid i P gael caniatâd y Tribiwnlys. Rhaid rhoi caniatâd pan fo’r Tribiwnlys o’r farn ei bod yn rhesymol disgwyl i’r cais fod yn llwyddiannus neu pan fo rhyw reswm cryf arall pam y dylai’r cais gael ei glywed.
202.Rhaid i’r Tribiwnlys ymdrin â chais am adolygiad fel pe bai’n gais am adolygiad barnwrol a wnaed i’r Uchel Lys. Fodd bynnag, os gwneir cais am adolygiad, gall y Tribiwnlys, o dan adran 104, naill ai cadarnhau neu ddiddymu dyfarniad y Comisiynydd.
203.Rhaid gwneud ceisiadau am adolygiad o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau’n dechrau ar y diwrnod y mae’r Comisiynydd yn rhoi i P hysbysiad o’i benderfyniad o dan adran 94. Caiff y Tribiwnlys dderbyn ceisiadau ar ôl y cyfnod o 28 o ddiwrnodau os yw P yn gwneud cais ysgrifenedig ac os yw’r Tribiwnlys wedi’i fodloni bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a thros yr oedi (os oes oedi wedi bod) cyn ceisio am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol.
204.Os gwneir cais am adolygiad, mae’r adran hon yn darparu y gall y Tribiwnlys naill ai cadarnhau neu ddiddymu dyfarniad y Comisiynydd. Os yw’r Tribiwnlys yn diddymu dyfarniad y Comisiynydd, rhaid i’r Tribiwnlys anfon yr achos yn ôl i’r Comisiynydd gyda chyfarwyddiadau mewn cysylltiad â’i ailystyried.
205.Mae’r adran hon yn darparu ffordd i’r Comisiynydd neu i P apelio i’r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol sy’n deillio o adolygiad y Tribiwnlys o benderfyniad a wnaed gan y Comisiynydd, sy’n benderfyniad sy’n dod o fewn un o’r pum achos y gellir eu hadolygu o dan adran 103.
206.Os yw’r Uchel Lys yn dyfarnu bod y Tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad ar bwynt cyfreithiol, caiff yr Uchel Lys roi o’r neilltu benderfyniad y Tribiwnlys. Os rhoddir yr achos o’r neilltu, rhaid i’r Uchel Lys naill ai ail-wneud y penderfyniad neu anfon yr achos yn ôl i’r Tribiwnlys gyda chyfarwyddiadau mewn cysylltiad â’i ailystyried.
207.Mae is-adrannau (4) a (5) yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfarwyddiadau y caiff yr Uchel Lys eu rhoi i’r Tribiwnlys ac ynghylch pwerau’r Uchel Lys pan fydd yn ail-wneud penderfyniad a wnaed gan y Tribiwnlys.
208.Rhaid gwneud cais i’r Tribiwnlys neu i’r Uchel Lys am ganiatâd i apelio, a hynny o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dechrau ar y diwrnod yr hysbysodd y Tribiwnlys y person sy’n gwneud y cais o’i benderfyniad ar yr apêl o dan adran 103. Mae gan y Tribiwnlys neu’r Uchel Lys y disgresiwn i ganiatáu i apelau gael eu gwneud ar ôl y cyfnod hwnnw os yw wedi’i fodloni bod rheswm da dros y methiant i geisio am ganiatâd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ac, os oes oedi wedi bod cyn ceisio am ganiatâd i apelio ar ôl y cyfnod priodol, dros yr oedi hwnnw.
209.Mae’r adran hon yn gymwys mewn dau achos.
210.Yr achos cyntaf yw:
pan fo D yn gwneud apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 95(2) yn erbyn dyfarniad gan y Comisiynydd fod D wedi methu â chydymffurfio â safon; a
pan wnaed y dyfarniad hwnnw ar ôl ymchwiliad yn dilyn cwyn ynghylch ymddygiad D o dan adran 93.
211.Yn yr achos hwn, rhaid i’r Tribiwnlys hysbysu’r person (“P”) a wnaeth y gŵyn o dan adran 93 fod D wedi gwneud yr apêl a chaiff P wneud cais i’r Tribiwnlys i gael ei ychwanegu’n barti yn yr achos. Os ychwanegir P yn barti, rhaid i’r Tribiwnlys hysbysu P o’i benderfyniad ar apêl. Caiff P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu’r Uchel Lys, apelio i’r Uchel Lys o dan adran 97 ar bwynt cyfreithiol sy’n deillio o’r penderfyniad hwnnw.
212.Yr ail achos yw:
pan fo P yn apelio i’r Tribiwnlys o dan adran 99 yn erbyn dyfarniad gan y Comisiynydd na wnaeth D fethu â chydymffurfio â safon; a
pan fo’r dyfarniad wedi’i wneud ar ôl ymchwiliad yn dilyn cwyn gan P ynghylch ymddygiad D o dan adran 93.
213.Yn yr achos hwn, rhaid i’r Tribiwnlys hysbysu D fod P wedi apelio o dan adran 99 a chaiff D wneud cais i’r Tribiwnlys i gael ei ychwanegu’n barti yn yr achos. Os ychwanegir D yn barti, mae’r Tribiwnlys o dan ddyletswydd i hysbysu D o’i benderfyniad ar yr apêl a chaiff D, gyda chaniatâd, apelio i’r Uchel Lys o dan adran 101 ar bwynt cyfreithiol sy’n deillio o’r penderfyniad hwnnw.
214.Os yw’r Comisiynydd yn credu:
bod person wedi’i rwystro wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rhan hon, neu
mewn perthynas ag ymchwiliad o dan adran 71, fod person wedi gweithredu mewn modd a fyddai’n ddirmyg llys pe bai’r ymchwiliad yn cael ei drafod gan yr Uchel Lys
caiff y Comisiynydd ddyroddi tystysgrif i’r Uchel Lys. Caiff yr Uchel Lys ymchwilio i’r mater. Os yw wedi’i fodloni y byddai gweithredoedd person yn ddirmyg llys, caiff ddelio â’r person hwnnw fel pe bai’r person hwnnw wedi cyflawni dirmyg mewn perthynas â’r Uchel Lys.
215.Rhaid i’r Comisiynydd gynhyrchu dogfen polisi gorfodi yn nodi ei ymagwedd arfaethedig at arfer swyddogaethau’r Comisiynydd o dan y Rhan hon. Rhaid i’r ddogfen ac unrhyw ddiwygiadau iddi gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
216.Mae’r adran hon hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch trefnu bod y ddogfen hon ar gael i’w harchwilio ac ynghylch rhoi cyhoeddusrwydd i’r trefniadau hynny.
217.Rhaid i’r Comisiynydd greu a chynnal cofrestr gyfoes o’r holl gamau gorfodi y mae’n eu cymryd. Mae’r adran hon yn datgan yr hyn y mae’n rhaid i’r gofrestr ei gynnwys.
218.Mae’r adran hon hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch trefnu bod y gofrestr ar gael i’w harchwilio ac ynghylch rhoi cyhoeddusrwydd i'r trefniadau hynny.
219.Mae’r adran hon yn diffinio “camau gorfodi” a “person a chanddo fuddiant” at ddibenion Rhan 5.
220.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth i unigolyn (y cyfeirir ato yn y Mesur ac yn y nodyn esboniadol hwn fel “P”) sydd o’r farn bod trydydd person (y cyfeirir ato yn y Mesur ac yn y nodyn esboniadol hwn fel “D”) wedi ymyrryd â’i ryddid i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg ag unigolyn arall (y cyfeirir ato yn y Mesur ac yn y nodyn esboniadol hwn fel “R”) wneud cais i’r Comisiynydd yn gofyn iddo ymchwilio i’r ymyrraeth honedig. Mae is-adran (3) yn nodi sut y dylai’r cais gael ei gyflwyno ac mae is-adrannau (4) a (5) yn nodi’r manylion y mae’n rhaid eu cynnwys yn y cais.
221.Mae’r adran hon yn diffinio ‘cyfathrebiad Cymraeg’ fel cyfathrebiad yn Gymraeg rhwng dau unigolyn sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ac sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd wrth ymgymryd â’r cyfathrebiad.
222.At ddibenion y rhan hon o’r Mesur mae’r adran hon yn nodi beth yw ymyrraeth â’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg y caniateir i’r Comisiynydd ymchwilio iddo. Gall ymyrraeth ddigwydd ar sawl ffurf wahanol ac mae’r ffurfiau hyn yn cael eu disgrifio yn is-adrannau (2) i (8).
223.Mae is-adran (2)(a) yn caniatáu i’r Comisiynydd ymchwilio i achosion o ymyrraeth lle mae D wedi mynegi i P neu R fod rhaid iddyn nhw beidio ag ymgymryd â chyfathrebiad penodol yn Gymraeg sy’n syrthio o fewn y diffiniad o gyfathrebiad Cymraeg.
224.Effaith is-adran (2)(b) yw y bydd y Comisiynydd hefyd yn cael ymchwilio i achosion lle mae D, yn hytrach na mynegi na ddylai cyfathrebiad penodol ddigwydd,
wedi mynegi’n fwy cyffredinol na ddylai’r Gymraeg gael ei defnyddio; a
mae mynegiad mwy cyffredinol D yn cynnwys cyfathrebiadau sy’n syrthio o fewn y diffiniad o “cyfathrebiad Cymraeg”.
225.Rhaid i is-adran (2) gael ei darllen ar y cyd ag is-adran (6). Diben is-adran (6) yw cydnabod bod yna nifer o ffyrdd gwahanol i D fynegi na ddylai P ac R ymgymryd â chyfathrebiad penodol neu gategori penodol o gyfathrebiadau. Mae is-adran (6) yn ei gwneud yn glir bod rhoi cyfarwyddyd yn un ffordd o’r fath, ac felly hefyd mynegi y bydd P neu R yn dioddef anfantais (drwy law D neu drwy law rhywun arall) os byddan nhw’n ymgymryd â’r cyfathrebiad neu’r categori o gyfathrebiadau. Ffordd arall yw i D, neu rywun arall ar anogaeth D, beri bod P neu R yn dioddef anfantais mewn cysylltiad ag ymgymryd â’r cyfathrebiad neu’r categori o gyfathrebiadau.
226.Does dim bwriad i is-adran (6) fod yn rhestr gynhwysfawr o’r ffyrdd y gallai D eu defnyddio i fynegi na ddylai P ac R ymgymryd â chyfathrebiad penodol neu gategori penodol o gyfathrebiadau. Gallai’r mynegi gael ei wneud mewn ffordd wahanol nad yw ymhlith y rhai sydd wedi’u rhestru.
227.Mae is-adran (3)(a) yn caniatáu i’r Comisiynydd ymchwilio i achosion o ymyrraeth lle mae D wedi mynegi y bydd P neu R yn dioddef anfantais (drwy law D neu drwy law rhywun arall) am eu bod wedi ymgymryd â chyfathrebiad penodol yn Gymraeg sy’n syrthio o fewn y diffiniad o gyfathrebiad Cymraeg.
228.Mae is-adran (3)(b) yn gwneud gwaith tebyg i is-adran (2)(b) sydd wedi'i hesbonio uchod. Mae’n caniatáu i’r Comisiynydd ymchwilio i achosion lle mae bygythiad D y bydd anfantais yn cael ei pheri yn ymwneud â defnyddio’r Gymraeg yn fwy cyffredinol, ond ei fod yn cynnwys cyfathrebiadau sy’n syrthio o fewn y diffiniad o gyfathrebiad Cymraeg.
229.Mae is-adran (4)(a) yn caniatáu i’r Comisiynydd ymchwilio i achosion o ymyrraeth lle mae D, neu rywun sy’n gweithredu ar anogaeth D, eisoes wedi peri anfantais i P neu R am eu bod wedi ymgymryd â chyfathrebiad penodol yn Gymraeg sy’n syrthio o fewn y diffiniad o gyfathrebiad Cymraeg.
230.Mae is-adran (4)(b) yn gwneud gwaith tebyg i is-adrannau (2)(b) a (3)(b) sydd wedi’u hesbonio uchod. Mae’n caniatáu i’r Comisiynydd ymchwilio i achosion lle mae penderfyniad D (neu rywun arall ar anogaeth D) i beri anfantais yn ymwneud â defnyddio’r Gymraeg yn fwy cyffredinol, ond ei fod yn cynnwys cyfathrebiadau sy’n syrthio o fewn y diffiniad o gyfathrebiad Cymraeg.
231.Mae is-adran (5) yn darparu mai dim ond i’r graddau y mae hynny’n effeithio ar gyfathrebiadau Cymraeg y caiff y Comisiynydd ystyried gweithred D a dod i benderfyniad arno mewn achosion lle mae mynegiadau mwy cyffredinol yn cynnwys cyfathrebiadau sy’n syrthio o fewn y diffiniad o gyfathrebiad Cymraeg.
232.Mae is-adran (6) wedi’i hesbonio uchod yn y nodyn sy’n ymdrin ag is-adran (2).
233.Mae is-adran (7) yn darparu nad yw pŵer y Comisiynydd i ymchwilio i fynegiad gan D fod rhaid peidio ag ymgymryd â chyfathrebiad yn Gymraeg neu y bydd anfantais yn cael ei pheri yn dibynnu mewn unrhyw fodd ar y cwestiwn a oes gan D neu unrhyw un arall y gallu i gyflawni’r hyn a fynegwyd.
234.Mae is-adran (8) yn ei gwneud yn glir bod cael eich bygylu, eich bwlio, eich aflonyddu neu eich bychanu yn gyfystyr â dioddef anfantais at ddibenion yr adran hon.
235.Pan fo cais yn cael ei wneud o dan adran 111 gan P i’r Comisiynydd ymchwilio i ymyrraeth honedig, mae’r adran hon yn datgan mai mater i’r Comisiynydd yw penderfynu a ddylai ymchwilio neu beidio. Mae is-adran (3) yn rhestru materion y mae’n rhaid i’r Comisiynydd eu hystyried neu y caiff eu hystyried wrth wneud y penderfyniad hwnnw.
236.Mae’n rhaid i’r Comisiynydd gymryd i ystyriaeth y cyd-destun y mae’r ymyrraeth honedig wedi digwydd ynddo, gan gynnwys unrhyw berthynas sy’n bodoli rhwng D a P, neu D ac R. Mae’r Comisiynydd yn awdurdod cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ac felly mae’n rhaid iddo beidio â gweithredu mewn ffordd sy’n anghydnaws â hawliau’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (y Confensiwn). Mae Erthygl 8 o’r Confensiwn yn ymdrin â’r hawl i gael parch i fywyd preifat a bywyd teuluol.
237.Serch hynny, nid yw’r Comisiynydd yn cael ei gyfyngu i ystyried dim ond y materion sydd wedi’u rhestru yn is-adran (3) wrth benderfynu a ddylai ymchwilio i ymyrraeth honedig neu beidio. Gall fod yna ffactorau eraill sy’n berthnasol i’w benderfyniad.
238.Os bydd y Comisiynydd yn penderfynu ymchwilio, mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi gwybod i P a D am y penderfyniad i gynnal yr ymchwiliad a rhoi’r “wybodaeth berthnasol am ymchwiliadau” (gweler isod) iddyn nhw. Os bydd y Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ymchwilio i’r ymyrraeth honedig, rhaid iddo roi gwybod i P am y penderfyniad a’r rheswm drosto (is-adran (6)).
239.Mae is-adran (8) yn rhoi ystyr ‘gwybodaeth berthnasol am ymchwiliadau’.
240.Mae’r adran hon yn nodi’r hyn y caiff y Comisiynydd ei wneud a’r hyn y mae’n rhaid iddo ei wneud os bydd yn penderfynu ymchwilio i’r ymyrraeth honedig.
241.Mae’r adran hon yn caniatáu i’r Comisiynydd roi’r gorau i’w ymchwiliad i’r ymyrraeth honedig ar unrhyw adeg. Mae is-adran (2) yn rhestru’r camau y mae’n rhaid i’r Comisiynydd eu cymryd os bydd yn penderfynu rhoi’r gorau i’r ymchwiliad.
242.Mae’r adran hon yn gymwys mewn amgylchiadau lle bydd y Comisiynydd yn penderfynu ymchwilio i'r ymyrraeth honedig ac nad yw’n rhoi’r gorau i’r ymchwiliad. Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd benderfynu a yw D wedi ymyrryd neu beidio â rhyddid P i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg, fel y mae wedi’i ddiffinio yn adran 113. Os bydd y Comisiynydd yn penderfynu bod ymyrraeth wedi digwydd, rhaid iddo roi barn ar yr ymyrraeth (gan gynnwys ei farn ynghylch a allai’r ymyrraeth gael ei gyfiawnhau, ond heb fod yn gyfyngedig i’w farn ynghylch hynny (is-adran (3)).
243.Cyn gwneud unrhyw ddyfarniad o dan is-adran (2) neu roi barn o dan is-adran (3), rhaid i’r Comisiynydd roi gwybod i D am y dyfarniad y mae’n bwriadu ei roi neu am y farn y mae’n bwriadu ei rhoi, a, cyn belled ag y bo’n ymarferol, rhaid i’r Comisiynydd roi cyfle i D ymateb. Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r dyfarniad gael ei wneud, mae’n ofynnol hefyd i’r Comisiynydd roi gwybod amdano i P a D.
244.Mae is-adran (7) yn caniatáu i’r Comisiynydd roi cyngor i P, D neu unrhyw berson arall, ynghylch yr ymyrraeth honedig neu unrhyw fater sy’n ymwneud ag e.
245.Does dim dyletswydd ar y Comisiynydd i gynhyrchu adroddiad pan fydd yn cwblhau ymchwiliad. Os bydd y Comisiynydd o’r farn mewn achos penodol mai rhannu ei gasgliadau gyda P a D yn unig yw’r peth priodol i’w wneud, mae’n cael gwneud hynny.
246.Serch hynny, mae is-adran (2) yn darparu y caiff y Comisiynydd gynhyrchu adroddiad i’w roi i Weinidogion Cymru ynghylch unrhyw gais (nid dim ond ceisiadau y mae wedi ymchwilio iddyn nhw) a gafodd ei wneud iddo o dan adran 111, ac ynghylch y camau a gymerodd mewn ymateb i’r cais hwnnw. Os bydd adroddiad o’r fath yn cael ei gynhyrchu, mae is-adran (3) yn gosod dyletswydd ar y Comisiynydd i roi copi i P a D.
247.Pan fo’r Comisiynydd wedi cynhyrchu adroddiad i Weinidogion Cymru o dan is-adran (2), mae is-adran (4) yn caniatáu i’r Comisiynydd gyhoeddi’r adroddiad hwnnw neu, fel arall, dogfen berthynol arall. Mae’n cael cyhoeddi fersiwn o’i adroddiad (er enghraifft, fersiwn cryno neu fersiwn sy’n tynnu enwau’r partïon sydd wedi’u crybwyll ynddo), neu ddogfen arall sy’n ymwneud â phwnc yr adroddiad.
248.Mae is-adrannau (5) i (8) yn nodi’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i’r Comisiynydd gyhoeddi unrhyw ddogfen o dan is-adran (4). Rhaid i P a D ill dau gytuno i ddogfen gael ei chyhoeddi neu, os nad yw eu cytundeb nhw wedi’i sicrhau, rhaid i’r Comisiynydd fod o’r farn bod cyhoeddi er budd y cyhoedd. Wrth bwyso a mesur a ydy hi er budd y cyhoedd, rhaid i’r Comisiynydd gymryd i ystyriaeth fuddiannau P, D ac unrhyw berson priodol arall. Os bydd y Comisiynydd yn penderfynu mewn unrhyw achos nad ymyrrodd D â’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg fel y mae wedi’i ddiffinio yn adran 113, mae’r Comisiynydd wedi’i wahardd rhag enwi D mewn unrhyw ddogfen y bydd yn ei chyhoeddi o dan is-adran (4).
249.Mae’r adran hon yn rhestru’r mathau o wybodaeth ynghylch ceisiadau am ymchwiliad i ymyrraeth honedig y mae’n rhaid eu cynnwys yn adroddiad blynyddol y Comisiynydd, sy’n ofynnol o dan adran 18 o’r Mesur.
250.Mae is-adran (1)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd roi barn ynghylch pa mor ddigonol ac effeithiol yw’r gyfraith wrth ddiogelu rhyddid personau yng Nghymru sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd.
251.Mae is-adran (2) yn rhestru’r materion y mae’n rhaid i’r Comisiynydd eu hystyried wrth ffurfio barn at y diben hwn, er nad yw’n cael ei gyfyngu i’r materion hyn yn unig.
252.Mae is-adran (3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch yr adroddiadau mewn rheoliadau.
253.Effaith is-adran (4) yw bod rhaid i’r adroddiad blynyddol beidio â’i gwneud yn hysbys pwy yw D, os yw adroddiad blynyddol y Comisiynydd yn cyfeirio at unrhyw achosion lle penderfynodd nad ymyrrodd D â’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg fel y mae wedi’i ddiffinio yn adran 113.
254.Mae’r adran hon yn sefydlu’r Tribiwnlys ac yn darparu bod rhaid i’r Tribiwnlys gynnwys Llywydd, aelodau a chanddynt gymwysterau yn y gyfraith ac aelodau lleyg. Rhaid i aelodau’r Tribiwnlys gael eu penodi gan Weinidogion Cymru. Mae is-adran (4) yn rhoi ei heffaith i Atodlen 11 sy’n gwneud rhagor o ddarpariaeth ynghylch y Tribiwnlys.
255.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad y Tribiwnlys i ymdrin ag achosion. Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau’r Tribiwnlys (gweler adran 123).
256.Mae achosion gerbron y Tribiwnlys i gael eu cynnal yn gyhoeddus o dan Reolau’r Tribiwnlys.
257.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd wneud rheolau (“Rheolau’r Tribiwnlys”) yn llywodraethu’r arferion a’r weithdrefn sydd i’w dilyn yn y Tribiwnlys. Rhaid i Reolau’r Tribiwnlys gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
258.Mae’r adran hon yn caniatáu i’r Llywydd roi cyfarwyddiadau ynghylch arferion a gweithdrefn y Tribiwnlys. Rhaid i unrhyw gyfarwyddiadau a fydd yn cael eu rhoi gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru oni bai eu bod yn ymwneud â chymhwyso’r gyfraith neu ddehongli’r gyfraith, neu’n ymwneud â phenderfyniadau gan aelodau’r Tribiwnlys.
259.Mae’r adran hon yn caniatáu i’r Llywydd roi canllawiau i aelodau eraill o’r Tribiwnlys ynghylch arfer eu swyddogaethau. Rhaid i aelodau’r Tribiwnlys roi sylw i unrhyw ganllawiau o’r fath. Mae’r Llywydd hefyd yn cael rhoi cyngor a gwybodaeth ynghylch y Tribiwnlys a’i swyddogaethau.
260.Mae’r adran hon yn rhoi’r un pwerau, hawliau, breintiau ac awdurdod i’r Tribiwnlys ag sydd gan yr Uchel Lys o ran:
presenoldeb tystion a holi tystion;
dangos dogfennau ac archwilio dogfennau; a
phob mater arall sy’n gysylltiedig â swyddogaethau’r Tribiwnlys.
261.Mae is-adran (4) yn rhoi pŵer i’r Tribiwnlys i gyfarwyddo bod rhaid i barti neu dyst gael ei holi ar lw neu gadarnhad. Caiff y Tribiwnlys weinyddu unrhyw lw, neu gymryd unrhyw gadarnhad, sy’n angenrheidiol at y diben hwnnw.
262.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu ar gyfer y Tribiwnlys y lefel briodol o staff, adeiladau, adnoddau ariannol ac adnoddau eraill i arfer ei swyddogaethau.
263.Mae’r adran hon yn caniatáu i’r Llywydd benodi cynghorwyr a chanddyn nhw gymwysterau arbennig i roi cymorth i’r Tribiwnlys.
264.Bydd gan y Tribiwnlys sêl swyddogol. Mae dogfennau sy’n dwyn y sêl i gael eu derbyn fel tystiolaeth yng Nghymru a Lloegr heb ragor o brawf.
265.Mae’r adran hon yn diffinio blwyddyn ariannol y Tribiwnlys.
266.Os bydd swydd y Llywydd yn wag, mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud penodiadau er mwyn i swyddogaethau’r Llywydd gael eu harfer.
267.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd gynhyrchu adroddiad blynyddol ynghylch sut mae’r Tribiwnlys wedi arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol honno, a gosod yr adroddiad hwnnw gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rhaid i’r Llywydd gydymffurfio â gofynion y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch ffurf yr adroddiad a sut i’w osod.
268.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar y Llywydd i bennu a chynnal trefniadau priodol ar gyfer hyfforddiant, arweiniad a lles aelodau’r Tribiwnlys.
269.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar bob deiliad swydd perthnasol i greu a chynnal cofrestr gyfoes o fuddiannau.
270.Mae’r adran hon yn gosod dyletswyddau ar y Comisiynydd o ran archwilio cofrestr buddiannau deiliad swydd perthnasol a threfnu bod y gofrestr honno ar gael.
271.Mae’r adran hon yn atal deiliad swydd perthnasol rhag arfer swyddogaeth os oes ganddo fuddiant cofrestradwy (sy’n cael ei ddiffinio yn adran 139) sy’n ymwneud ag arfer y swyddogaeth honno. Pan fo’r deiliad swydd perthnasol yn cael ei atal rhag arfer swyddogaeth, mae’r adran hon yn darparu ar gyfer sut mae’n rhaid i’r swyddogaeth gael ei dirprwyo (os na all y Comisiynydd weithredu) neu ar gyfer trefnu i’r swyddogaeth gael ei harfer gan un arall (os na all y Dirprwy Gomisiynydd weithredu).
272.Nid yw methiant i gydymffurfio ag un o ddarpariaethau’r Bennod hon o Ran 8 o’r Mesur, neu ddarpariaeth sydd wedi’i gwneud o dani, yn effeithio ar ddilysrwydd gweithred gan ddeiliad swydd perthnasol.
273.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau yn pennu pa fuddiannau sy’n fuddiannau cofrestradwy a gwneud darpariaeth arall at ddibenion y Bennod hon yn Rhan 8 o’r Mesur.
274.Mae “buddiant cofrestradwy” a “deiliad swydd perthnasol” yn cael eu diffinio yn y Bennod hon.
275.Mae yna amddiffyniad cyflawn yn y gyfraith (o’r enw braint absoliwt) rhag hawliad o ddifenwi ynglŷn â chyhoeddi materion sy’n syrthio o fewn paragraffau (a) i (e) o is-adran (1). Effaith braint absoliwt yw bod personau sy’n cyhoeddi’r mater yn cael eu diogelu rhag unrhyw atebolrwydd am ddifenwi o dan yr amgylchiadau sydd wedi’u diffinio isod:
cyhoeddi mater gan y Comisiynydd wrth iddo arfer unrhyw rai o’i swyddogaethau;
cyhoeddi mater gan aelod o’r Panel Cynghori wrth iddo arfer unrhyw rai o’i swyddogaethau;
cyhoeddi mater gan berson wrth iddo gydymffurfio â gofyniad mewn hysbysiad penderfynu;
cyhoeddi, mewn cyfathrebiad rhwng y Comisiynydd a pherson a ddiogelir, fater mewn cysylltiad ag ymholiad neu ymchwiliad;
cyhoeddi, mewn cyfathrebiad rhwng yr achwynydd neu berson sy’n gweithredu ar ran yr achwynydd a chynrychiolydd, fater sy’n gysylltiedig ag ymchwiliad o dan Ran 5 (Gorfodi) neu Ran 6 (Rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg).
276.Mae is-adran (2) yn darparu bod cyfeiriad at y Comisiynydd yn yr adran hon yn cynnwys aelodau staff y Comisiynydd neu unrhyw berson sy’n gweithredu ar ran y Comisiynydd neu’n helpu i arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.
277.Mae’r adran hon yn darparu nifer o ddiffiniadau er mwyn dehongli adran 140.
278.Nid yw’r Mesur yn awdurdodi’r Comisiynydd nac yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd arfer swyddogaeth ragnodedig sydd yn rhinwedd deddfiad yn arferadwy hefyd gan berson rhagnodedig. At ddibenion yr adran hon, ystyr “rhagnodedig” yw wedi’i ragnodi mewn gorchymyn sydd wedi’i wneud gan Weinidogion Cymru.
279.Mae’r adran hon yn nodi dechrau’r cyfnod pontio cyntaf.
280.Mae Bwrdd yr iaith Gymraeg yn cael ei ddiddymu ac mae ei swyddogaethau o dan adran 3 o Ddeddf 1993 yn cael eu trosglwyddo i’r Comisiynydd. Gallai swyddogaethau’r Bwrdd o dan adran 3 o Ddeddf 1993 gael eu harfer gan Weinidogion Cymru yn lle eu trosglwyddo i’r Comisiynydd neu yn ychwanegol at eu trosglwyddo i’r Comisiynydd. Gallai hyn gael ei gyflawni drwy orchymyn a fyddai’n cael ei wneud o dan adran 154 o’r Mesur hwn.
281.Mae swyddogaethau’r Bwrdd a geir yn Rhan 2 o Ddeddf 1993 (cynlluniau iaith Gymraeg) yn cael eu trosglwyddo i’r Comisiynydd.
282.Mae’r adan hon hefyd yn diddymu rhai o ddarpariaethau Deddf 1993.
283.Mae’r adran hon yn nodi dechrau’r ail gyfnod pontio. Mae’n darparu ar gyfer symud o gyfundrefn cynlluniau iaith Gymraeg (Rhan 2 o Ddeddf 1993) a swyddogaethau’r Bwrdd (adran 3 o Ddeddf 1993) i’r gyfundrefn newydd o safonau y darperir ar ei chyfer yn y Mesur hwn.
284.Mae’r adran hon yn diddymu swyddogaethau’r Bwrdd o dan adran 3 o Ddeddf 1993, gan gynnwys y rhai a fydd wedi’u trosglwyddo o dan adran 143 yn ystod y cyfnod pontio cyntaf.
285.Pan fo person yn dod o fewn Rhan 2 o Ddeddf 1993, ac yna’n dod yn ddarostyngedig i’r gyfundrefn newydd o safonau o dan adran 25(1) o’r Mesur hwn, ni fydd Rhan 2 yn gymwys iddo mwyach.
286.Mae’r adan hon hefyd yn diddymu rhai o ddarpariaethau Deddf 1993.
287.Mae’r adran hon yn nodi diwedd yr ail gyfnod pontio a gafodd ei gychwyn gan adran 144. Mae’r cyfnod olaf yn dechrau wrth i gynllun iaith Gymraeg y corff cyhoeddus olaf gael ei ddisodli drwy gymhwyso safonau’r Gymraeg, fel y darperir ar eu cyfer yn adran 25(1) o’r Mesur hwn.
288.Mae’r adran yn darparu ar gyfer diddymu swyddogaethau’r Bwrdd o dan Ran 2 o Ddeddf 1993, sy’n cael eu harfer gan y Comisiynydd neu gan Weinidogion Cymru o dan adran 143, Dim ond pan fydd yr holl gynlluniau iaith Gymraeg sy’n bodoli wedi’u disodli drwy gymhwyso safonau, fel y darperir ar eu cyfer gan y Mesur hwn, y bydd y ddarpariaeth hon yn cychwyn.
289.Mae’r adan hon hefyd yn diddymu rhai o ddarpariaethau Deddf 1993.
290.Mae’r adran hon yn cyflwyno Atodlen 12 i’r Mesur, sy’n cynnwys darpariaethau eraill ynghylch diddymu’r Bwrdd.
291.Mae’r adran hon yn darparu bod pwerau Gweinidogion Cymru o dan Rannau eraill o’r Mesur:
heb gael eu cyfyngu gan y Rhan hon;
yn gallu cael eu defnyddio i alluogi’r Comisiynydd i arfer swyddogaethau’r Bwrdd nes y bydd swyddogaethau newydd y Comisiynydd, fel y maen nhw’n cael eu rhoi gan y Mesur hwn, wedi cychwyn;
yn cael diwygio neu ddisodli darpariaethau’r Rhan hon.
292.Mae pwerau Gweinidogion Cymru o dan Rannau eraill o’r Mesur yn cynnwys eu pwerau mewn gorchmynion sy’n cael eu gwneud o dan adran 154 (darpariaeth drosiannol a darpariaeth ganlyniadol etc), a gorchmynion o dan adran 156 (cychwyn), ond dydyn nhw ddim wedi'u cyfyngu i’r rhain yn unig.
293.Mae’r adran hon yn diwygio adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel y bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cynllun gweithredu sy’n rhoi manylion eu cynigion ar gyfer gweithredu eu strategaeth iaith Gymraeg. Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer amser cyhoeddi’r cynllun.
294.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sefydlu a chynnal Cyngor Partneriaeth y Gymraeg (“y Cyngor Partneriaeth”).
295.Mae is-adran (2) yn darparu bod yn rhaid i’r Gweinidog hwnnw o blith Gweinidogion Cymru a chanddo gyfrifoldeb am y Gymraeg gadeirio’r Cyngor Partneriaeth. Gwneir darpariaeth hefyd mewn perthynas ag aelodaeth y Cyngor.
296.Mae is-adran (3) yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru, wrth iddynt benodi aelodau o’r Cyngor Partneriaeth, roi sylw i’r ffaith ei bod yn ddymunol bod aelodaeth y Cyngor Partneriaeth yn adlewyrchu graddau amrywiol defnyddio’r Gymraeg gan y rhai sy’n byw yng Nghymru.
297.Mae gweithdrefnau’r Cyngor Partneriaeth i’w rheoleiddio gan reolau sefydlog wedi’u gwneud gan Weinidogion Cymru drwy ymgynghori â’r Cyngor Partneriaeth. Caiff y rheolau sefydlog wneud darpariaeth ynghylch pwy ddylai gadeirio’r Cyngor Partneriaeth yn absenoldeb y Gweinidog o blith Gweinidogion Cymru a chanddo gyfrifoldeb am y Gymraeg.
298.Mae is-adran (6) yn darparu i’r Cyngor Partneriaeth roi cyngor neu wneud sylwadau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r strategaeth iaith Gymraeg (gan gynnwys y cynllun yn nodi sut bydd Gweinidogion Cymru’n gweithredu’r cynigion a nodir yn y strategaeth).
299.Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol, y bydd y mwyafrif ohonyn nhw yn dilyn y weithdrefn penderfyniad negyddol. Mae’n rhaid i’r offerynnau statudol sydd wedi’u rhestru yn is-adran (2) gael eu gwneud drwy’r weithdrefn gadarnhaol sy’n golygu bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyfle i drafod y mater a bod rhaid iddo gymeradwyo’r offeryn statudol cyn iddo allu cael ei wneud. Mae’r offerynnau statudol y mae’r weithdrefn gadarnhaol yn gymwys iddyn nhw yn cynnwys, ymhlith eraill: gorchmynion sy’n diwygio Atodlen 6 neu 8; gorchmynion sy’n pennu safonau; gorchmynion sy’n darparu i safonau fod yn benodol gymwys; gorchmynion sy’n newid uchafswm cosb sifil; gorchmynion sy’n cynnwys darpariaeth sy’n diwygio, diddymu neu’n addasu deddfiad; rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth ynghylch penodi’r Comisiynydd; a gorchmynion sy’n newid y swm o arian cyhoeddus sydd wedi’i bennu yn y tabl yn Atodlen 5.
300.Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys y pŵer i wneud y canlynol:
gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dibenion gwahanol neu ardaloedd daearyddol gwahanol;
gwneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol; a
gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig a darpariaeth arall y mae Gweinidogion Cymru’n credu eu bod yn angenrheidiol neu’n briodol.
301.Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer o dan adran 155(3) i gychwyn diddymiad darpariaethau yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993, maen nhw’n cael darparu ar gyfer cychwyn yn wahanol mewn awdurdodaethau gwahanol.
302.Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw Deddf Seneddol, neu un o Fesurau neu Ddeddfau’r Cynulliad.
303.Mae cyfarwyddiadau sy’n cael eu rhoi gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn:
yn gallu cael eu hamrywio neu eu dirymu gan gyfarwyddyd yn nes ymlaen;
yn gorfod cael eu rhoi mewn ysgrifen;
yn cael gwneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol; ac
yn cael gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dibenion gwahanol neu ardaloedd daearyddol gwahanol.
304.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth o ran hysbysiadau a dogfennau eraill y mae’n ofynnol eu rhoi o dan y Mesur hwn neu yr awdurdodir eu rhoi o dan y Mesur hwn.
305.Mae’r adran hon yn rhoi diffiniadau o dermau penodol sy’n cael eu defnyddio yn y Mesur.
306.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud unrhyw ddarpariaethau y maen nhw’n credu eu bod yn angenrheidiol neu’n briodol mewn cysylltiad â’r Mesur neu er mwyn rhoi ei effaith lawn iddo. Mae’r pŵer hwn yn arferadwy drwy orchymyn.
307.Mae hyn yn cynnwys pŵer i ddiwygio, diddymu neu addasu deddfiad mewn cysylltiad â’r Mesur neu i roi ei effaith lawn iddo.
308.Yn ddarostyngedig i is-adran (3), mae’r Mesur yn gymwys i Gymru a Lloegr yn unig. Mae is-adran (3) yn darparu bod diddymiad ar un o ddarpariaethau Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gymwys i’r un graddau â’r ddarpariaeth sy’n cael ei diddymu.
309.Mae’r adran hon yn nodi’r trefniadau ar gyfer cychwyn darpariaethau’r Mesur.
310.Enw byr y Mesur hwn yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
311.Mae Atodlen 1 yn cael ei chyflwyno gan adran 2 o’r Mesur. Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch statws y Comisiynydd a’i benodi, ac ynghylch materion ariannol.
312.Mae’r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch statws cyfreithiol y Comisiynydd. Rhaid peidio â barnu bod y Comisiynydd yn was neu’n asiant i’r Goron na bod ganddo unrhyw statws, imiwnedd neu fraint sydd gan y Goron, a rhaid peidio â barnu bod eiddo’r Comisiynydd yn eiddo i’r Goron neu’n eiddo sy’n cael ei ddal ar ran y Goron. Mae is-adran (4) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru, wrth iddynt arfer swyddogaethau mewn perthynas â’r Comisiynydd, i roi sylw i faterion penodedig yn ymwneud ag annibyniaeth weithrediadol y Comisiynydd.
313.Mae’r paragraff hwn yn sicrhau nad yw diffyg wrth benodi’r Comisiynydd neu unrhyw aelod o’r Panel Cynghori (neu yn achos person sy’n arfer swyddogaethau ar ran y Comisiynydd, diffyg wrth benodi’r person hwnnw) yn effeithio ar ddilysrwydd gweithredoedd sy’n cael eu cyflawni gan y Comisiynydd, neu gan berson sy’n arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.
314.Mae’r paragraff hwn yn nodi’r paramedrau y mae’n rhaid i Brif Weinidog Cymru weithredu o’u mewn wrth benodi’r Comisiynydd.
315.Mae’r paragraff hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth, lwfansau, arian rhodd a phensiynau i’r Comisiynydd, a symiau ar gyfer pensiynau neu tuag at bensiynau personau sydd wedi bod yn Gomisiynydd.
316.Mae’r paragraff hwn yn sicrhau bod y Comisiynydd yn dal ei swydd yn unol â thelerau ei benodi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill Atodlen 1. Mae is-baragraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol i delerau penodi’r Comisiynydd ddarparu bod y Comisiynydd yn dal ei swydd yn llawn-amser.
317.Mae’r paragraff hwn yn darparu bod person sy’n cael ei benodi’n Gomisiynydd yn dal ei swydd am gyfnod o 7 mlynedd yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rhan 3 o Atodlen 1 sy’n ymdrin ag anghymhwyso, ac ag ymddiswyddiad y Comisiynydd neu ddiswyddo’r Comisiynydd.
318.Mae’r paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ynghylch penodi’r Comisiynydd drwy reoliadau (“rheoliadau penodi”).
319.Mae’r paragraff hwn yn rhoi pŵer i Brif Weinidog Cymru, drwy orchymyn, i ddirprwyo swyddogaeth penodi’r Comisiynydd ac unrhyw rai neu’r cyfan o’i swyddogaethau sy’n ymwneud â’r Comisiynydd i Weinidogion Cymru.
320.Mae’r paragraff hwn yn caniatáu i’r Comisiynydd ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o nid llai na thri mis i Brif Weinidog Cymru.
321.Mae person yn peidio â bod yn Gomisiynydd os yw wedi’i anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd ar sail cyflogaeth.
322.Mae’r paragraff hwn yn rhoi pŵer i Brif Weinidog Cymru i ddiswyddo’r Comisiynydd o dan amgylchiadau penodol.
323.Mae’r paragraff hwn yn rhoi’r disgresiwn i Weinidogion Cymru i dalu iawndal i berson sy’n rhoi’r gorau i swydd y Comisiynydd.
324.Mae’r paragraff hwn yn darparu bod person sy’n cael ei gyflogi mewn un o’r swyddi sydd wedi’u rhestru yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd.
325.Mae’r paragraff hwn yn darparu i Weinidogion Cymru bŵer penodol i ariannu’r Comisiynydd.
326.Mae’r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch blwyddyn ariannol y Comisiynydd.
327.Mae’r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifoldebau’r Comisiynydd fel y swyddog cyfrifyddu ar gyfer swyddfa’r Comisiynydd.
328.Mae is-baragraff (5) yn rhoi pŵer i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gymryd tystiolaeth, os bydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin (“y Pwyllgor Seneddol”) yn gofyn iddo wneud hynny, gan y Comisiynydd ar ei ran a chyflwyno adroddiad ynghylch y dystiolaeth a chyfleu’r dystiolaeth i’r Pwyllgor Seneddol.
329.Mae’r paragraff hwn yn gosod dyletswydd ar y Comisiynydd i baratoi amcangyfrif o incwm a threuliau swyddfa’r Comisiynydd ar gyfer pob blwyddyn ariannol heblaw’r un gyntaf, gan gyflwyno’r amcangyfrif i Weinidogion Cymru. Rhaid i Weinidogion Cymru, yn eu tro, archwilio’r amcangyfrif a gyflwynir iddyn nhw a gosod yr amcangyfrif hwnnw gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
330.Mae’r paragraff hwn yn gosod dyletswydd ar y Comisiynydd i gadw cofnodion cyfrifyddu priodol, gan baratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn unol â’r cyfarwyddiadau sy’n cael eu rhoi, gyda chydsyniad y Trysorlys, gan Weinidogion Cymru.
331.Mae’r paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd gyflwyno’r cyfrifon a fydd yn cael eu paratoi ar gyfer blwyddyn ariannol i Archwilydd Cyffredinol Cymru.
332.Mae’r paragraff hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio ac ardystio pob set o gyfrifon a fydd yn cael ei chyflwyno iddo, cyflwyno adroddiad arnyn nhw a’u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
333.Mae’r paragraff hwn yn darparu y caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau i gyflawni swyddogaethau’r Comisiynydd. Wrth gynnal archwiliadau o dan y paragraff hwn, does gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ddim hawl i amau rhagoriaethau amcanion polisi’r Comisiynydd.
334.Mae’r paragraff hwn yn diffinio “rheoliadau penodi” a “panel dethol” at ddibenion yr Atodlen hon.
335.Mae Atodlen 2 yn cael ei chyflwyno gan adran 7 o’r Mesur ac mae’n gwneud darpariaeth atodol ynghylch pwerau’r Comisiynydd i ymholi.
336.Mae Atodlen 2 yn gymwys i ymholiadau y caiff y Comisiynydd eu cynnal o dan adran 7.
337.Cyn cynnal ymholiad, rhaid i’r Comisiynydd baratoi ei gylch gorchwyl.
338.Yn unol â pharagraff 3, pan fo’r cylch gorchwyl yn cyfeirio at berson penodol neu at gategori penodol o berson, rhaid i’r cylch gorchwyl hwnnw bennu’r person hwnnw neu’r categori hwnnw o berson. Mae person sy’n cael ei bennu yng nghylch gorchwyl ymholiad a phob person sydd, ym marn y Comisiynydd, yn syrthio o fewn categori o bersonau sy’n cael ei bennu yng nghylch gorchwyl ymholiad, wedi’u diffinio at ddibenion paragraff 3 fel “person perthnasol”.
339.Cyn setlo’r cylch gorchwyl o dan baragraff 3, rhaid i’r Comisiynydd roi hysbysiad i bob person perthnasol ynghylch y cylch gorchwyl arfaethedig a chyfle i gyflwyno sylwadau am y cylch gorchwyl hwnnw. Rhaid i’r Comisiynydd ystyried unrhyw sylwadau a fydd yn cael eu cyflwyno gan y person perthnasol.
340.Ar ôl setlo’r cylch gorchwyl, rhaid i’r Comisiynydd ei gyhoeddi yn unol â’r gofyniad sy’n cael ei osod gan baragraff 3 yn ogystal â rhoi hysbysiad ynghylch y cylch gorchwyl i bob person perthnasol ac i Weinidogion Cymru.
341.Pan nad yw’r cylch gorchwyl yn ymwneud â pherson penodol neu gategori penodol o berson, mae paragraff 4 yn darparu bod rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi’r cylch gorchwyl yn unol â’r gofyniad sy’n cael ei osod gan baragraff 4(2)(a) yn ogystal â rhoi hysbysiad ynghylch y cylch gorchwyl i Weinidogion Cymru.
342.Mae paragraff 5 yn darparu bod paragraff 3 neu 4 yn gymwys i newidiadau yn y cylch gorchwyl fel y byddai’r paragraff yn gymwys wrth baratoi’r cylch gorchwyl hwnnw.
343.Yn unol â pharagraff 6(1), rhaid i’r Comisiynydd wneud trefniadau i roi cyfle i bersonau gyflwyno sylwadau mewn perthynas ag ymholiadau.
344.Mae paragraff 6(2) yn darparu bod rhaid i’r trefniadau hyn roi cyfle i’r personau sydd wedi’u rhestru gyflwyno sylwadau yn ystod ymholiad.
345.Mae paragraff 7(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd ystyried sylwadau sy’n cael eu cyflwyno mewn perthynas ag ymholiad gan y personau sydd wedi’u rhestru.
346.Rhaid i’r Comisiynydd ystyried sylwadau sy’n cael eu cyflwyno gan unrhyw berson arall mewn perthynas ag ymholiad, oni bai bod y Comisiynydd yn credu ei bod yn briodol gwrthod gwneud hynny. Pan fo’r Comisiynydd yn gwrthod ystyried sylwadau, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person a gyflwynodd y sylwadau ynghylch y penderfyniad i wrthod ystyried y sylwadau a gafodd eu cyflwyno yn ogystal â’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
347.Rhaid i’r Comisiynydd baratoi adroddiad ar ei ganfyddiadau ynghylch unrhyw ymholiad ac anfon drafft o’r adroddiad at Weinidogion Cymru, sef drafft y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gofynion is-baragraff (2). Os yw’r cylch gorchwyl yn pennu person penodol neu gategori penodol o berson, rhaid hefyd i’r Comisiynydd anfon drafft o’r adroddiad at bob person perthnasol (fel y maen nhw wedi’u diffinio gan baragraff 3(5)).
348.Mae’n ofynnol i’r Comisiynydd roi cyfle i Weinidogion Cymru, ac i unrhyw berson arall y mae drafft o adroddiad yn cael ei anfon ato, i gyflwyno sylwadau ynghylch yr adroddiad. Rhaid i’r Comisiynydd ystyried unrhyw sylwadau a fydd yn cael eu cyflwyno ynghylch y drafft ac, ar ôl setlo’r adroddiad, ei gyhoeddi.
349.Mae Atodlen 3 yn cael ei chyflwyno gan adran 21 yn Rhan 2 o’r Mesur.
350.Mae’r Atodlen hon yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Safonau Gofal 2000, Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, a Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006, er mwyn gwneud rhagor o ddarpariaeth ynghylch comisiynwyr ac ombwdsmyn eraill yn gweithio ar y cyd a gweithio’n gyfochrog â Chomisiynydd y Gymraeg.
351.Mae Atodlen 4 yn cael ei chyflwyno gan adran 23 o’r Mesur ac mae’n gwneud rhagor o ddarpariaeth ynghylch penodi aelodau’r Panel Cynghori, yn ogystal â materion ariannol perthynol.
352.Mae’r paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rheoliadau penodi (sy’n cael eu diffinio ym mharagraff 5) sy’n cael eu gwneud ganddyn nhw. Mae Gweinidogion Cymru yn cael eu hatal rhag penodi person yn aelod o’r Panel Cynghori os yw’r person wedi’i anghymhwyso rhag bod yn aelod ar sail cyflogaeth. Mae’r seiliau hyn yn cael eu darparu ym mharagraff 10.
353.Mae’r paragraff hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth, lwfansau, arian rhodd a phensiynau i aelodau’r Panel Cynghori, a symiau ar gyfer pensiynau neu tuag at bensiynau personau sydd wedi bod yn aelodau.
354.Mae aelod o’r Panel Cynghori yn dal ei swydd yn unol â’i delerau penodi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr Atodlen hon.
355.Mae’r paragraff hwn yn darparu bod person sy’n cael ei benodi’n aelod o’r Panel Cynghori yn dal ei swydd am gyfnod o dair blynedd yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rhan 2 o Atodlen 4 sy’n ymdrin ag anghymhwyso, ymddiswyddiad neu ddiswyddo aelodau.
356.Rhaid i Weinidogion Cymru wneud darpariaethau ynghylch penodi aelodau’r Panel Cynghori drwy reoliadau (“rheoliadau penodi”).
357.Mae’r paragraff hwn yn caniatáu i aelod o’r Panel Cynghori ymddiswyddo.
358.Mae person yn peidio â bod yn aelod o’r Panel Cynghori os yw wedi’i anghymhwyso rhag bod yn aelod ar sail cyflogaeth (sy’n cael ei ddiffinio ym mharagraff 10).
359.Mae’r paragraff hwn yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ddiswyddo aelod o’r Panel Cynghori o dan amgylchiadau penodol. Cyn arfer eu pŵer i ddiswyddo, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiynydd.
360.Mae’r paragraff hwn yn rhoi’r disgresiwn i Weinidogion Cymru i dalu iawndal i berson sy’n peidio â bod yn aelod o’r Panel Cynghori.
361.Mae’r paragraff hwn yn darparu bod person sy’n cael ei gyflogi mewn un o’r swyddi sydd wedi’u rhestru yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Panel Cynghori ar sail cyflogaeth.
362.Mae’r paragraff hwn yn diffinio “rheoliadau penodi” at ddibenion yr Atodlen hon.
363.Mae Atodlen 5 yn cael ei chyflwyno gan adran 33 o’r Mesur. Caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn yn ychwanegu’r personau neu’r categorïau o berson sydd wedi'i rhestru yng ngholofn (2) at y tabl yn Atodlen 6 (Cyrff cyhoeddus etc: safonau) fel bod y personau hynny yn agored i orfod cydymffurfio â safonau.
364.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, gynyddu’r trothwy ariannol y cyfeirir ato yng nghofnod (5) o’r tabl (personau sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd ac sy’n derbyn arian cyhoeddus) drwy ddisodli’r swm perthnasol ag unrhyw swm arall nad yw’n llai na £400,000.
365.Mae’r Atodlen hon yn diffinio “cydsyniad” at ddibenion cofnod (8) personau sy’n cydsynio i gael eu pennu yn Atodlen 6) yn y tabl, ac mae’n datgan y caniateir i gydsyniad gael ei dynnu'n ôl, yn dibynnu ar gytundeb Gweinidogion Cymru.
366.Mae diffiniadau o “deddfiad”, “awdurdod cyhoeddus” ac “arian cyhoeddus” hefyd yn cael eu darparu at ddibenion yr Atodlen hon.
367.Mae safonau yn cael eu diffinio ym Mhennod 2 o Ran 4 o’r Mesur.
368.Mae Atodlen 6 yn cael ei chyflwyno gan adran 33 o’r Mesur. Mae’r personau neu’r categorïau o bersonau sydd wedi’u rhestru yng ngholofn (1) o’r tabl yn agored i orfod cydymffurfio â’r dosbarthiadau o safon sydd wedi’u rhestru yng ngholofn (2) yn y tabl. Nid ydynt o dan ddyletswydd i gydymffurfio â safon neu safonau nes bod y Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio iddyn nhw o dan adran 45 yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw wneud hynny.
369.O dan adran 35 caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn sy’n diwygio Atodlen 6 drwy wneud y canlynol:
ychwanegu at golofn (1) berson neu gategorïau o bersonau o’r tabl yn Atodlen 5 (y categorïau o berson y caniateir eu hychwanegu at Atodlen 6);
tynnu person neu gategori o berson o golofn (1);
gwneud diwygiadau eraill yn unol ag adran 35.
370.O dan adran 38 caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio colofn (2) fel ei bod yn cynnwys neu’n tynnu cyfeiriadau at un neu ragor o’r dosbarthiadau canlynol o safon: safonau cyflenwi gwasanaethau, safonau llunio polisi, safonau gweithredu, safonau cadw cofnodion.
371.Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio colofn (2) yn y tabl i beri bod Gweinidogion Cymru, cyngor bwrdeistref sirol, cyngor sir neu awdurdod parc cenedlaethol yn agored i orfod cydymffurfio â safonau hybu.
372.O blith y personau a’r categorïau sydd wedi’u rhestru yng ngholofn (1), nid yw’r cofnod yn y tabl sy’n ymwneud ag adrannau’r llywodraeth yn cynnwys dim byd sydd o fewn y cofnod sy’n ymwneud â Gweinidogion y Goron, ac nid yw’r cofnod sy’n ymwneud â phersonau sy’n arfer swyddogaethau’r Goron ddim yn cynnwys unrhyw berson o fewn cofnod arall.
373.Mae diffiniadau hefyd yn cael eu darparu at ddibenion yr Atodlen hon.
374.Mae Atodlen 7 yn cael ei chyflwyno gan adran 33 o’r Mesur. Caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn yn ychwanegu’r categori o bersonau sy’n cael eu disgrifio yng ngholofn (2) at y tabl yn Atodlen 8 (Cyrff eraill: Safonau) fel bod y personau hynny yn agored i orfod cydymffurfio â safonau ynglŷn â chyflenwi gwasanaethau a chadw cofnodion, fel y darperir ar eu cyfer yn adran 37.
375.Nid yw’r cyfeiriadau yn y tabl at wasanaethau cysylltiedig yn cynnwys gwasanaethau sy’n cael eu darparu mewn siopau oni bai bod y gwasanaethau’n golygu:
gwasanaethau cownteri swyddfeydd post; neu
werthu tocynnau neu ddarparu amserlenni ar gyfer gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd.
376.Mae diffiniadau’n cael eu darparu o dermau penodol sy’n cael eu defnyddio yn yr Atodlen.
377.Mae safonau yn cael eu diffinio ym Mhennod 2 o Ran 4 o’r Mesur a’u hesbonio yn y nodyn esboniadol uchod.
378.Mae Atodlen 8 yn cael ei chyflwyno gan adran 33 o’r Mesur. Mae’r personau neu’r categori o bersonau sydd wedi’u rhestru yng ngholofn (1) yn y tabl yn agored i orfod cydymffurfio â safonau ynglŷn â chyflenwi gwasanaethau a chadw cofnodion, fel y darperir yn adran 37, mewn perthynas â’r gwasanaethau sydd wedi’u rhestru yng ngholofn (2) yn y tabl. Nid yw’r personau neu’r categori o bersonau o dan ddyletswydd i gydymffurfio â safon neu safonau nes bod y Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio iddyn nhw o dan adran 44 yn eu gwneud yn ofynnol iddyn nhw wneud hynny.
379.O dan adran 35 caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn sy’n diwygio Atodlen 8 drwy wneud y canlynol:
ychwanegu at golofn (1) berson neu gategori o bersonau o’r tabl yn Atodlen 7 (y categorïau o berson y caniateir eu hychwanegu at Atodlen 8)
tynnu person neu gategori o golofn (1)
gwneud diwygiadau eraill yn unol ag adran 35.
380.Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio colofn (2) fel ei bod yn cynnwys cyfeiriad at ddarparu gwasanaeth dim ond os yw amodau penodol yn adran 35 wedi’u bodloni. Mae ganddyn nhw bŵer hefyd i dynnu unrhyw gyfeiriadau yng ngholofn (2).
381.Mae i’r ymadroddion sy’n cael eu defnyddio yn yr Atodlen hon yr un ystyr ag yn Atodlen 7, heblaw cyfeiriadau sydd wedi’u diffinio neu y rhoddir ystyr benodol iddynt at ddibenion yr Atodlen hon.
382.Mae Atodlen 9 yn cael ei chyflwyno gan adran 42 o’r Mesur. Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan adran 39 yn awdurdodi’r Comisiynydd i ddyroddi hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau penodol gydymffurfio â safon. Pan fo’r rheoliadau hynny’n cyfeirio at safon cyflenwi gwasanaethau (sy’n cael ei ddiffinio ym Mhennod 2) mae adran 42 yn darparu bod rhaid i’r safon gyfeirio at y cyfan o'r gweithgareddau sydd wedi’u rhestru yn Atodlen 9 (i’r graddau y mae’r safonau hynny wedi’u pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1)) os yw’r person yn cyflawni’r gweithgareddau hynny, ac i’r graddau y mae’n eu cyflawni.
383.Mae Atodlen 10 yn cael ei chyflwyno gan adran 71 yn Rhan 5 o’r Mesur.
384.Mae’r Atodlen hon yn gymwys i ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal o dan adran 71 o’r Mesur.
385.Mae’r paragraff hwn yn datgan bod rhaid i’r Comisiynydd, cyn iddo gynnal ymchwiliad, baratoi’r cylch gorchwyl sy’n gorfod pennu’r person yr ymchwilir iddo, a’r methiant a amheuir i gydymffurfio â gofyniad perthnasol.
386.Cyn setlo’r cylch gorchwyl, rhaid i’r Comisiynydd roi hysbysiad i bersonau penodol ynghylch y cylch gorchwyl arfaethedig a chyfle iddynt gyflwyno sylwadau amdano. Rhaid i’r Comisiynydd ystyried unrhyw sylwadau a fydd yn cael eu cyflwyno.
387.Mae’r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi’r cylch gorchwyl a setlwyd ac ar gyfer rhoi hysbysiad yn ei gylch i bersonau penodol. Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer paratoi cylch gorchwyl a gwneud newidiadau iddo.
388.Mae paragraff 3 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd wneud trefniadau i roi cyfle i bersonau penodol gyflwyno sylwadau, gan gynnwys sylwadau llafar, ynghylch ymchwiliadau.
389.Mae paragraff 4 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd ystyried y sylwadau a fydd yn cael eu cyflwyno gan y person yr ymchwilir iddo neu gan gynghorydd cyfreithiol y person hwnnw. Rhaid i’r Comisiynydd ystyried sylwadau a fydd yn cael eu cyflwyno gan unrhyw berson arall, oni bai bod y Comisiynydd o’r farn ei bod yn briodol gwrthod gwneud hynny. Mae’r paragraff hwn yn diffinio cynghorwyr cyfreithiol fel person sydd wedi’i awdurdodi o dan Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, neu adfocad neu gyfreithiwr yn yr Alban.
390.Yn ystod ymchwiliad, caiff y Comisiynydd roi hysbysiad tystiolaeth i berson (y cyfeirir ato fel “A”), a all ei gwneud yn ofynnol i A wneud un neu ragor o’r canlynol: rhoi gwybodaeth sydd ym meddiant A; rhoi dogfennau sydd ym meddiant A; neu roi tystiolaeth lafar. Serch hynny, does dim modd gorfodi A i wneud unrhyw beth na fyddai A yn medru cael ei orfodi i’w wneud pe bai’r achos yn cael ei gynnal gerbron Uchel Lys.
391.Mae’r paragraff yn nodi yr hyn y caiff yr hysbysiad ei gynnwys neu y mae’n rhaid i’r hysbysiad ei gynnwys, gan gynnwys rhoi gwybod i A am ganlyniadau peidio â chydymffurfio â’r hysbysiad a’r hawl i apelio o dan baragraff 9.
392.Os bydd person (y cyfeirir ato fel “B”) yn rhoi gwybodaeth, dogfennau neu dystiolaeth lafar, mae gan y Comisiynydd y disgresiwn i wneud taliadau am dreuliau sydd wedi’u tynnu’n briodol a lwfansau ar ffurf iawndal am golli amser B. Bydd unrhyw daliadau o’r fath yn cael eu gwneud yn unol â graddfeydd ac amodau taliadau a bennir gan y Comisiynydd.
393.Nid yw hysbysiad tystiolaeth o dan baragraff 5 yn cael ei gwneud yn ofynnol i berson roi gwybodaeth y mae’r person wedi’i wahardd rhag ei datgelu yn rhinwedd deddfiad ac nid yw’n cael ei gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth na allai’r person gael ei orfodi i’w wneud mewn achos gerbron yr Uchel Lys.
394.Os oes hysbysiad tystiolaeth wedi’i roi i A, mae’n rhaid i A ei anwybyddu (gan roi gwybod i’r Comisiynydd) os yw A yn credu y byddai cydymffurfio â’r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddatgelu gwybodaeth sydd wedi’i dosbarthu’n sensitif neu wybodaeth arall sy’n ymwneud â gwasanaeth cudd-wybodaeth a nodir yn is-baragraffau (a) i (e).
395.Ystyr gwasanaeth cudd-wybodaeth yw’r gwasanaeth diogelwch, y gwasanaeth cudd-wybodaeth cyfrinachol a Phencadlys Cyfathrebu’r Llywodraeth.
396.Mae’r paragraff hwn yn darparu hefyd ar gyfer yr hyn y caiff y Comisiynydd ei wneud os bydd A yn rhoi gwybod iddo fod A yn anwybyddu’r hysbysiad.
397.Caiff A wneud cais i Dribiwnlys y Gymraeg am ddileu’r hysbysiad os gall A ddangos bod gofyniad sy’n cael ei osod gan yr hysbysiad yn ddiangen mewn perthynas â diben yr ymchwiliad neu ei fod yn afresymol neu’n anghymesur mewn modd arall.
398.Os yw gofyniad yn annymunol am resymau diogelwch y wlad na ddarperir ar eu cyfer ym mharagraff 8(1), caiff A wneud cais i’r Tribiwnlys am ddileu’r hysbysiad.
399.Os yw’r Comisiynydd yn credu bod A wedi methu, neu’n debyg o fethu, â chydymffurfio â’r hysbysiad heb esgus rhesymol, caiff y Comisiynydd wneud cais i lys sirol am orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i A gymryd camau a bennir yn y gorchymyn i gydymffurfio â’r hysbysiad.
400.Caiff y Comisiynydd, neu unrhyw un sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar ei ran, fynd i mewn ac archwilio mangre os yw’r Comisiynydd neu’r person awdurdodedig yn credu bod angen gwneud hynny at ddibenion ymchwiliad.
401.Nid yw’r pŵer hwn yn awdurdodi mynd i annedd, nac i unrhyw fangre nad yw o dan reolaeth y person yr ymchwilir iddo, nac yn awdurdodi mynd ar adeg benodol os yw’r adeg honno’n afresymol.
402.Mae Atodlen 11 yn cael ei chyflwyno gan adran 120 yn Rhan 7 o’r Mesur. Mae’r Atodlen hon yn gwneud rhagor o ddarpariaeth o ran y Tribiwnlys.
403.Mae’r paragraff hwn yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru o dro i dro bennu nifer yr aelodau a chanddyn nhw gymwysterau cyfreithiol a fydd gan y Tribiwnlys, ar ôl ymgynghori i ddechrau â’r Llywydd. Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn belled ag y bo’n rhesymol gwneud hynny, sicrhau bod nifer yr aelodau a chanddyn nhw gymwysterau cyfreithiol a benodir i’r Tribiwnlys yn hafal i’r nifer sy’n cael ei bennu ganddyn nhw.
404.Mae’r paragraff hwn yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru o dro i dro bennu nifer yr aelodau lleyg y mae’n rhaid eu cael ar y Tribiwnlys, ar ôl ymgynghori i ddechrau â’r Llywydd. Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn belled ag y bo’n rhesymol gwneud hynny, sicrhau bod nifer yr aelodau lleyg a benodir i’r Tribiwnlys yn hafal i’r nifer sy’n cael ei bennu ganddyn nhw.
405.Mae’r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyster person i gael ei benodi’n Llywydd.
406.Mae’r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwysedd person i gael ei benodi’n aelod o’r Tribiwnlys a chanddo gymwysterau cyfreithiol.
407.Mae’r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwysedd person i gael ei benodi’n aelod lleyg o’r Tribiwnlys.
408.Caiff Gweinidogion Cymru dalu cydnabyddiaeth, lwfansau, arian rhodd a phensiynau i aelodau’r Tribiwnlys.
409.Mae aelod o’r Tribiwnlys yn dal ei swydd yn unol â’i delerau penodi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr Atodlen hon.
410.Bydd person yn cael ei benodi i’r Tribiwnlys am gyfnod o bum mlynedd ond mae gan Weinidogion Cymru y disgresiwn i wneud penodiadau byrrach.
411.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â phenodi aelodau’r Tribiwnlys (”rheoliadau penodi”).
412.Mae paragraff 10 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ymddiswyddiad aelodau o’r Tribiwnlys.
413.Mae’r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch anghymhwyso personau rhag bod yn aelod o’r Tribiwnlys.
414.Mae’r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch diswyddo aelodau o’r Tribiwnlys gan Weinidogion Cymru.
415.Mae’r paragraff hwn yn darparu bod person sy’n cael ei gyflogi yn un o’r swyddi sydd wedi’u rhestru wedi’i anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth.
416.Mae’r paragraff hwn yn darparu’r seiliau anaddasrwydd a fydd yn anghymhwyso person rhag bod yn aelod o’r Tribiwnlys.
417.Mae person yn cael ei anghymhwyso rhag cael ei benodi os yw eisoes wedi cyrraedd ei 70 oed ar ddyddiad y penodiad.
418.Mae person yn cael ei anghymhwyso rhag cael ei benodi yn aelod o’r Tribiwnlys os yw eisoes wedi gwasanaethu am gyfnod o 10 mlynedd neu fwy (boed drwy benodiadau olynol neu beidio).
419.Ni chaniateir i berson sydd wedi’i ddiswyddo o’r blaen o’r Tribiwnlys gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 12 gael ei ailbenodi’n aelod.
420.Mae’r paragraff hwn yn diffinio “rheoliadau penodi”.
421.Mae’r Atodlen hon yn cael ei chyflwyno gan adran 146 o’r Mesur.
422.Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud gorchymyn yn trosglwyddo staff y Bwrdd naill ai i’r Comisiynydd neu i Lywodraeth Cynulliad Cymru. At ddibenion paragraff 1, yn is-baragraff (9) defnyddir y term “trosglwyddai” i gyfeirio at y cyflogwr y bydd neu y byddai’r aelod o staff y Bwrdd yn cael ei drosglwyddo i’w gyflogi ganddo.
423.Pan drosglwyddir staff gan orchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan is-baragraff (1), mae is-baragraffau (2) i (9) yn gwneud darpariaeth ynghylch effaith y trosglwyddo ar gontractau cyflogaeth staff sy’n trosglwyddo.
424.Ni fydd contractau cyflogaeth staff sy’n trosglwyddo i’r trosglwyddai o ganlyniad i orchymyn a wnaed yn unol â’r paragraff hwn yn cael eu terfynu gan y trosglwyddo a byddant yn effeithiol o’r dyddiad trosglwyddo fel pe byddent wedi’u gwneud yn wreiddiol rhwng yr aelod staff a drosglwyddwyd a’r trosglwyddai. Bydd holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau’r Bwrdd mewn perthynas â chontract cyflogaeth yr aelod staff a drosglwyddwyd yn trosglwyddo i’r trosglwyddai ar ddyddiad y trosglwyddo. Yn yr un modd, bydd unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad trosglwyddo gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef, mewn cysylltiad â’r aelod staff a drosglwyddwyd neu â’i gontract cyflogaeth, yn cael ei drin o’r dyddiad trosglwyddo ymlaen fel pe bai wedi’i wneud gan y trosglwyddai neu mewn perthynas ag ef.
425.O ran person sy’n trosglwyddo, bydd ei gyfnod cyflogaeth fel aelod o staff y Bwrdd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cyfrif fel cyfnod cyflogaeth fel aelod o staff y trosglwyddai. At hyn, at ddibenion adran 218(3) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996, o ran y person sy’n trosglwyddo, bydd ei gyfnod cyflogaeth fel aelod o staff y Bwrdd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei drin fel cyflogaeth barhaus fel aelod o staff y trosglwyddai.
426.Ni throsglwyddir contract cyflogaeth aelod o staff y Bwrdd o dan y paragraff hwn os bydd y cyflogai’n gwrthwynebu’r trosglwyddo. Bydd contract cyflogaeth yr aelod staff hwnnw yn cael ei derfynu yn union cyn y dyddiad y byddai trosglwyddo i’r trosglwyddai’n digwydd ond ni chaiff y cyflogai y terfynir ei gontract ei drin at unrhyw ddiben fel pe bai wedi’i ddiswyddo gan y Bwrdd.
427.Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i wneud gorchymyn ynghylch eiddo, hawliau a rhwymedigaethau’r Bwrdd. Mae hyn yn cynnwys pŵer i drosglwyddo’r eiddo, yr hawliau a’r rhwymedigaethau i’r Comisiynydd neu i Weinidogion Cymru. Mae diffiniadau o “eiddo”, a “hawliau a rhwymedigaethau” yn cael eu darparu hefyd.
428.Mewn amgylchiadau pan drosglwyddir swyddogaethau’r Bwrdd o dan adran 3 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (“Deddf 1993”) i Weinidogion Cymru (gweler adran 143(3)), mae’r paragraff hwn yn darparu rhestr o’r darpariaethau hynny yn Neddf 1993 nad ydynt yn gymwys i’r swyddogaethau hynny a drosglwyddwyd fel y mae’r swyddogaethau’n arferadwy gan Weinidogion Cymru.
429.Mae’r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer dehongli cyfeiriadau at y Bwrdd a geir yn Neddf 1993 o ganlyniad i ddiddymu’r Bwrdd o dan y Mesur. Dylid dehongli cyfeiriadau, yn Neddf 1993, at y Bwrdd, sy’n ymwneud ag un o swyddogaethau’r Bwrdd a drosglwyddir i’r Comisiynydd o ganlyniad i’r paragraff hwn, fel pe baent yn gyfeiriad, neu fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad, at y Comisiynydd. Yn yr un modd, dylid dehongli cyfeiriadau, yn Neddf 1993, at y Bwrdd, sy’n ymwneud ag un o swyddogaethau’r Bwrdd sydd wedi’i throsglwyddo i Weinidogion Cymru, fel pe baent yn gyfeiriad, neu fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad, at Weinidogion Cymru.
430.Mae’r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch parhad unrhyw beth (gan gynnwys achosion cyfreithiol), sy’n ymwneud ag un o swyddogaethau’r Bwrdd a drosglwyddir o dan y Mesur hwn i’r Comisiynydd neu i Weinidogion Cymru (y cyfeirir atynt ar y cyd fel “y trosglwyddai”), ac a oedd yn cael ei wneud gan y Bwrdd, neu mewn perthynas â’r Bwrdd, yn union cyn yr adeg y trosglwyddwyd y swyddogaeth. O ran swyddogaethau o’r math a drosglwyddwyd, caniateir parhau ag unrhyw beth oedd yn cael ei wneud gan y Bwrdd, neu mewn perthynas ag ef, yn union cyn y trosglwyddo gan y trosglwyddai neu mewn perthynas ag ef.
431.Gwneir darpariaeth debyg o ran unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy’n ymwneud ag un o swyddogaethau’r Bwrdd a drosglwyddir i’r trosglwyddai o dan y Mesur hwn. Mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol o’r math sydd wedi’u gwneud neu eu cychwyn cyn adeg trosglwyddo un o swyddogaethau’r Bwrdd, rhoddir y trosglwyddai yn lle’r Bwrdd.
432.At hyn, mae unrhyw beth a wnaed gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef at ddibenion swyddogaeth a drosglwyddwyd oddi wrth y Bwrdd i’r trosglwyddai neu mewn cysylltiad â hi, o dan y Mesur hwn, ac sy’n effeithiol yn union cyn trosglwyddo’r swyddogaeth, yn effeithiol ar ôl y trosglwyddo fel pe bai wedi’i wneud gan y trosglwyddai neu mewn perthynas ag ef.
433.Mae paragraff 5 hefyd yn ymdrin â pharhad unrhyw beth (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sy’n ymwneud ag eiddo, hawliau a rhwymedigaethau’r Bwrdd a drosglwyddwyd i’r trosglwyddai o dan y Mesur hwn. Caniateir i unrhyw beth sy’n ymwneud ag eiddo, hawliau a rhwymedigaethau o’r fath yn union cyn eu trosglwyddo, ac sy’n cael ei wneud gan y Bwrdd, neu mewn perthynas ag ef, gael ei barhau gan y trosglwyddai neu mewn perthynas ag ef.
434.At hyn, mae unrhyw beth a wnaed gan y Bwrdd, neu mewn perthynas ag ef, at ddibenion eiddo, hawliau a rhwymedigaethau a drosglwyddwyd i’r trosglwyddai neu mewn cysylltiad â hwy, o dan y Mesur hwn, ac sy’n effeithiol yn union cyn trosglwyddo’r eiddo, hawliau neu rwymedigaethau, yn effeithiol ar ôl y trosglwyddo fel pe bai wedi’i wneud gan y trosglwyddai neu mewn perthynas ag ef.
435.Os trosglwyddir eiddo, hawliau neu rwymedigaethau’r Bwrdd i’r trosglwyddai, mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy’n ymwneud â’r eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddwyd, ac sydd wedi’u gwneud neu eu cychwyn cyn y trosglwyddo, rhoddir y trosglwyddai yn lle’r Bwrdd.
436.Fodd bynnag, nid yw’r darpariaethau yn y paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â hawliau a rhwymedigaethau o dan gontractau cyflogaeth staff y Bwrdd.
437.Mae’r paragraff hwn yn diffinio “Deddf 1993” ac “y Bwrdd” at ddibenion yr Atodlen hon.