Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

RHAN 3LL+CPANEL CYNGHORI COMISIYNYDD Y GYMRAEG

23Y Panel CynghoriLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi personau i fod yn aelodau o banel o gynghorwyr i'r Comisiynydd.

(2)Mae'r panel i'w alw'n Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel y “Panel Cynghori”).

(3)I'r graddau y bo hynny'n ymarferol, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod o leiaf 3 ond nid mwy na 5 o aelodau ar y Panel Cynghori ar unrhyw adeg.

(4)Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch aelodau'r Panel Cynghori.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 23 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 23(1) mewn grym ar 10.1.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/46, ergl. 2(b)

I3A. 23(1)(4) mewn grym ar 1.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/969, ergl. 2(a)

I4A. 23(2)(3) mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(a)

I5A. 23(4) mewn grym ar 10.1.2012 gan O.S. 2012/46, ergl. 2(a)

24YmgynghoriLL+C

(1)Caiff y Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori ynghylch unrhyw fater.

(2)Nid yw darpariaethau eraill y Mesur hwn sy'n darparu i'r Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori yn cyfyngu ar is-adran (1).

(3)Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at ymgynghori â'r Panel Cynghori yn gyfeiriadau at ymgynghori ag unrhyw un neu ragor neu'r oll o aelodau'r Panel.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 24 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I7A. 24 mewn grym ar 17.4.2012 gan O.S. 2012/1096, ergl. 2(b)