Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Safonau cyflenwi gwasanaethauLL+C

28Safonau cyflenwi gwasanaethauLL+C

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “safon cyflenwi gwasanaethau” yw safon—

(a)sy'n ymwneud â gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau, a

(b)y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg, neu weithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg, pan gyflawnir y gweithgaredd hwnnw.

(2)Yn yr adran hon ystyr “gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau” yw—

(a)cyflenwi gwasanaethau gan berson i berson arall, neu

(b)delio gan berson ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau—

(i)i'r person arall hwnnw, neu

(ii)i drydydd person.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 28 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 28 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)