Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

PENNOD 3LL+CPERSONAU SY'N AGORED I ORFOD CYDYMFFURFIO Å SAFONAU

33Personau sy'n agored i orfod cydymffurfio â safonauLL+C

(1)Mae person (P) yn agored i orfod cydymffurfio â safonau os yw P—

(a)yn dod o fewn Atodlen 5 a hefyd o fewn Atodlen 6, neu

(b)yn dod o fewn Atodlen 7 a hefyd o fewn Atodlen 8.

(2)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 33 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 33 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

34Personau sy'n dod o fewn Atodlenni 5, 6, 7 ac 8LL+C

(1)Mae person yn dod o fewn Atodlen 5 os yw'r person yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 5.

(2)Mae person yn dod o fewn Atodlen 6 os yw'r person—

(a)yn cael ei bennu yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 6, neu

(b)yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yn y golofn honno.

(3)Mae person yn dod o fewn Atodlen 7 os yw'r person yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 7.

(4)Mae person yn dod o fewn Atodlen 8 os yw'r person—

(a)yn cael ei bennu yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 8, neu

(b)yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yn y golofn honno.

(5)Nid yw newid enw person a bennir yn Atodlen 6 neu yn Atodlen 8 yn effeithio ar weithredu'r Mesur hwn mewn perthynas â'r person.

(6)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at gofnod person yn y tabl yn Atodlen 6 neu yn y tabl yn Atodlen 8 yn gyfeiriadau at y cofnod yn y tabl hwnnw (yng ngholofn (1)) sy'n pennu—

(a)P, neu

(b)categori o bersonau y mae P yn dod oddi mewn iddo.

(7)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 34 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4A. 34 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

35Diwygio personau a chategorïau a bennir yn Atodlenni 6 ac 8LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 a'r tabl yn Atodlen 8 yn unol â'r adran hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn (1) yn cynnwys cyfeiriad—

(a)at berson sy'n dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 5, neu

(b)at gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 5.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 6 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (1).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 fel bod colofn (1) yn cynnwys cyfeiriad—

(a)at berson sy'n dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 7, neu

(b)at gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 7.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (1).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau eraill i'r tabl yn Atodlen 6 neu i'r tabl yn Atodlen 8, neu i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Mesur hwn, sy'n briodol yn eu tyb hwy mewn cysylltiad â phwerau yn unrhyw un neu ragor o is-adrannau (2) i (5), at ddibenion y pwerau hynny, neu o ganlyniad i'r pwerau hynny.

(7)Yn yr adran hon—

  • ystyr “categori yn Atodlen 5” (“Schedule 5 category”) yw categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 5;

  • ystyr “categori yn Atodlen 7” (“Schedule 7 category”) yw categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 7.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 35 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I6A. 35 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)