Y TribiwnlysLL+C
120Tribiwnlys y GymraegLL+C
(1)Bydd yna Dribiwnlys y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel y “Tribiwnlys”).
(2)Yr aelodau canlynol fydd aelodau'r Tribiwnlys—
(a)Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel y “Llywydd”);
(b)aelodau wedi ymgymhwyso yn y gyfraith; ac
(c)aelodau lleyg.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi aelodau'r Tribiwnlys.
(4)Mae Atodlen 11 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y Tribiwnlys.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 120 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 120(2)(3) mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(a)(b)
I3A. 120(4) mewn grym ar 1.4.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/969, ergl. 2(l)
I4A. 120(4) mewn grym ar 7.1.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(c)
Yn ddilys o 30/04/2015
121Cyfansoddiad ar gyfer achosion gerbron y TribiwnlysLL+C
(1)Rhaid i'r Llywydd ddewis yr aelodau o'r Tribiwnlys sydd i ymdrin ag achosion penodol gerbron y Tribiwnlys.
(2)Rhaid i'r Llywydd ddewis tri aelod o'r Tribiwnlys i ymdrin â'r achosion.
(3)Rhaid i'r Llywydd sicrhau bod—
(a)o leiaf un o'r tri aelod yn aelod cyfreithiol, a
(b)o leiaf un o'r tri aelod yn aelod lleyg.
(4)Os dim ond un o'r tri aelod sy'n aelod cyfreithiol, yr aelod cyfreithiol hwnnw sydd i gadeirio'r achos.
(5)Os oes mwy nag un o'r tri aelod yn aelodau cyfreithiol, mae'r Llywydd i ddewis yr aelod cyfreithiol sydd i gadeirio'r achos.
(6)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.
(7)Yn yr adran hon ystyr “aelod cyfreithiol” yw—
(a)y Llywydd, neu
(b)aelod o'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 121 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
Yn ddilys o 30/04/2015
122Gwrandawiadau cyhoeddusLL+C
(1)Mae achosion gerbron y Tribiwnlys i'w cynnal yn gyhoeddus.
(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 122 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)