xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynwyd gan adran 146)

ATODLEN 12LL+CDIDDYMU BWRDD YR IAITH GYMRAEG: DARPARIAETH ARALL

Staff y BwrddLL+C

1(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff y Bwrdd—

(a)i'r Comisiynydd, neu

(b)i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

(2)O ran contract cyflogaeth person a drosglwyddir yn rhinwedd y paragraff hwn—

(a)nid yw'n cael ei derfynu gan y trosglwyddo, a

(b)mae'n cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo fel pe byddai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a drosglwyddir a'r trosglwyddai.

(3)Heb ragfarnu is-baragraff (2)—

(a)os trosglwyddir person i'w gyflogi gan y Comisiynydd—

(i)trosglwyddir holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau'r Bwrdd o dan gontract cyflogaeth y person ac mewn cysylltiad â'i gontract i'r Comisiynydd ar y dyddiad trosglwyddo, a

(ii)mae unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef mewn cysylltiad â'r person neu â'r contract i'w drin o'r dyddiad hwnnw ymlaen fel pe byddai wedi ei wneud gan y Comisiynydd neu mewn perthynas ag ef,

(b)os trosglwyddir person i'w gyflogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru—

(i)trosglwyddir holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau'r Bwrdd o dan gontract cyflogaeth y person ac mewn cysylltiad â'i gontract i Weinidogion Cymru ar y dyddiad trosglwyddo, a

(ii)mae unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef mewn cysylltiad â'r person neu â'r contract i'w drin o'r dyddiad hwnnw ymlaen fel pe byddai wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru neu mewn perthynas â hwy.

(4)Os trosglwyddir person yn rhinwedd y paragraff hwn, mae cyfnod cyflogaeth y person hwnnw gyda'r Bwrdd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo—

(a)yn cyfrif fel cyfnod o gyflogaeth fel aelod o staff y trosglwyddai, a

(b)i'w drin fel cyflogaeth ddi-dor fel aelod o staff y trosglwyddai at ddibenion adran 218(3) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996.

(5)Ni throsglwyddir contract cyflogaeth (neu'r hawliau, pwerau, dyletswyddau a'r rhwymedigaethau oddi tano neu mewn cysylltiad ag ef) o dan y paragraff hwn os yw'r cyflogai'n gwrthwynebu trosglwyddo ac yn hysbysu'r Bwrdd neu'r trosglwyddai ei fod yn gwrthwynebu.

(6)Os yw'r cyflogai'n hysbysu'r Bwrdd neu'r trosglwyddai ei fod yn gwrthwynebu o dan is-baragraff (5)—

(a)terfynir y contract cyflogaeth yn union cyn y dyddiad pryd y byddai'r trosglwyddo'n digwydd, ond

(b)nid yw'r cyflogai'n cael ei drin, at unrhyw bwrpas, fel pe bai wedi ei ddiswyddo gan y Bwrdd.

(7)Nid oes dim yn y paragraff hwn yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan berson a drosglwyddir i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol (ac eithrio newid cyflogwr) sy'n niweidiol i'r person o ran ei amodau gwaith.

(8)Caniateir gwneud darpariaeth o dan is-baragraff (1) mewn cysylltiad â phob person a gyflogir gan y Bwrdd, unrhyw ddosbarth o berson neu berson o unrhyw ddisgrifiad, neu unrhyw berson unigol.

(9)Yn y paragraff hwn mae “trosglwyddai” yn cyfeirio at y cyflogwr y trosglwyddir neu y trosglwyddid y person o dan y paragraff hwn i'w gyflogi ganddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 12 para. 1 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2Atod. 12 para. 1 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(d)

Eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r BwrddLL+C

2(1)Heb ragfarnu paragraff 1, caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth ynghylch eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd.

(2)Mae'r pŵer a roddir gan is-baragraff (1) yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny—

(a)trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—

(i)i'r Comisiynydd, neu

(ii)i Weinidogion Cymru;

(b)trosglwyddo eiddo, hawliau neu rwymedigaethau'r Bwrdd i gael effaith yn ddarostyngedig i eithriadau neu neilltuadau;

(c)trosglwyddo eiddo, hawliau neu rwymedigaethau i gael effaith er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (beth bynnag ei natur) a fyddai fel arall yn atal neu'n cyfyngu ar y trosglwyddo;

(d)creu buddiannau yn eiddo'r Bwrdd neu eiddo a drosglwyddir oddi wrth y Bwrdd, neu hawliau dros yr eiddo hwnnw;

(e)creu hawliau a rhwymedigaethau—

(i)rhwng y Bwrdd a'r Comisiynydd, neu

(ii)rhwng y Bwrdd a Gweinidogion Cymru.

(3)Yn y paragraff hwn—

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 12 para. 2 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4Atod. 12 para. 2 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(d)

Addasu Deddf 1993 mewn perthynas a swyddogaethau a drosglwyddir i Weinidogion CymruLL+C

3Os trosglwyddir y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan adran 3 o Ddeddf 1993 i Weinidogion Cymru (boed yn lle trosglwyddo'r swyddogaethau i'r Comisiynydd neu'n ychwanegol at wneud hynny), nid yw darpariaethau canlynol Deddf 1993 yn gymwys i'r swyddogaethau yn y modd y maent yn arferadwy gan Weinidogion Cymru—

(a)adran 3(2)(a);

(b)adran 3(3) a (4);

(c)adran 4(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 12 para. 3 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I6Atod. 12 para. 3 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Cyfeiriadau at y BwrddLL+C

4Mae unrhyw gyfeiriad at y Bwrdd yn Neddf 1993 i'w ddehongli—

(a)i'r graddau y mae'n ymwneud ag un o swyddogaethau'r Bwrdd a drosglwyddir i'r Comisiynydd, fel pe bai'n gyfeiriad, neu'n cynnwys cyfeiriad, at y Comisiynydd; a

(b)i'r graddau y mae'n ymwneud ag un o swyddogaethau'r Bwrdd a drosglwyddir i Weinidogion Cymru, fel pe bai'n gyfeiriad, neu'n cynnwys cyfeiriad, at Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 12 para. 4 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I8Atod. 12 para. 4 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Parhad achosion cyfreithiol, dilysrwydd gweithredoedd etcLL+C

5(1)Caiff unrhyw beth (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sy'n ymwneud ag—

(a)swyddogaeth a drosglwyddwyd, neu

(b)eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddwyd,

ac sydd yn y broses o gael ei wneud gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef yn union cyn adeg y trosglwyddo, ei barhau gan y trosglwyddai neu mewn perthynas ag ef.

(2)Mae unrhyw beth a wnaed gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef at y dibenion canlynol, neu mewn cysylltiad â'r canlynol—

(a)swyddogaeth a drosglwyddwyd, neu

(b)eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddwyd,

ac sy'n effeithiol yn union cyn adeg y trosglwyddo, yn effeithiol ar ôl y trosglwyddo fel pe bai wedi ei wneud gan y trosglwyddai neu mewn perthynas ag ef.

(3)Mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy'n ymwneud ag—

(a)swyddogaeth a drosglwyddwyd, neu

(b)eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddwyd,

ac sy'n cael eu gwneud neu eu cychwyn cyn adeg y trosglwyddo, rhodder y trosglwyddai yn lle'r Bwrdd.

(4)Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth aelod o staff y Bwrdd.

(5)Yn y paragraff hwn—

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 12 para. 5 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I10Atod. 12 para. 5 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

DehongliLL+C

6Yn yr Atodlen hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 12 para. 6 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I12Atod. 12 para. 6 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(d)