xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 12LL+CDIDDYMU BWRDD YR IAITH GYMRAEG: DARPARIAETH ARALL

Eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r BwrddLL+C

2(1)Heb ragfarnu paragraff 1, caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth ynghylch eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd.

(2)Mae'r pŵer a roddir gan is-baragraff (1) yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny—

(a)trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—

(i)i'r Comisiynydd, neu

(ii)i Weinidogion Cymru;

(b)trosglwyddo eiddo, hawliau neu rwymedigaethau'r Bwrdd i gael effaith yn ddarostyngedig i eithriadau neu neilltuadau;

(c)trosglwyddo eiddo, hawliau neu rwymedigaethau i gael effaith er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (beth bynnag ei natur) a fyddai fel arall yn atal neu'n cyfyngu ar y trosglwyddo;

(d)creu buddiannau yn eiddo'r Bwrdd neu eiddo a drosglwyddir oddi wrth y Bwrdd, neu hawliau dros yr eiddo hwnnw;

(e)creu hawliau a rhwymedigaethau—

(i)rhwng y Bwrdd a'r Comisiynydd, neu

(ii)rhwng y Bwrdd a Gweinidogion Cymru.

(3)Yn y paragraff hwn—

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 12 para. 2 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2Atod. 12 para. 2 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(d)