SylwadauLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
6(1)Rhaid i'r Comisiynydd wneud trefniadau ar gyfer rhoi cyfle i bersonau wneud sylwadau mewn perthynas ag ymholiadau.
(2)Rhaid i'r trefniadau roi cyfle i'r personau canlynol wneud sylwadau yn ystod ymholiad—
(a)pob person—
(i)a bennir yn y cylch gorchwyl, neu
(ii)sy'n dod o fewn categori o berson a bennir yn y cylch gorchwyl, a
(b)Gweinidogion Cymru.
(3)Caiff trefniadau o dan y paragraff hwn gynnwys trefniadau ar gyfer sylwadau llafar ymysg pethau eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(e)