111Gwneud cais i'r ComisiynyddLL+C
(1)Caiff unigolyn (P) wneud cais i'r Comisiynydd yn gofyn i'r Comisiynydd ymchwilio i a yw person (D) wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg ag unigolyn arall (R) (“yr ymyrraeth honedig”).
(2)Rhaid i gais o dan yr adran hon gydymffurfio â'r gofynion a ganlyn.
(3)Rhaid i'r cais fod yn ysgrifenedig oni bai bod amgylchiadau personol P yn golygu na fyddai'n rhesymol i P wneud cais yn ysgrifenedig.
(4)Rhaid i'r cais roi cyfeiriad lle y caiff y Comisiynydd gysylltu â P (boed y cyfeiriad yn gyfeiriad post, electronig neu'n gyfeiriad o ddisgrifiad arall).
(5)Rhaid i'r cais—
(a)ei gwneud yn hysbys pwy yw D, a
(b)ei gwneud yn hysbys beth yw'r ymyrraeth honedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 111 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 111 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(k)