128Cynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennigLL+C
(1)Caiff y Llywydd benodi cynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig i ddarparu cymorth i'r Tribiwnlys (boed mewn perthynas ag achosion penodol gerbron y Tribiwnlys neu fel arall).
(2)Caiff y Llywydd dalu tâl cydnabyddiaeth i gynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig.
(3)Caiff y Llywydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i gynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig.
(4)Ond rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo swm unrhyw dâl cydnabyddiaeth, lwfansau neu arian rhodd sy'n daladwy i gynghorydd sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig cyn i'r Llywydd dalu'r tâl cydnabyddiaeth, lwfansau neu'r arian rhodd, neu gytuno i'w talu.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 128 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 128 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(h)