Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

140Braint absoliwtLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)At ddibenion cyfraith difenwi, mae'r canlynol yn absoliwt freintiedig—

(a)cyhoeddi mater gan y Comisiynydd wrth iddo arfer unrhyw un neu ragor o'i swyddogaethau;

(b)cyhoeddi mater gan aelod o'r Panel Cynghori wrth iddo arfer unrhyw un neu ragor o'i swyddogaethau;

(c)cyhoeddi mater gan berson wrth iddo gydymffurfio â gofyniad mewn hysbysiad penderfynu;

(d)cyhoeddi, mewn cyfathrebiad rhwng—

(i)y Comisiynydd, a

(ii)person a ddiogelir,

fater mewn cysylltiad ag ymholiad neu ymchwiliad;

(e)cyhoeddi, mewn cyfathrebiad rhwng—

(i)yr achwynydd neu berson sy'n gweithredu ar ran yr achwynydd, a

(ii)cynrychiolydd,

fater mewn cysylltiad ag ymchwiliad o dan Ran 5 neu Ran 6.

(2)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at y Comisiynydd yn cynnwys y personau canlynol—

(a)aelodau o staff y Comisiynydd;

(b)unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran y Comisiynydd neu'n cynorthwyo i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 140 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 140(1)(a)(b)(2) mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(n)

I3A. 140(1)(c) mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(e)

I4A. 140(1)(d)(e) mewn grym ar 1.4.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/969, ergl. 2(n)

I5A. 140(1)(d)(e) mewn grym ar 7.7.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(d)