25Dyletswydd i gydymffurfio â safonLL+C
(1)Rhaid i berson (P) gydymffurfio â safon ymddygiad a bennir gan Weinidogion Cymru yn unol â Phennod 2 os bodlonir, a thra bodlonir, yr amodau canlynol.
(2)Amod 1 yw bod P yn agored i orfod cydymffurfio â safonau (gweler Pennod 3).
(3)Amod 2 yw bod y safon yn gymwysadwy i P (gweler Pennod 4).
(4)Amod 3 yw bod y safon yn benodol gymwys i P (gweler Pennod 5).
(5)Amod 4 yw bod y Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i P (gweler Pennod 6).
(6)Amod 5 yw bod yr hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â'r safon (gweler Pennod 6).
(7)Amod 6 yw bod yr hysbysiad cydymffurfio mewn grym (gweler Pennod 6).
(8)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r hysbysiad cydymffurfio a roddir i P.
(9)Am ddarpariaeth—
(a)ynglŷn â'r hawl i herio mewn cysylltiad â'r ddyletswydd i gydymffurfio â safonau, gweler Pennod 7;
(b)ynglŷn ag ymchwiliadau ac adroddiadau safonau, gweler Pennod 8;
(c)ynglŷn â materion cyffredinol, gweler Pennod 9.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 25 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 25 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)