xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu nad yw D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol.
(2)Caiff y Comisiynydd—
(a)peidio â gweithredu ymhellach, neu
(b)gweithredu o dan is-adran (3).
(3)Caiff y Comisiynydd wneud un neu ragor o'r pethau a ganlyn—
(a)rhoi argymhellion i D neu i unrhyw berson arall;
(b)rhoi cyngor i D neu i unrhyw berson arall.
(4)Os yw'r ymchwiliad a arweiniodd at y dyfarniad yn dilyn cwyn a wnaed o dan adran 93, rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol roi gwybod i'r person a wnaeth y gŵyn am yr hawl i apelio o dan adran 99.
(5)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.
(6)Yn yr adran hon ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad penderfynu y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i'r person a wnaeth y gŵyn o dan adran 93.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 76 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 76 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(c)