Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

80Cynlluniau gweithredu
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D sy'n ei gwneud yn ofynnol i D baratoi cynllun gweithredu.

(2)Rhaid i D roi cynllun drafft cyntaf i'r Comisiynydd o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad penderfynu.

(3)Ar ôl i gynllun drafft cyntaf ddod i law oddi wrth berson rhaid i'r Comisiynydd—

(a)ei gymeradwyo, neu

(b)rhoi i'r person hysbysiad—

(i)sy'n datgan nad yw'r drafft yn ddigonol,

(ii)sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person roi drafft diwygiedig i'r Comisiynydd erbyn amser penodedig, a

(iii)sy'n nodi y caniateir iddo wneud argymhellion ynghylch cynnwys y drafft diwygiedig.

(4)Mae is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas â chynllun drafft diwygiedig fel y mae'n gymwys mewn perthynas â chynllun drafft cyntaf.

(5)Daw cynllun gweithredu i rym—

(a)ar ddiwedd cyfnod o chwe wythnos yn dechrau ar y dyddiad y rhoddir drafft cyntaf neu ddrafft diwygiedig i'r Comisiynydd, os daw'r cyfnod hwnnw i ben heb i'r Comisiynydd—

(i)rhoi hysbysiad o dan is-adran (3)(b), neu

(ii)gwneud cais am orchymyn o dan is-adran (6)(b), neu

(b)ar yr adeg pryd y bydd llys yn gwrthod gwneud gorchymyn o dan is-adran (6)(b) mewn perthynas â drafft diwygiedig o'r cynllun.

(6)Caiff y Comisiynydd wneud cais i lys sirol—

(a)am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson roi cynllun drafft cyntaf i'r Comisiynydd erbyn amser a bennir yn y gorchymyn; neu

(b)am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi rhoi cynllun drafft diwygiedig i'r Comisiynydd baratoi a rhoi cynllun drafft diwygiedig pellach i'r Comisiynydd—

(i)erbyn amser a bennir yn y gorchymyn, a

(ii)yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau ynghylch cynnwys y cynllun a bennir yn y gorchymyn.

(7)Caniateir i gynllun gweithredu gael ei amrywio drwy gytundeb rhwng y Comisiynydd a'r person a'i paratôdd.

(8)Mae paragraffau 5 i 12 o Atodlen 10 yn gymwys mewn perthynas â bod y Comisiynydd yn ystyried a yw cynllun gweithredu drafft yn ddigonol fel y mae'r paragraffau hynny'n gymwys mewn perthynas â chynnal ymchwiliad.