93Ystyried ai i ymchwilio ai peidio os gwneir cwyn ynghylch ymddygiad
(1)Rhaid i'r Comisiynydd ystyried ai i gynnal ymchwiliad o dan adran 71 ai peidio i'r cwestiwn a yw ymddygiad person (D) (“yr ymddygiad honedig”) yn gyfystyr â methiant i gydymffurfio â safon—
(a)os yw person (P) yn gwneud cwyn i'r Comisiynydd ynglŷn â'r ymddygiad, a
(b)os yw'r gŵyn yn un ddilys.
(2)Mae cwyn gan P i'r Comisiynydd yn gŵyn ddilys os bodlonir yr amodau yn is-adrannau (3) i (6).
(3)Rhaid i P fod—
(a)yn berson y mae'n ymddangos i'r Comisiynydd fod yr ymddygiad honedig wedi effeithio arno'n uniongyrchol, neu
(b)yn berson sy'n gweithredu ar ran y person hwnnw.
(4)Rhaid gwneud y gŵyn yn ysgrifenedig, oni bai bod amgylchiadau personol P yn golygu na fyddai'n rhesymol i P wneud y gŵyn yn ysgrifenedig.
(5)Rhaid i'r gŵyn roi cyfeiriad lle y caiff y Comisiynydd gysylltu â P (boed y cyfeiriad yn gyfeiriad post, electronig neu'n gyfeiriad o ddisgrifiad arall).
(6)Rhaid i'r gŵyn—
(a)ei gwneud yn hysbys pwy yw D, a
(b)ei gwneud yn hysbys beth yw'r ymddygiad honedig.
(7)Ond, os bodlonir yr amodau hynny, nid oes angen i'r Comisiynydd ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio—
(a)os gwneir y gŵyn fwy na blwyddyn ar ôl i'r person yr effeithiwyd arno ddod yn ymwybodol o'r ymddygiad honedig,
(b)os yw'r Comisiynydd o'r farn bod y gŵyn yn wacsaw neu'n flinderus, neu'n un sydd eisoes wedi ei gwneud sawl gwaith, neu
(c)os tynnir y gŵyn yn ôl.
(8)Nid yw'r adran hon yn atal y Comisiynydd rhag ystyried ai i gynnal yr ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio—
(a)os na fodlonir unrhyw un neu ragor o'r amodau yn is-adrannau (3) i (6), neu
(b)os yw is-adran (7) yn gymwys.
(9)Os gwneir cwyn o dan yr adran hon gan berson sy'n gweithredu ar ran person arall, yn narpariaethau'r Mesur hwn sy'n ymwneud ag apelau neu apelau pellach sy'n gysylltiedig â'r gŵyn, mae cyfeiriad at y person a wnaeth y gŵyn (gan gynnwys achos pan gyfeirir at y person hwnnw fel “P”) i'w ddarllen fel cyfeiriad at y person arall (ac nid fel cyfeiriad at y person a wnaeth y gŵyn).
(10)Yn yr adran hon ystyr “person yr effeithiwyd arno” yw person y mae'n ymddangos i'r Comisiynydd fod yr ymddygiad honedig wedi effeithio arno'n uniongyrchol.