Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Erthygl 10
Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 02/11/2020
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/09/2022.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, Croes Bennawd: Erthygl 10.![Help about Changes to Legislation](/images/chrome/helpIcon.gif)
![Close](/images/chrome/closeIcon.gif)
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Erthygl 10LL+C
1LL+CYn unol ag ymrwymiad y Partïon Gwladwriaethau o dan erthygl 9, paragraff 1, rhaid i geisiadau gan blentyn neu ei rieni i ddod i mewn i diriogaeth Parti Gwladwriaeth neu ymadael â hi at ddiben ailuno gael eu trin gan Bartïon Gwladwriaethau mewn modd cadarnhaol, dyngarol a hwylus. Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau ymhellach na fyddai cyflwyno'r archiad hwnnw yn peri unrhyw ganlyniadau andwyol i'r ceiswyr nac i aelodau o'u teulu.
2LL+CBydd gan blentyn y mae ei rieni yn preswylio mewn gwahanol Wladwriaethau hawl i gadw yn rheolaidd, oddigerth o dan amgylchiadau eithriadol, berthynas bersonol a chysylltiadau uniongyrchol â'r ddau riant. I'r perwyl hwnnw ac yn unol ag ymrwymiad Partïon Gwladwriaethau o dan erthygl 9, paragraff 2, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau barchu hawl y plentyn a'i rieni i adael unrhyw wlad, gan gynnwys gwlad eu hunain, ac i fynd i mewn i'w gwlad eu hunain. Yr unig gyfyngiadau y bydd yr hawl i adael unrhyw wlad yn ddarostyngedig iddynt yw'r cyfyngiadau sydd wedi eu rhagnodi gan y gyfraith ac sy'n angenrheidiol i warchod diogeledd gwladol, trefn gyhoeddus (ordre public), iechyd neu foesau cyhoeddus neu hawliau a rhyddidau personau eraill ac sy'n gyson â'r hawliau eraill a gydnabyddir yn y Confensiwn presennol.
Yn ôl i’r brig