Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Erthygl 20
Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 02/11/2020
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/09/2021.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, Croes Bennawd: Erthygl 20.
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Erthygl 20LL+C
1LL+CBydd hawlogaeth gan blentyn sydd wedi ei amddifadu dros dro neu'n barhaol o'i amgylchfyd teuluol, neu nad oes modd caniatáu iddo, er lles pennaf ef ei hun, aros yn yr amgylchfyd hwnnw, i gael amddiffyniad a chymorth arbennig a ddarperir gan y Wladwriaeth.
2LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau, yn unol â'u cyfreithiau cenedlaethol, sicrhau gofal amgen i blentyn o'r fath.
3LL+CGallai'r gofal hwnnw gynnwys, ymhlith pethau eraill, leoliad maeth, caffala cyfraith Islamaidd, mabwysiad neu, os yw'n angenrheidiol, lleoliad mewn sefydliadau addas ar gyfer gofalu am blant. Wrth bwyso a mesur datrysiadau, rhaid rhoi sylw priodol i'r ffaith ei bod yn ddymunol cael parhad ym magwraeth plentyn ac i'w gefndir ethnig, crefyddol, diwylliannol ac ieithyddol.
Yn ôl i’r brig