Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Erthygl 21
Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 02/11/2020
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/09/2022.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, Croes Bennawd: Erthygl 21.![Help about Changes to Legislation](/images/chrome/helpIcon.gif)
![Close](/images/chrome/closeIcon.gif)
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Erthygl 21LL+C
Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sy'n cydnabod ac yn/neu'n caniatáu'r system fabwysiadu sicrhau mai'r ystyriaeth oruchaf fydd lles pennaf y plentyn a rhaid iddynt:
(a)sicrhau bod mabwysiad plentyn yn cael ei awdurdodi gan neb ond awdurdodau cymwys sy'n penderfynu, yn unol â'r gyfraith a'r gweithdrefnau sy'n gymwysadwy ac ar sail pob gwybodaeth berthnasol a dibynadwy, y gellir caniatáu'r mabwysiad oherwydd statws y plentyn o ran rhieni, perthnasau a gwarcheidwaid cyfreithiol a bod y personau o dan sylw, os yw'n ofynnol iddynt wneud hynny, wedi cydsynio'n ddeallus â'r mabwysiad ar sail unrhyw gwnsela a oedd yn angenrheidiol;
(b)cydnabod y gellir ystyried mabwysiad trawswladol fel dull amgen o ofalu am blentyn, os na ellir ei leoli mewn teulu maeth neu deulu mabwysiadol neu os na ellir gofalu am y plentyn mewn unrhyw ffordd addas yn y wlad y tarddodd ohoni;
(c)sicrhau bod y plentyn y mae mabwysiad trawswladol yn ymwneud ag ef yn mwynhau trefniadau diogelu a safonau sy'n cyfateb i'r rhai sy'n bodoli yn achos mabwysiadu cenedlaethol;
(d)cymryd pob mesur priodol i sicrhau, yn achos mabwysiad trawswladol, na fydd y lleoliad yn arwain at elw ariannol amhriodol i'r rhai sy'n ymwneud â'r mabwysiad hwnnw;
(e)hybu, pan fo'n briodol, amcanion yr erthygl bresennol drwy gwblhau trefniadau neu gytundebau dwyochrog neu amlochrog, ac ymdrechu, o fewn y fframwaith hwn, i sicrhau bod lleoliad y plentyn mewn gwlad arall yn cael ei gyflawni gan awdurdodau neu gyrff cymwys.
Yn ôl i’r brig