Erthygl 24LL+C
1LL+CMae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl y plentyn i fwynhau'r safon iechyd uchaf y gellir ei chyrraedd ac i gael cyfleusterau ar gyfer trin afiechyd ac adfer i iechyd. Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau ymdrechu i sicrhau na chaiff unrhyw blentyn ei amddifadu o'i hawl i gael mynediad at y gwasanaethau gofal iechyd hynny.
2LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau fwrw ymlaen â gweithredu'r hawl hon yn llawn ac, yn benodol, rhaid iddynt gymryd mesurau priodol i wneud y canlynol:
(a)lleihau cyfradd marwolaethau babanod a phlant;
(b)sicrhau bod cymorth meddygol a gofal iechyd angenrheidiol yn cael eu darparu i bob plentyn gyda phwyslais ar ddatblygu gofal iechyd sylfaenol;
(c)ymladd afiechydon a diffyg maeth, gan gynnwys o fewn fframwaith gofal iechyd sylfaenol, drwy, ymhlith pethau eraill, ddefnyddio technoleg sydd ar gael yn rhwydd a thrwy ddarparu digon o fwydydd maethlon a dŵr yfed glân, gan ystyried peryglon a risgiau llygredd amgylcheddol;
(d)sicrhau gofal iechyd priodol i famau cyn geni ac ar ôl geni plant;
(e)sicrhau bod pob segment cymdeithas, yn enwedig rhieni a phlant, yn wybodus, yn gallu cael mynediad at addysg ynghylch iechyd a maeth plant, manteision bwydo ar y fron, hylendid a glanweithdra amgylcheddol ac atal damweiniau ac yn cael cymorth i ddefnyddio gwybodaeth sylfaenol am y materion hynny;
(f)datblygu gofal iechyd ataliol, llunio canllawiau i rieni a datblygu addysg a gwasanaethau ynghylch cynllunio teulu.
3LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur effeithiol a phriodol gyda golwg ar ddiddymu arferion traddodiadol sy'n niweidiol i iechyd plant.
4LL+CMae Partïon Gwladwriaethau yn ymrwymo i hybu ac annog cydweithrediad rhyngwladol gyda golwg ar sicrhau'n raddol wireddiad llawn yr hawl a gydnabyddir yn yr erthygl hon. Yn hyn o beth, rhaid rhoi sylw penodol i anghenion gwledydd sy'n datblygu.