Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Erthygl 27
Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 02/11/2020
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/09/2022.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, Croes Bennawd: Erthygl 27.![Help about Changes to Legislation](/images/chrome/helpIcon.gif)
![Close](/images/chrome/closeIcon.gif)
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Erthygl 27LL+C
1LL+CMae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl pob plentyn i gael safon byw sy'n ddigonol ar gyfer datblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol a chymdeithasol y plentyn.
2LL+CY rhiant (rhieni) neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am y plentyn sy'n bennaf cyfrifol am sicrhau, o fewn eu galluoedd a'u gallueddau ariannol, yr amodau byw sy'n angenrheidiol i ddatblygiad y plentyn.
3LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau, yn unol â'r amodau cenedlaethol ac o fewn eu moddion, gymryd mesurau priodol i gynorthwyo rhieni a phersonau eraill sy'n gyfrifol am y plentyn i weithredu'r hawl hon ac, os bydd angen, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau roi cymorth materol a darparu rhaglenni cynnal, yn enwedig mewn perthynas â maeth, dillad a thai.
4LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur priodol i sicrhau bod cynhaliaeth i'r plentyn yn cael ei hadennill o'r rhieni neu'r personau eraill sydd â chyfrifoldeb ariannol dros y plentyn, o fewn y Parti Gwladwriaeth ac oddi dramor. Yn benodol, pan fo'r person sydd â chyfrifoldeb ariannol dros y plentyn yn byw mewn Gwladwriaeth sy'n wahanol i un y plentyn, rhaid i'r Partïon Gwladwriaethau hybu'r broses o gydsynio â chytundebau rhyngwladol neu gwblhau'r cytundebau hynny, yn ogystal â gwneud trefniadau priodol eraill.
Yn ôl i’r brig