Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Erthygl 29
Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 02/11/2020
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/09/2022.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, Croes Bennawd: Erthygl 29.![Help about Changes to Legislation](/images/chrome/helpIcon.gif)
![Close](/images/chrome/closeIcon.gif)
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Erthygl 29LL+C
1LL+CMae Partïon Gwladwriaethau yn cytuno bod rhaid cyfeirio addysg y plentyn at y canlynol:
(a)datblygu personoliaeth, doniau a galluoedd meddyliol a chorfforol y plentyn hyd eithaf eu potensial;
(b)magu parch at hawliau dynol a rhyddidau sylfaenol, ac at yr egwyddorion sydd wedi eu corffori yn Siarter y Cenhedloedd Unedig;
(c)magu parch at rieni'r plentyn, ei hunaniaeth ddiwylliannol, ei iaith a'i werthoedd ei hun, at werthoedd cenedlaethol y wlad lle mae'r plentyn yn byw, y wlad y gall ei fod yn tarddu ohoni, ac at wareiddiadau sy'n wahanol i un ei hun;
(d)paratoi'r plentyn ar gyfer bywyd cyfrifol mewn cymdeithas rydd, mewn ysbryd dealltwriaeth, heddwch, goddefgarwch, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a chyfeillgarwch ymhlith yr holl bobloedd, grwpiau ethnig, cenedlaethol a chrefyddol a phersonau o darddiad brodorol;
(e)magu parch at yr amgylchedd naturiol.
2LL+CRhaid peidio â dehongli unrhyw ran o'r erthygl bresennol nac erthygl 28 yn y fath fodd ag i amharu ar ryddid unigolion a chyrff i sefydlu a chyfarwyddo sefydliadau addysgol, a bydd hynny'n ddarostyngedig bob amser i'r rheidrwydd i ddilyn yr egwyddor a nodwyd ym mharagraff 1 o'r erthygl bresennol ac i'r gofynion bod rhaid i'r addysg a roddir yn y sefydliadau hynny gydymffurfio ag unrhyw safonau gofynnol a osodir gan y Wladwriaeth.
Yn ôl i’r brig