Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Erthygl 31LL+C

1LL+CMae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl y plentyn i orffwys a chael hamdden, i chwarae ac ymroi i weithgareddau adloniadol sy'n briodol i oedran y plentyn ac i gymryd rhan ddirwystr mewn bywyd diwylliannol a'r celfyddydau.

2LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau barchu a hybu hawl y plentyn i gymryd rhan lawn mewn bywyd diwylliannol a chelfyddydol a rhaid iddynt hyrwyddo'r broses o ddarparu cyfleoedd priodol a chyfartal ar gyfer gweithgareddau diwylliannol, celfyddydol ac adloniadol a gweithgareddau hamdden.