Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Erthygl 32
Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 02/11/2020
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/09/2022.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, Croes Bennawd: Erthygl 32.![Help about Changes to Legislation](/images/chrome/helpIcon.gif)
![Close](/images/chrome/closeIcon.gif)
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Erthygl 32LL+C
1LL+CMae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl y plentyn i gael ei amddiffyn rhag unrhyw gamfanteisio economaidd a rhag cyflawni unrhyw waith sy'n debyg o fod yn beryglus neu o amharu ag addysg y plentyn, neu o niweidio iechyd y plentyn neu ei ddatblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol neu gymdeithasol.
2LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd mesurau deddfwriaethol, gweinyddol, cymdeithasol ac addysgol i sicrhau bod yr erthygl bresennol yn cael ei gweithredu. I'r perwyl hwn, a chan roi sylw i ddarpariaethau perthnasol offerynnau rhyngwladol eraill, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau, yn benodol:
(a)darparu ar gyfer oedran isaf neu oedrannau isaf i gael derbyniad i gyflogaeth;
(b)darparu ar gyfer rheoleiddio oriau ac amodau cyflogaeth yn briodol;
(c)darparu ar gyfer cosbau priodol neu sancsiynau eraill i sicrhau y caiff yr erthygl bresennol ei gorfodi'n effeithiol.
Yn ôl i’r brig