Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Erthygl 37
Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 02/11/2020
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 16/05/2011.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, Croes Bennawd: Erthygl 37.
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Erthygl 37LL+C
Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau:
(a)na chaiff unrhyw blentyn ei arteithio na'i orfodi i ddioddef triniaeth arall neu gosb arall sydd yn greulon, yn annynol neu'n ddiraddiol. Rhaid peidio â gosod cosb ddienyddio neu garcharu am oes heb bosibilrwydd o ryddhad am dramgwyddau a gyflawnwyd gan bersonau sydd o dan ddeunaw mlwydd oed;
(b)na chaiff unrhyw blentyn ei amddifadu yn anghyfreithlon neu'n fympwyol o'i ryddid. Rhaid i'r broses o arestio, cadw neu garcharu plentyn gydymffurfio â'r gyfraith a rhaid peidio â'i defnyddio ond pan fetho popeth arall a rhaid ei defnyddio am y cyfnod priodol byrraf;
(c)y caiff pob plentyn a amddifadir o'i ryddid ei drin â dyngarwch a pharch at urddas gynhenid y person dynol, ac mewn modd sy'n cymryd i ystyriaeth anghenion personau o'i oedran. Yn benodol, rhaid i bob plentyn a amddifadir o'i ryddid gael ei wahanu oddi wrth oedolion oni fernir y byddai er lles pennaf y plentyn i beidio â gwneud hynny a chael hawl i gadw cysylltiad â'i deulu drwy ohebiaeth ac ymweliadau, oddigerth mewn amgylchiadau eithriadol;
(d)bydd gan bob plentyn a amddifadir o'i ryddid hawl i gael mynediad buan at gymorth cyfreithiol a chymorth priodol arall, yn ogystal â hawl i herio cyfreithlondeb y weithred o'i amddifadu o'i ryddid gerbron llys neu awdurdod cymwys, annibynnol a diduedd arall, ac i gael penderfyniad buan ar unrhyw achos o'r fath.
Yn ôl i’r brig