Erthygl 40LL+C
1LL+CMae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod yr hawl sydd gan bob plentyn yr honnir neu y cydnabyddir ei fod wedi torri'r gyfraith trosedd, neu y cyhuddir ef o wneud hynny, i gael ei drin mewn modd sy'n gyson â dyrchafu synnwyr y plentyn o'i urddas a'i werth, sy'n atgyfnerthu parch y plentyn at hawliau dynol a rhyddidau sylfaenol personau eraill sy'n cymryd i ystyriaeth oedran y plentyn a'r ffaith ei bod yn ddymunol hybu ailintegreiddiad y plentyn a bod y plentyn yn derbyn rôl adeiladol mewn cymdeithas.
2LL+CI'r perwyl hwn, ac o roi sylw i ddarpariaethau perthnasol offerynnau rhyngwladol, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau, yn benodol:
(a)na fydd unrhyw honiad, cyhuddiad na chydnabyddiaeth bod unrhyw blentyn wedi torri'r gyfraith trosedd oherwydd gweithredoedd neu anweithiau nad oeddent wedi eu gwahardd gan y gyfraith genedlaethol neu ryngwladol adeg eu cyflawni;
(b)bod gan bob plentyn, yr honnir ei fod wedi torri'r gyfraith trosedd neu y cyhuddir ef o wneud hynny, y gwarantau canlynol o leiaf:
(i)ei fod yn cael ei ragdybio'n ddieuog hyd nes y profir ei fod yn euog yn ôl y gyfraith.
(ii)ei fod yn cael ei hysbysu'n fuan ac yn uniongyrchol o'r cyhuddiadau yn ei erbyn, ac, os yw'n briodol, drwy ei rieni neu ei warcheidwaid cyfreithiol, ac i gael cymorth cyfreithiol neu gymorth priodol arall i baratoi a chyflwyno ei amddiffyniad;
(iii)ei fod yn cael awdurdod neu gorff barnwrol sy'n gymwys, yn annibynnol ac yn ddiduedd i benderfynu'r mater mewn gwrandawiad teg yn ôl y gyfraith, ym mhresenoldeb cynhorthwy cyfreithiol neu gynhorthwy priodol arall ac, oni fernir nad yw er lles pennaf y plentyn, yn benodol, o ystyried ei oedran neu ei sefyllfa, ei rieni neu ei warcheidwaid cyfreithiol;
(iv)ei fod yn peidio â chael ei orfodi i roi tystiolaeth neu i gyffesu ei fod yn euog; ei fod yn cael holi tystion gelyniaethus neu beri iddynt gael eu holi ac yn cael sicrhau bod tystion ar ei ran yn cymryd rhan ac yn cael eu holi o dan amodau cydraddoldeb;
(v)os bernir ei fod wedi torri'r gyfraith trosedd, ei fod yn cael awdurdod neu gorff barnwrol uwch yn ôl y gyfraith sy'n gymwys, yn annibynnol ac yn ddiduedd i adolygu'r penderfyniad hwn ac unrhyw fesurau a osodir o ganlyniad iddo;
(vi)ei fod yn cael cynhorthwy di-dâl cyfieithydd os nad yw'r plentyn yn gallu deall neu siarad yr iaith sy'n cael ei defnyddio;
(vii)bod ei breifatrwydd yn cael ei barchu'n llawn ym mhob cam o'r rheithdrefn.
3LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau geisio hybu'r broses o sefydlu cyfreithiau, gweithdrefnau, awdurdodau a sefydliadau sy'n gymwysadwy yn benodol i blant yr honnir neu y cydnabyddir eu bod wedi torri'r gyfraith trosedd, neu y cyhuddir hwy o wneud hynny, ac, yn benodol:
(a)pennu oedran isaf y rhagdybir na fydd galluedd gan blant sydd oddi tano i dorri'r gyfraith trosedd;
(b)pryd bynnag y bo'n briodol ac yn ddymunol, mesurau i ymdrin â phlant o'r fath heb ddefnyddio rheithdrefn farnwrol, ar yr amod bod hawliau dynol a threfniadau diogelu cyfreithiol yn cael eu parchu'n llawn.
4LL+CRhaid i amryw o drefniadaethau, megis gorchmynion gofalu, cyfarwyddo a goruchwylio; cwnsela; profiannaeth; gofal maeth; addysg a rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol a dewisiadau eraill heblaw gofal sefydliadol fod ar gael i sicrhau bod plant yn cael eu trin mewn modd sy'n briodol i'w llesiant ac yn gymesur â'u hamgylchiadau a'r tramgwydd.