xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENLL+CY CONFENSIWN, Y PROTOCOLAU, Y DATGANIADAU A'r NEILLTUADAU

RHAN 1LL+CRHAN I O'R CONFENSIWN

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Atod. Rhn. 1 cymhwyswyd (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 7(2)(a), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(2)(b); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. Rhn. 1 mewn grym ar 16.5.2011, gweler a. 11

Erthygl 9LL+C

1LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau na chaiff plentyn ei wahanu oddi wrth ei rieni yn erbyn eu hewyllys, ac eithrio pan fo awdurdodau cymwys, yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol, yn penderfynu, yn unol â'r gyfraith a'r gweithdrefnau sy'n gymwysadwy, fod angen y gwahanu hwnnw er lles pennaf y plentyn. Gall penderfyniad o'r fath fod yn angenrheidiol mewn achos penodol megis un sy'n golygu bod y plentyn yn cael ei cam-drin neu ei esgeuluso gan y rhieni, neu un lle mae'r rhieni'n byw ar wahân a bod rhaid gwneud penderfyniad ynghylch preswylfan y plentyn.

2LL+CMewn unrhyw reithdrefn yn unol â pharagraff 1 o'r erthygl bresennol, rhaid i bob parti sydd â buddiant gael cyfle i gymryd rhan yn y rheithdrefn ac i wneud eu sylwadau'n hysbys.

3LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau barchu hawl plentyn sydd wedi ei wahanu oddi wrth un o'i rieni neu'r ddau ohonynt i gadw perthynas bersonol a chysylltiad uniongyrchol â'r ddau riant yn rheolaidd, ac eithrio os yw'n groes i les pennaf y plentyn.

4LL+CPan fo'r gwahanu hwnnw yn ganlyniad i unrhyw gamau a gychwynnwyd gan Barti Gwladwriaeth, megis cadwad, carchariad, alltudiaeth, allgludiad neu farwolaeth (gan gynnwys marwolaeth sy'n deillio o unrhyw achos tra bo'r person yn nalfa'r Wladwriaeth) un rhiant neu'r ddau ohonynt neu'r plentyn, rhaid i'r Parti Gwladwriaeth, ar archiad, ddarparu i'r rhieni, y plentyn neu, os yw'n briodol, aelod arall o'r teulu yr wybodaeth hanfodol ynghylch lleoliad aelod(au) absennol y teulu oni fyddai darparu'r wybodaeth yn niweidiol i lesiant y plentyn. Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau ymhellach na fyddai cyflwyno'r archiad hwnnw ynddo'i hun yn peri unrhyw ganlyniadau andwyol i'r person(au) o dan sylw.