Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Erthygl 3
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/09/2022.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, Croes Bennawd: Erthygl 3.![Help about Changes to Legislation](/images/chrome/helpIcon.gif)
![Close](/images/chrome/closeIcon.gif)
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Erthygl 3LL+C
1LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau godi'r oedran isaf ar gyfer recriwtio personau o'u gwirfodd i'w lluoedd arfog cenedlaethol o'r hyn a nodwyd yn erthygl 38, paragraff 3, o'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn, gan ystyried yr egwyddorion sydd wedi eu cynnwys yn yr erthygl honno a chydnabod bod gan bersonau sydd o dan 18 mlwydd oed hawlogaeth o dan y Confensiwn i gael amddiffyniad arbennig.
2LL+CRhaid i bob Parti Gwladwriaeth adneuo datganiad rhwymol pan gadarnheir neu pan gytunir y Protocol hwn sy'n nodi'r oedran isaf y bydd yn caniatáu recriwtio gwirfoddol i'w luoedd arfog cenedlaethol a disgrifiad o'r trefniadau diogelu y mae wedi eu mabwysiadu i sicrhau na chaiff y recriwtio hwnnw ei fforsio na'i dirio.
3LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau sy'n caniatáu recriwtio gwirfoddol i'w lluoedd arfog cenedlaethol gadw trefniadau diogelu i sicrhau, o leiaf:
(a)bod y recriwtio hwnnw'n wirioneddol wirfoddol;
(b)bod y recriwtio hwnnw'n cael ei wneud gyda chydsyniad deallus rhieni'r person neu ei warcheidwaid cyfreithiol;
(c)bod gan y personau hynny wybodaeth lawn am y dyletswyddau sydd ynghlwm wrth wasanaeth milwrol o'r fath;
(d)bod y personau hynny'n darparu prawf dibynadwy o'u hoedran cyn iddynt gael eu derbyn i wasanaeth milwrol cenedlaethol.
4LL+CCaiff pob Parti Gwladwriaeth atgyfnerthu ei ddatganiad ar unrhyw bryd drwy hysbysiad i'r perwyl hwnnw sydd wedi ei gyfeirio at Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, a bydd yn rhaid iddo yntau hysbysu pob Parti Gwladwriaeth. Daw'r hysbysiad hwnnw'n weithredol ar y dyddiad y daw i law'r Ysgrifennydd Cyffredinol.
5LL+CNid yw'r gofyniad i godi'r oedran ym mharagraff 1 o'r erthygl bresennol yn gymwys i ysgolion sy'n cael eu rhedeg gan luoedd arfog y Partïon Gwladwriaethau neu sydd o dan eu rheolaeth, a hynny'n unol ag erthyglau 28 a 29 y Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn.
Yn ôl i’r brig