Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

RHAN 3LL+CDATGANIADAU A NEILLTUADAU

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Atod. Rhn. 3 cymhwyswyd (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 7(2)(b), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(2)(b); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. Pt. 3 mewn grym ar 16.5.2011, gweler a. 11

DatganiadauLL+C

(a)Mae'r Deyrnas Unedig yn dehongli'r Confensiwn fel un sy'n gymwysadwy yn dilyn genedigaeth fyw yn unig.

(b)Mae'r Deyrnas Unedig yn dehongli'r cyfeiriadau yn y Confensiwn at “rieni” i olygu neb ond y personau hynny, sydd, fel mater o gyfraith genedlaethol, yn cael eu trin fel rhieni. Mae hyn yn cynnwys achosion lle mae'r gyfraith yn ystyried y plentyn yn blentyn ag un rhiant yn unig, er enghraifft pan fo plentyn wedi ei fabwysiadu gan un person yn unig ac mewn achosion penodol lle caiff plentyn ei genhedlu mewn modd gwahanol i ganlyniad cyfathrach rhywiol gan y fenyw sy'n esgor arno a bod hithau'n cael ei thrin fel yr unig riant.