Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Datganiadau
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/09/2022.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, Croes Bennawd: Datganiadau.![Help about Changes to Legislation](/images/chrome/helpIcon.gif)
![Close](/images/chrome/closeIcon.gif)
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
DatganiadauLL+C
(a)Mae'r Deyrnas Unedig yn dehongli'r Confensiwn fel un sy'n gymwysadwy yn dilyn genedigaeth fyw yn unig.
(b)Mae'r Deyrnas Unedig yn dehongli'r cyfeiriadau yn y Confensiwn at “rieni” i olygu neb ond y personau hynny, sydd, fel mater o gyfraith genedlaethol, yn cael eu trin fel rhieni. Mae hyn yn cynnwys achosion lle mae'r gyfraith yn ystyried y plentyn yn blentyn ag un rhiant yn unig, er enghraifft pan fo plentyn wedi ei fabwysiadu gan un person yn unig ac mewn achosion penodol lle caiff plentyn ei genhedlu mewn modd gwahanol i ganlyniad cyfathrach rhywiol gan y fenyw sy'n esgor arno a bod hithau'n cael ei thrin fel yr unig riant.
Yn ôl i’r brig