Trefniadau amgenLL+C
35Awdurdodau i roi trefniadau gweithrediaeth yn lle trefniadau amgenLL+C
(1)Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen—
(a)rhoi'r gorau i weithredu trefniadau amgen, a
(b)dechrau gweithredu trefniadau gweithrediaeth.
(2)Mae Atodlen 1 yn cynnwys darpariaeth sy'n ychwanegu at yr adran hon.
(3)Wrth gydymffurfio â'r adran hon ac ag Atodlen 1, rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 35 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)
36Darpariaeth ganlyniadol etcLL+C
(1)Yn Neddf Llywodraeth Leol 2000—
(a)yn adran 29 (gweithredu trefniadau gweithrediaeth a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt), hepgorer is-adran (3);
F1(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F1(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(d)hepgorer adran 33 (gweithredu trefniadau amgen);
(e)yn adran 34 (refferendwm yn dilyn deiseb), yn is-adran (3), yn lle “29 or 33” rhodder “or 29”;
(f)yn adran 35 (refferendwm yn dilyn cyfarwyddyd), yn is-adran (3), yn lle “29 or 33” rhodder “or 29”;
(g)yn adran 36 (refferendwm yn dilyn gorchymyn), yn is-adran (3), yn lle “29 or 33” rhodder “or 29”.
(2)Yn y Mesur hwn, hepgorer adran 87(3).
(3)Yn Neddf Llywodraeth Leol 1972—
(a)yn adran 70 (cyfyngu ar hybu Mesurau seneddol i newid ardaloedd llywodraeth leol, etc), yn is-adran (3), hepgorer “or alternative arrangements”;
(b)yn adran 270 (darpariaethau cyffredinol ynglŷn â dehongli), yn is-adran (1) hepgorer y diffiniad o “alternative arrangements”.
(4)Dirymir y rheoliadau a ganlyn—
(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynigion ar gyfer Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 (O.S 2001/2293);
(b)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Trefniadau Gweithrediaeth a Threfniadau Amgen) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/3158);
(c)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/397).
(5)Nid yw is-adrannau (1) i (4) yn atal awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen ar y dyddiad cychwyn rhag parhau i weithredu'r trefniadau hynny ar y diwrnod hwnnw ac wedi hynny.
(6)Nid yw is-adrannau (1) i (4) yn cael effaith mewn perthynas ag awdurdod lleol os yw'r awdurdod lleol yn parhau i weithredu trefniadau amgen ar y dyddiad cychwyn ac wedi hynny, ac am gyhyd ag y pery i wneud hynny.
(7)Nid yw is-adrannau (5) ac (6) yn effeithio ar ddyletswydd awdurdod lleol o dan adran 35.
(8)Yn yr adran hon, ystyr “dyddiad cychwyn” mewn perthynas â diwygiad a wneir gan yr adran hon, yw'r dyddiad y daw'r diwygiad hwnnw i rym.
Diwygiadau Testunol
F1A. 36(1)(b)(c) wedi ei diddymu (4.5.2012) gan Localism Act 2011 (c. 20), a. 240(2), Atod. 25 Rhn. 4; O.S. 2012/1008, ergl. 4(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 36 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)