PENNOD 2LL+CPWYLLGORAU [F1LLYWODRAETHU AC] ARCHWILIO
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Rhn. 6 Pnd. 2 title wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 2; O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
81Awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau [F2llywodraethu ac] archwilioLL+C
(1)Rhaid i awdurdod lleol benodi pwyllgor [F3(“pwyllgor llywodraethu ac archwilio”)] —
(a)i arolygu materion ariannol yr awdurdod a chraffu arnynt,
(b)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â materion ariannol yr awdurdod.
(c)i adolygu ac asesu trefniadau'r awdurdod ar gyfer rheoli risgiau, rheolaeth fewnol [F4, asesu perfformiad] a llywodraethu corfforaethol,
(d)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion i'r awdurdod ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny,
[F5(da)i adolygu ac asesu gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,
(db)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,]
(e)i arolygu trefniadau archwilio mewnol ac allanol yr awdurdod, ac
(f)i adolygu'r datganiadau ariannol a lunnir gan yr awdurdod.
[F6(1A)Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu) am swyddogaethau pellach pwyllgorau llywodraethu ac archwilio.]
(2)Caiff awdurdod lleol roi i'w bwyllgor [F7llywodraethu ac] archwilio unrhyw swyddogaethau eraill y mae'r awdurdod o'r farn eu bod yn addas i'w harfer gan y cyfryw bwyllgor.
(3)Y pwyllgor [F8llywodraethu ac] archwilio sydd i benderfynu sut mae i arfer ei swyddogaethau.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn a. 81 pennawd wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 3(c); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F3Geiriau yn a. 81(1) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 115(2), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(b)
F4Geiriau yn a. 81(1)(c) wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 115(3), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(b)
F5A. 81(1)(da)(db) wedi ei fewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 115(4), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(b)
F6A. 81(1A) wedi ei fewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 115(5), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(b)
F7Geiriau yn a. 81(2) wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 3(a); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F8Geiriau yn a. 81(3) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 3(b); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 81 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
82AelodaethLL+C
(1)Mae awdurdod lleol i benodi aelodau ei bwyllgor [F9llywodraethu ac] archwilio.
(2)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—
(a)bod dwy ran o dair F10... o [F11aelodau’r pwyllgor hwnnw’n] aelodau o'r awdurdod;
[F12(b)bod un rhan o dair o aelodau’r pwyllgor hwnnw yn lleygwyr;]
(c)nad oes mwy nag un o [F13aelodau’r pwyllgor hwnnw’n] aelod o weithrediaeth yr awdurdod [F14neu’n gynorthwyydd i’w weithrediaeth];
(d)nad yw aelod hŷn ei weithrediaeth yn aelod [F15o’r pwyllgor hwnnw].
(3)Nid yw is-adran (2)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i aelodaeth pwyllgor [F16llywodraethu ac] archwilio awdurdod lleol gynnwys aelod o weithrediaeth yr awdurdod [F17neu gynorthwyydd i’w weithrediaeth].
(4)Nid yw penodi person yn aelod o bwyllgor [F18llywodraethu ac] archwilio yn cael effaith os bydd aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2) yn syth ar ôl penodi (p'un ai yn rhinwedd y penodi ai peidio).
(5)Mewn achos pan fo un person neu ragor, ar adeg neilltuol, i'w wneud neu i'w gwneud yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor [F19llywodraethu ac] archwilio, neu i beidio â bod yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor [F19“llywodraethu ac] archwilio, mae'r holl newidiadau hynny yn yr aelodaeth i'w hystyried wrth benderfynu a yw aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2).
[F20(5A)Mae pwyllgor llywodraethu ac archwilio i benodi—
(a)aelod o’r pwyllgor yn gadeirydd arno (“cadeirydd y pwyllgor”), a
(b)aelod o’r pwyllgor yn ddirprwy i gadeirydd y pwyllgor (“y dirprwy gadeirydd”).
(5B)Rhaid i’r aelod a benodir yn gadeirydd y pwyllgor fod yn lleygwr.
(5C)Ni chaiff yr aelod a benodir yn ddirprwy gadeirydd fod yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth.]
F21(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F22(7)Mae pwyllgor [F23llywodraethu ac] archwilio i’w drin fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.]
Diwygiadau Testunol
F9Geiriau yn a. 82(1) wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 4(a); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F10Geiriau yn a. 82(2)(a) wedi eu hepgor (5.5.2022) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 116(2)(a), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 3(b)
F11Geiriau yn a. 82(2)(a) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 4(b)(i); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F12A. 82(2)(b) wedi ei amnewid (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 116(2)(b), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 3(b)
F13Geiriau yn a. 82(2)(c) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 4(b)(iii); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F14Geiriau yn a. 82(2)(c) wedi eu mewnosod (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 6 para. 6(4)(a); O.S. 2021/231, ergl. 6(t) (as wedi eu hamnewid gan O.S. 2021/1249, ergl. 3(2))
F15Geiriau yn a. 82(2)(d) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 4(b)(iv); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F16Geiriau yn a. 82(3) wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 4(c); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F17Geiriau yn a. 82(3) wedi eu mewnosod (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 6 para. 6(4)(b); O.S. 2021/231, ergl. 6(t) (as wedi eu hamnewid gan O.S. 2021/1249, ergl. 3(2))
F18Geiriau yn a. 82(4) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 4(d); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F19Geiriau yn a. 82(5) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 4(e); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F20A. 82(5A)-(5C) wedi ei fewnosod (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 116(3), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 3(b)
F21A. 82(6) wedi ei hepgor (5.5.2022) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 116(4), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 3(b)
F22A. 82(7) wedi ei fewnosod (30.9.2013) gan Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), aau. 61, 75(2)(d)
F23Geiriau yn a. 82(7) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 4(g); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 82 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
83Trafodion etcLL+C
[F24(1)Mae cyfarfod o bwyllgor llywodraethu ac archwilio i’w gadeirio—
(a)gan gadeirydd y pwyllgor, neu
(b)os yw cadeirydd y pwyllgor yn absennol, gan y dirprwy gadeirydd.
(2)Os yw cadeirydd y pwyllgor a’r dirprwy gadeirydd ill dau yn absennol caiff y pwyllgor benodi aelod o’r pwyllgor nad yw’n aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol, nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth, i gadeirio’r cyfarfod.]
(3)Caiff holl aelodau pwyllgor [F25llywodraethu ac] archwilio bleidleisio ar unrhyw gwestiwn y mae'n dod i ran y pwyllgor i'w benderfynu.
(4)Caiff pwyllgor [F26llywodraethu ac] archwilio awdurdod lleol—
(a)ei gwneud yn ofynnol i aelodau a swyddogion yr awdurdod ddod ger ei fron i ateb cwestiynau, a
(b)gwahodd personau eraill i fynychu cyfarfodydd y pwyllgor.
(5)Mae dyletswydd ar unrhyw aelod o awdurdod lleol neu swyddog i awdurdod lleol i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan is-adran (4)(a).
(6)Nid yw is-adran (5) yn ei gwneud yn orfodol i berson ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person hawl i wrthod ei ateb mewn achosion llys, neu at ddibenion achosion llys, yng Nghymru a Lloegr.
(7)Mae pwyllgor [F27llywodraethu ac] archwilio i'w drin fel pe bai'n bwyllgor i brif gyngor at ddibenion Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cael mynd i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol).
F28(8). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F24A. 83(1)(2) wedi ei amnewid (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 118(2), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 3(b)
F25Geiriau yn a. 83(3) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 5(c); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F26Geiriau yn a. 83(4) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 5(d); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F27Geiriau yn a. 83(7) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 5(e); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F28A. 83(8) wedi ei hepgor (5.5.2022) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 118(3), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 3(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 83 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
84Cynnal cyfarfodydd: pa mor amlLL+C
(1)Rhaid i bwyllgor [F29llywodraethu ac] archwilio gyfarfod unwaith ym mhob blwyddyn galendr.
(2)Rhaid i bwyllgor [F30llywodraethu ac] archwilio awdurdod lleol gyfarfod hefyd—
(a)os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai'r pwyllgor gyfarfod, neu
(b)os yw traean o leiaf o aelodau o'r pwyllgor yn hawlio cyfarfod drwy gyfrwng un neu ragor o hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r person sy'n cadeirio'r pwyllgor.
(3)Mae dyletswydd ar y person sy'n cadeirio pwyllgor [F31llywodraethu ac] archwilio i sicrhau bod cyfarfodydd y pwyllgor yn cael eu cynnal fel y mae is-adrannau (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol.
(4)Nid yw'r adran hon yn atal pwyllgor [F32llywodraethu ac] archwilio rhag cyfarfod ac eithrio fel y mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol.
Diwygiadau Testunol
F29Geiriau yn a. 84(1) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 6(a); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F30Geiriau yn a. 84(2) wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 6(b); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F31Geiriau yn a. 84(3) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 6(c); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F32Geiriau yn a. 84(4) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 6(d); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 84 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
85CanllawiauLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau lleol—
(a)ynghylch swyddogaethau pwyllgorau [F33llywodraethu ac] archwilio ac arfer y swyddogaethau hynny, neu
(b)ynghylch aelodaeth o bwyllgorau [F34o’r fath] .
(2)Rhaid i awdurdod lleol a'i bwyllgor [F35llywodraethu ac] archwilio roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (1).
Diwygiadau Testunol
F33Geiriau yn a. 85(1)(a) wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 7(a)(i); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F34Gair yn a. 85(1)(b) wedi ei amnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 7(a)(ii); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F35Geiriau yn a. 85(2) wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 7(b); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 85 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
86Terfynu aelodaeth pan fo person yn peidio â bod yn aelod o awdurdodLL+C
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i berson (P)—
(a)a benodir yn aelod o bwyllgor [F36llywodraethu ac] archwilio awdurdod lleol, a
(b)sy'n aelod o'r awdurdod ar adeg y penodiad hwnnw.
(2)Os yw P yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o'r pwyllgor [F37llywodraethu ac] archwilio.
(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os bydd P—
(a)yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod oherwydd iddo ymddeol, a
(b)yn cael ei ailethol yn aelod o'r awdurdod heb fod yn hwyrach na diwrnod ei ymddeoliad.
(4)Mae is-adran (3) yn ddarostyngedig i reolau sefydlog yr awdurdod neu rai'r pwyllgor [F38llywodraethu ac] archwilio.
Diwygiadau Testunol
F36Geiriau yn a. 86(1)(a) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 8(a); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F37Geiriau yn a. 86(2) wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 8(b); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F38Geiriau yn a. 86(4) wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 8(c); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 86 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
87Dehongli etcLL+C
(1)Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Bennod hon ac yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (neu mewn offeryn a wneir o dan y Rhan honno o'r Ddeddf honno) yr un ystyr yn y Bennod hon â'r ystyr sydd i'r ymadroddion cyfatebol Saesneg yn y Rhan honno o'r Ddeddf honno (neu sydd i'r ymadroddion Cymraeg neu i'r ymadroddion cyfatebol Saesneg yn yr offeryn hwnnw).
(2)Yn y Bennod hon—
ystyr “aelod hŷn awdurdod lleol” (“senior member of a local authority”) yw—
(a)yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru), yr arweinydd gweithrediaeth;
(b)yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, y maer;
F39...
F40...
[F41“ystyr “lleygwr” (“lay person”) yw person—
(a)nad yw’n aelod nac yn swyddog o unrhyw awdurdod lleol,
(b)nad yw, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis sy’n dod i ben â’r dyddiad y penodir y person hwnnw, wedi bod yn aelod nac yn swyddog o unrhyw awdurdod lleol, ac
(c)nad yw’n briod nac yn bartner sifil i aelod na swyddog o unrhyw awdurdod lleol;]
F42(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F39Geiriau yn a. 87(2) wedi eu hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 9; O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F40Geiriau yn a. 87(2) wedi eu hepgor (5.5.2022) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 117, 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 3(b)
F41Geiriau yn a. 87(2) wedi eu mewnosod (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 117, 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 3(b)
F42A. 87(3) wedi ei diddymu (10.7.2011) gan Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (nawm 4), aau. 36(2), 178(2), Atod. 4 Rhn. B (ynghyd ag a. 36(5)-(8))
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 87 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)