xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7LL+CCYMUNEDAU A CHYNGHORAU CYMUNED

PENNOD 6LL+CPWERAU CYNGHORAU CYMUNED I HYBU LLESIANT

126Pwerau cynghorau cymuned i hybu llesiantLL+C

(1)Yn adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (ystyr “local authority” yn Rhan 1 o'r Ddeddf honno), ar ddiwedd is-adran (1)(b) mewnosoder “or a community council”.

(2)Yn adran 2 o'r Ddeddf honno (hybu llesiant), mewnosoder y canlynol ar ôl is-adran (3B)—

(3C)The community strategy for the area of a community council is the strategy referred to in subsection (3B) that is published by the county council or county borough council in whose area lies the community or communities for which the community council is established..

(3)Yn adran 5 o'r Ddeddf honno (y pŵer i ddiwygio neu ddiddymu deddfiadau), mewnosoder y canlynol ar ôl is-adran (6)—

(7)The reference to local authorities in subsection (1) does not include community councils..

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 126 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(c)

127Addasiadau i ddeddfiadau sy'n atal neu'n rhwystro cyngor cymuned rhag arfer ei bwerau llesiantLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad os ydynt o'r farn bod y deddfiad yn atal neu'n rhwystro'r cynghorau cymuned rhag arfer eu pwerau o dan adran 2(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (hybu llesiant).

(2)Caniateir arfer y pŵer o dan is-adran (1)—

(a)mewn perthynas â phob cyngor cymuned,

(b)mewn perthynas â chynghorau cymuned neilltuol, neu

(c)mewn perthynas â disgrifiadau neilltuol o gyngor cymuned.

(3)Mae'r pŵer o dan is-adran (1) yn cynnwys pŵer i wneud addasiadau i ddeddfiad am gyfnod neilltuol.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 127 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(c)

F1128Darpariaeth drosiannolLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 128 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(c)