(a gyflwynwyd gan adran 141(2))
ATODLEN 2LL+CY PANEL
AelodaethLL+C
1(1)[F1Dim llai na 3, a dim mwy na 7,] aelod sydd i'r Panel ac fe'u penodir gan Weinidogion Cymru.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi un o'r aelodau'n Gadeirydd.
(3)Rhaid i aelodau'r Panel ethol un o'u plith yn Is-gadeirydd.
(4)Mae'r canlynol wedi eu anghymhwyso rhag bod yn aelodau o'r Panel—
(a)aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(b)aelod o Dŷ'r Cyffredin;
(c)aelod o Dŷ'r Arglwyddi;
F2(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(e)aelod o awdurdod lleol neu o gyngor cymuned;
(f)person sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o awdurdod lleol neu gyngor cymuned.
F3(5). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 para. 1(1) wedi eu hamnewid (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 41(2), 46(1)
F2Atod. 2 para. 1(4)(d) wedi ei hepgor (31.1.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Etholiadau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/115), rhlau. 1, 2; O.S. 2020/93, rhl. 2
F3Atod. 2 para. 1(5) wedi ei hepgor (25.1.2016) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 41(3), 46(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
DeiliadaethLL+C
2(1)Mae aelodau'r Panel yn dal eu swyddi, ac yn gadael eu swyddi, yn unol â thelerau eu penodiad, sef y telerau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.
(2)Ni chaniateir penodi person yn aelod o'r Panel am gyfnod hwy na phedair blynedd.
(3)Ond mae gan berson sy'n peidio â bod yn aelod o'r Panel hawl i gael ei ailbenodi.
(4)Mae person a benodir i lenwi sedd wag achlysurol yn aelodaeth y Panel yn gwasanaethu fel aelod hyd at y dyddiad y byddai cyfnod aelodaeth y person y llenwyd ei sedd yn dod i ben.
(5)Mae aelod o'r Panel sy'n dal swydd Cadeirydd neu Is-gadeirydd yn gwneud hynny nes daw cyfnod aelodaeth y person hwnnw i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
CyfarfodyddLL+C
3(1)Rhaid i'r Panel gyfarfod o leiaf unwaith bob blwyddyn galendr.
(2)Cworwm y Panel yw tri a rhaid iddo gynnwys y Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd.
(3)Y Cadeirydd(neu, yn absenoldeb y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd) sy'n llywyddu yng nghyfarfodydd y Panel.
(4)Caiff aelodau'r Panel (yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir gan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan 8) reoleiddio gweithdrefnau'r Panel.
(5)Rhaid i gwestiwn sydd i'w benderfynu gan y Panel gael ei benderfynu mewn cyfarfod o aelodau'r Panel drwy fwyafrif o'r pleidleisiau sy'n cael eu bwrw gan yr aelodau hynny sy'n bresennol yn y cyfarfod.
(6)Os yw nifer y pleidleisiau ar gwestiwn sydd i'w benderfynu yn gyfartal, mae gan y person sy'n llywyddu'r cyfarfod ail bleidlais neu'r bleidlais fwrw.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
GwybodaethLL+C
4Caiff y Panel, mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau, geisio gwybodaeth neu gyngor.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
Treuliau, cymorth gweinyddol etc.LL+C
5(1)Rhaid i Weinidogion Cymru dalu treuliau a dynnir gan y Panel (naill ai gan y Panel fel corff neu gan aelodau unigol o'r Panel) wrth iddo gyflawni swyddogaethau'r Panel (neu swyddogaethau aelodau'r Panel yn rhinwedd eu swydd).
(2)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau i aelodau'r Panel.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod cymorth gweinyddol ar gael i'r Panel.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)