Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

(a gyflwynwyd gan adran 141(2))

ATODLEN 2Y PANEL

This Atodlen has no associated Nodiadau Esboniadol

Aelodaeth

1(1)Pum aelod sydd i'r Panel ac fe'u penodir gan Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi un o'r aelodau'n Gadeirydd.

(3)Rhaid i aelodau'r Panel ethol un o'u plith yn Is-gadeirydd.

(4)Mae'r canlynol wedi eu anghymhwyso rhag bod yn aelodau o'r Panel—

(a)aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)aelod o Dŷ'r Cyffredin;

(c)aelod o Dŷ'r Arglwyddi;

(d)aelod o Senedd Ewrop;

(e)aelod o awdurdod lleol neu o gyngor cymuned;

(f)person sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o awdurdod lleol neu gyngor cymuned.

(5)Nid yw paragraff 1(4)(f) yn gymwys i berson sydd wedi ei anghymhwyso dim ond o ganlyniad i adran 80(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cyflogeion cyngor, swydd-ddeiliaid, etc.).

Deiliadaeth

2(1)Mae aelodau'r Panel yn dal eu swyddi, ac yn gadael eu swyddi, yn unol â thelerau eu penodiad, sef y telerau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.

(2)Ni chaniateir penodi person yn aelod o'r Panel am gyfnod hwy na phedair blynedd.

(3)Ond mae gan berson sy'n peidio â bod yn aelod o'r Panel hawl i gael ei ailbenodi.

(4)Mae person a benodir i lenwi sedd wag achlysurol yn aelodaeth y Panel yn gwasanaethu fel aelod hyd at y dyddiad y byddai cyfnod aelodaeth y person y llenwyd ei sedd yn dod i ben.

(5)Mae aelod o'r Panel sy'n dal swydd Cadeirydd neu Is-gadeirydd yn gwneud hynny nes daw cyfnod aelodaeth y person hwnnw i ben.

Cyfarfodydd

3(1)Rhaid i'r Panel gyfarfod o leiaf unwaith bob blwyddyn galendr.

(2)Cworwm y Panel yw tri a rhaid iddo gynnwys y Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd.

(3)Y Cadeirydd(neu, yn absenoldeb y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd) sy'n llywyddu yng nghyfarfodydd y Panel.

(4)Caiff aelodau'r Panel (yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir gan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan 8) reoleiddio gweithdrefnau'r Panel.

(5)Rhaid i gwestiwn sydd i'w benderfynu gan y Panel gael ei benderfynu mewn cyfarfod o aelodau'r Panel drwy fwyafrif o'r pleidleisiau sy'n cael eu bwrw gan yr aelodau hynny sy'n bresennol yn y cyfarfod.

(6)Os yw nifer y pleidleisiau ar gwestiwn sydd i'w benderfynu yn gyfartal, mae gan y person sy'n llywyddu'r cyfarfod ail bleidlais neu'r bleidlais fwrw.

Gwybodaeth

4Caiff y Panel, mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau, geisio gwybodaeth neu gyngor.

Treuliau, cymorth gweinyddol etc.

5(1)Rhaid i Weinidogion Cymru dalu treuliau a dynnir gan y Panel (naill ai gan y Panel fel corff neu gan aelodau unigol o'r Panel) wrth iddo gyflawni swyddogaethau'r Panel (neu swyddogaethau aelodau'r Panel yn rhinwedd eu swydd).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau i aelodau'r Panel.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod cymorth gweinyddol ar gael i'r Panel.