xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau o dan yr adran hon, gynnal arolwg—
(a)o gynghorwyr yn ei ardal, a
(b)o ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol i swydd cynghorydd yn ei ardal.
(2)Rhaid i awdurdod lleol gynnal arolwg [F1, neu drefnu i gynnal arolwg, mewn perthynas â phob] etholiad cyffredin—
(a)ar gyfer cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol, a
(b)ar gyfer cyngor cymuned yn ardal yr awdurdod lleol.
(3)Rhaid i'r arolwg gael ei gynnal—
(a)drwy ofyn cwestiynau rhagnodedig ar unrhyw ffurf ragnodedig neu mewn unrhyw ddull rhagnodedig, a
(b)drwy grynhoi'r wybodaeth ar unrhyw ffurf ragnodedig neu mewn unrhyw ddull rhagnodedig.
[F2(3A)Yn achos etholiad cyffredin caniateir i arolwg gael ei gynnal—
(a)yn llwyr ar ôl yr etholiad cyffredin, neu
(b)drwy ofyn i’r ymgeiswyr i gael eu hethol i swydd cynghorydd ateb y cwestiynau rhagnodedig cyn yr etholiad cyffredin a chrynhoi’r wybodaeth a ddarparwyd wedi hynny.]
(4)Mae'r cwestiynau y caniateir eu rhagnodi o dan is-adran (3) yn cynnwys cwestiynau (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ynglŷn â'r unigolyn y maent wedi eu cyfeirio ato ynghylch—
(a)rhywedd;
(b)cyfeiriadedd rhywiol;
(c)iaith;
(d)hil;
(e)oedran;
(f)anabledd;
(g)crefydd neu gred;
(h)iechyd;
(i)addysg a chymwysterau;
(j)cyflogaeth;
(k)gwaith fel cynghorydd.
(5)Nid oes dim yn yr adran hon sy'n gosod dyletswydd ar [F3unrhyw unigolyn] i ddarparu unrhyw wybodaeth.
F4(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(7)Yn yr adran hon—
ystyr “anabledd” (“disability”) yw amhariad corfforol neu feddyliol a chanddo effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau beunyddiol normal;
ystyr “cred” (“belief”) yw unrhyw gred grefyddol neu athronyddol ac mae cyfeiriad at gred yn cynnwys cyfeiriad at ddiffyg cred;
ystyr “crefydd” (“religion”) yw unrhyw grefydd ac mae cyfeiriad at grefydd yn cynnwys cyfeiriad at ddiffyg crefydd;
ystyr “cyfeiriadedd rhywiol” (“sexual orientation”) yw cyfeiriadedd rhywiol person—
tuag at bersonau o'r un rhyw,
tuag at bersonau o'r rhyw arall, neu
tuag at bersonau o'r naill ryw neu'r llall;
mae “cynghorydd” (“councillor”) yn cynnwys cynghorydd cymuned;
ystyr “hil” (“race”) yw lliw, cenedligrwydd neu darddiad ethnig neu genedlaethol.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 1(2) wedi eu hamnewid (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 42(2), 46(1)
F2A. 1(3A) wedi ei fewnosod (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 42(3), 46(1)
F3Geiriau yn a. 1(5) wedi eu hamnewid (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 42(4), 46(1)
F4A. 1(6) wedi ei hepgor (25.1.2016) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 42(5), 46(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)