Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

[F111AAdolygiadau ar gais awdurdod lleolLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff pwyllgor gwasanaethau democrataidd awdurdod lleol, ar gais yr awdurdod, adolygu unrhyw fater sy’n berthnasol i—

(a)y cymorth a’r cyngor sydd ar gael i aelodau’r awdurdod hwnnw, a

(b)telerau ac amodau swydd yr aelodau hynny.

(2)Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd lunio adroddiadau ac argymhellion i’r awdurdod yn dilyn adolygiad.

(3)Mater i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yw penderfynu sut i arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.]