xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae awdurdod lleol i benodi aelodau o'i bwyllgor gwasanaethau democrataidd.
(2)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—
(a)bod pob aelod o'i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelod o'r awdurdod;
(b)nad oes mwy nag un o aelodau ei bwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod [F1(ond gweler is-adran (6))] [F2neu’n gynorthwyydd i’w weithrediaeth];
(c)yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru), nad yw'r arweinydd gweithrediaeth yn aelod o'i bwyllgor gwasanaethau democrataidd.
(3)Ni fydd penodi person yn aelod o bwyllgor gwasanaethau democrataidd yn cael unrhyw effaith os bydd aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2) yn union ar ôl ei benodi (p'un ai yn rhinwedd y penodiad ai peidio).
(4)Mewn achos pan fo un person neu ragor, ar adeg neilltuol, i'w wneud neu i'w gwneud yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu i beidio â bod yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor gwasanaethau democrataidd, mae'r newidiadau hynny yn yr aelodaeth i'w hystyried wrth benderfynu a fyddai aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2).
(5)Mae pwyllgor gwasanaethau democrataidd i awdurdod lleol i'w drin fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.
[F3(6)Os penodir dau neu ragor o aelodau awdurdod lleol i’r weithrediaeth i rannu swydd, caniateir penodi mwy nag un o’r aelodau hynny i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yr awdurdod (ac os y’u penodir hwy felly, gyda’i gilydd maent yn cyfrif fel un aelod gweithrediaeth at ddibenion is-adran (2)(b)).]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 12(2)(b) wedi eu mewnosod (13.5.2022) gan Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022 (O.S. 2022/533), rhlau. 1(2), 2(2)(a)
F2Geiriau yn a. 12(2)(b) wedi eu mewnosod (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 6 para. 6(2); O.S. 2021/231, ergl. 6(t) (as wedi eu hamnewid gan O.S. 2021/1249, ergl. 3(2))
F3A. 12(6) wedi ei fewnosod (13.5.2022) gan Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022 (O.S. 2022/533), rhlau. 1(2), 2(2)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 12 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)