xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn Rhn. 8 pennawd wedi ei hepgor (1.4.2014) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), aau. 63(2), 75(3); O.S. 2014/380, ergl. 2
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd ag addasiadau) (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 25(3)(4), 46(1)
(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag aelodau o awdurdodau perthnasol—
(a)nad ydynt yn aelodau cyfetholedig, a
(b)a chanddynt am y tro hawl i fod yn aelodau o gynllun pensiwn yn unol â rheoliadau o dan adran 7 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (cynlluniau pensiwn llywodraeth leol).
(2)Caiff y Panel benderfynu ar y disgrifiadau o aelodau y bydd yn ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn (“pensiwn perthnasol”) iddynt neu mewn cysylltiad â hwy.
(3)Caiff y Panel benderfynu ar y materion perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn perthnasol mewn cysylltiad â hwy.
(4)Caiff y Panel wneud penderfyniadau gwahanol mewn perthynas ag awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 143 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
I2A. 143 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(d)
I3A. 143 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(a)