Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

[F1149Cyfarwyddiadau i amrywio adroddiadau drafftLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r Panel i ailystyried darpariaeth yn yr adroddiad drafft.

(2)Rhaid i gyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu—

(a)y ddarpariaeth,

(b)y rheswm dros roi'r cyfarwyddyd, ac

(c)y dyddiad erbyn pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r Panel ymateb.

(3)O ran y Panel—

(a)rhaid iddo ymateb i'r cyfarwyddyd heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir at ddibenion is-adran (2)(c);

(b)ni chaiff gyhoeddi'r adroddiad cyn iddo fod wedi ymateb i'r cyfarwyddyd.

(4)Os yw'r Panel yn penderfynu peidio ag amrywio'r drafft yn unol â'r cyfarwyddyd, rhaid iddo bennu yn ei ymateb y rheswm dros ei benderfyniad.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 149 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I2A. 149 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(i)

I3A. 149 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(d)