Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

151Gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadauLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff adroddiad blynyddol osod gofynion ar awdurdodau perthnasol ar gyfer gwneud trefniadau i gyhoeddi gwybodaeth o ddisgrifiad penodedig—

(a)ynghylch taliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(b)ynghylch taliadau a wneir mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol.

[F1(c)ynghylch taliadau eraill a wneir i aelodau awdurdodau perthnasol gan gyrff cyhoeddus eraill.]

(2)Caiff yr adroddiad ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu i awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad wneud trefniadau gwahanol.

[F2(3)At ddibenion is-adran (1)(c), “corff cyhoeddus” yw—

(a)bwrdd iechyd lleol,

(b)panel heddlu a throsedd,

(c)awdurdod perthnasol,

(d)corff wedi ei ddynodi yn gorff cyhoeddus mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 151 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I2A. 151 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(k)

I3A. 151 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(f)