Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

154Aelodau sy'n dymuno ymwrthod â'u hawl i gael taliadauLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw aelod o awdurdod perthnasol, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r swyddog priodol i'r awdurdod, yn dewis ymwrthod (naill ai'n llwyr neu i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad) â'r hawl i gael taliadau mewn cysylltiad ag unrhyw faterion perthnasol a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Nid yw'r gofyniad a osodir ar yr awdurdod gan adroddiad blynyddol i wneud taliadau mewn cysylltiad â'r materion perthnasol hynny a bennir yn yr hysbysiad yn gymwys yn achos yr aelod hwnnw (neu nid yw'n gymwys yn yr achos hwnnw i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad); ac mae adran 153(1) i'w darllen yn unol â hynny.

(3)Mae i “swyddog priodol” yr ystyr a roddir i “proper officer” yn adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 154 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I2A. 154 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(m)

I3A. 154 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(h)