xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8LL+CF1...TALIADAU A PHENSIYNAU

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd ag addasiadau) (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 25(3)(4), 46(1)

C2Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd gydag addasiadau) (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau.142(5), 143, 175(1)(f)(2)

GorfodiLL+C

156Cyfarwyddiadau i gydymffurfio â gofynionLL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â gofyniad sy'n ymwneud â materion perthnasol a osodir arno gan y Mesur hwn neu yn rhinwedd y Mesur hwn, cânt gyfarwyddo'r awdurdod i gydymffurfio â'r gofyniad.

(2)Rhaid i gyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu—

(a)y gofyniad;

(b)y rheswm dros roi'r cyfarwyddyd;

(c)y camau y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod eu cymryd;

(d)y dyddiad erbyn pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gymryd y camau.

(3)Gellir gorfodi cyfarwyddyd o dan yr adran hon drwy orchymyn mynnu ar gais Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 156 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I2A. 156 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(o)

I3A. 156 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(j)