Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

162Pŵer i wneud gorchymyn cyfunoLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt wedi eu bodloni ei bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau llywodraeth leol effeithol, wneud gorchymyn (“gorchymyn cyfuno”) i gyfansoddi ardal llywodraeth leol newydd drwy gyfuno dwy neu dair ardal llywodraeth leol.

(2)Cyn gwneud gorchymyn cyfuno, rhaid i Weinidogion Cymru gael eu bodloni na fyddai'n debyg y câi llywodraeth leol effeithiol ei sicrhau mewn ardal llywodraeth leol sydd i'w chyfuno gan y gorchymyn—

(a)drwy i unrhyw rai o'r awdurdodau lleol o dan sylw arfer eu pwerau o dan adran 9 (Pwerau cydlafurio etc) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, neu

(b)drwy i Weinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan—

(i)adran 28 (Gweinidogion Cymru: cymorth i awdurdodau gwella Cymreig),

(ii)adran 29 (Gweinidogion Cymru: pwerau cyfarwyddo etc),

(iii)adran 30 (Pwerau cyfarwyddo: trefniadau cydlafurio), neu

(iv)adran 31 (Pŵer Gweinidogion Cymru i addasu deddfiadau a rhoi pwerau newydd)

o'r Mesur hwnnw.

(3)Rhaid i orchymyn cyfuno ddarparu ar gyfer y canlynol—

(a)a fydd yr ardal llywodraeth leol newydd yn sir ynteu'n fwrdeistref sirol,

(b)enw Cymraeg ac enw Saesneg yr ardal llywodraeth leol newydd,

(c)sefydlu awdurdod lleol ar gyfer yr ardal llywodraeth leol newydd,

(d)a fydd yr awdurdod lleol newydd yn gyngor sir ynteu'n gyngor bwrdeistref sirol,

(e)enw Cymraeg ac enw Saesneg yr awdurdod lleol newydd,

(f)diddymu'r ardaloedd llywodraeth leol presennol,

(g)ffin yr ardal llywodraeth leol newydd, ac

(h)dirwyn i ben a diddymu'r awdurdodau lleol ar gyfer yr ardaloedd llywodraeth leol presennol.

(4)Os sir fydd yr ardal llywodraeth leol newydd, rhaid i'r gorchymyn cyfuno ddarparu i'r awdurdod lleol newydd gael enw'r sir gan ychwanegu—

(a)yn achos ei enw Saesneg, y geiriau “County Council” neu'r gair “Council” (megis yn “Pembrokeshire County Council” neu “Pembrokeshire Council”); a

(b)yn achos ei enw Cymraeg, y gair “Cyngor” (megis yn “Cyngor Sir Penfro”).

(5)Os bwrdeistref sirol fydd yr ardal llywodraeth leol newydd, rhaid i'r gorchymyn cyfuno ddarparu i'r awdurdod lleol newydd gael enw'r fwrdeistref sirol gan ychwanegu—

(a)yn achos ei enw Saesneg, y geiriau “County Borough Council” neu'r gair “Council” (megis yn “Caerphilly County Borough Council” neu “Caerphilly Council”); a

(b)yn achos ei enw Cymraeg, y geiriau “Cyngor Bwrdeistref Sirol” neu'r gair “Cyngor” (megis yn “Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili” neu “Cyngor Caerffili”).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 162 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)