xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn cyfuno yn cynnwys darpariaeth ar gyfer neu mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r materion canlynol (ond nid yw wedi ei chyfyngu i'r cyfryw ddarpariaeth)—
(a)cyfanswm yr aelodau o unrhyw awdurdod lleol (“cynghorwyr”);
(b)nifer yr ardaloedd etholiadol a'u ffiniau at ddibenion ethol cynghorwyr;
(c)nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol yn ffurfiol gan unrhyw ardal etholiadol;
(d)enw unrhyw ardal etholiadol;
(e)ethol cynghorwyr ar gyfer unrhyw ardaloedd etholiadol;
(f)diddymu etholiadau cynghorwyr ar gyfer unrhyw ardal etholiadol;
(g)ethol cynghorwyr cymunedol ar gyfer unrhyw gymuned;
(h)diddymu etholiadau cynghorau cymuned;
(i)ethol maer awdurdod lleol;
(j)penodi aelodau o awdurdod lleol presennol gan Weinidogion Cymru i fod yn aelodau o awdurdod cysgodol am gyfnod cysgodol;
(k)penodi am gyfnod cysgodol weithrediaeth i'r awdurdod cysgodol;
(l)swyddogaethau awdurdod cysgodol, a chyflawni'r swyddogaethau hynny, yn ystod cyfnod cysgodol.