26Absenoldeb mabwysiadydd
(1)Mae gan aelod o awdurdod lleol hawl i gyfnod o absenoldeb (“absenoldeb mabwysiadydd”) os yw'r aelod yn bodloni amodau rhagnodedig o ran mabwysiadu plentyn.
(2)Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—
(a)i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb mabwysiadydd mewn cysylltiad â phlentyn;
(b)pryd y caniateir cymryd absenoldeb mabwysiadydd.
(3)Ni chaniateir i reoliadau ddarparu i gyfnod o absenoldeb mabwysiadydd mewn cysylltiad â phlentyn fod yn hwy na dwy wythnos.
(4)Caiff rheoliadau ganiatáu i aelod ddewis, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhagnodedig, y dyddiad pryd y bydd cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd yn dechrau.
(5)Caiff rheoliadau ragnodi amgylchiadau pan gaiff aelod o awdurdod lleol, neu pan gaiff yr awdurdod lleol—
(a)terfynu cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd, neu
(b)diddymu cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd.