27Absenoldeb mabwysiadu newyddLL+C
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i aelod o awdurdod lleol sy'n bodloni amodau rhagnodedig—
(a)o ran perthynas â phlentyn a gafodd ei leoli, neu y disgwylir iddo gael ei leoli, ar gyfer ei fabwysiadu o dan gyfraith unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, a
(b)o ran perthynas â pherson y lleolir y plentyn gydag ef, neu y disgwylir iddo gael ei leoli gydag ef, ar gyfer ei fabwysiadu.
(2)Mae gan yr aelod hawl i gyfnod o absenoldeb (“absenoldeb mabwysiadu newydd”) at ddibenion—
(a)gofalu am y plentyn, neu
(b)cynorthwyo'r person y mae'r aelod o'i herwydd yn bodloni'r amod o dan is-adran (1)(b).
(3)Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—
(a)i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb mabwysiadu newydd mewn cysylltiad â phlentyn;
(b)pryd y caniateir cymryd absenoldeb mabwysiadu newydd.
F1(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(5)Rhaid i reoliadau ei gwneud yn ofynnol i absenoldeb mabwysiadu newydd gael ei gymryd cyn diwedd cyfnod rhagnodedig.
F2(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(7)Caiff rheoliadau ragnodi amgylchiadau pan gaiff aelod o awdurdod lleol, neu pan gaiff yr awdurdod lleol—
(a)terfynu cyfnod o absenoldeb mabwysiadu newydd, neu
(b)diddymu cyfnod o absenoldeb mabwysiadu newydd.
(8)Caiff rheoliadau—
(a)(at ddibenion is-adran (2)) ragnodi pethau sydd i'w barnu neu beidio a'u barnu yn bethau sydd wedi eu gwneud at ddibenion gofalu am blentyn neu gynorthwyo person y lleolir plentyn gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu;
(b)caniatáu i aelod ddewis, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhagnodedig, y dyddiad pryd y bydd cyfnod o absenoldeb mabwysiadu newydd yn dechrau;
(c)gwneud darpariaeth sy'n eithrio'r hawl i fod yn absennol o dan yr adran hon yn achos aelod sy'n arfer hawl i fod yn absennol oherwydd absenoldeb mabwysiadu;
(d)gwneud darpariaeth sy'n eithrio hawl i absenoldeb mabwysiadu newydd mewn cysylltiad â phlentyn pan leolir mwy nag un plentyn ar gyfer ei fabwysiadu fel rhan o'r un trefniant;
(e)gwneud darpariaeth ynghylch sut y ceir cymryd absenoldeb mabwysiadu newydd.
F3(9). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F4(10). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(11)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod yr adran hon yn gymwys mewn perthynas ag achosion sy'n ymwneud â mabwysiadu, ond nid â lleoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu o dan gyfraith unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.
Diwygiadau Testunol
F1A. 27(4) wedi ei hepgor (21.1.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 61(5)(a), 175(1)(d)
F2A. 27(6) wedi ei hepgor (21.1.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 61(5)(b), 175(1)(d)
F3A. 27(9) wedi ei hepgor (21.1.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 61(5)(c), 175(1)(d)
F4A. 27(10) wedi ei hepgor (21.1.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 61(5)(c), 175(1)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 27 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)