Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

41Yr amserlen ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith: dim refferendwmLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gynigion awdurdod lleol os nad yw newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.

(2)Rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith fod yn un sy'n sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gwneud y newid mewn trefniadau gweithrediaeth heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y bydd yr awdurdod lleol yn anfon y copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 41 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)