Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

6Amseru cyfarfodydd cyngorLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau ynghylch amser cynnal cyfarfodydd awdurdod lleol.

(2)Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir o dan is-adran (1).

(3)Yn is-adran (1), ystyr “cyfarfodydd awdurdod lleol” yw—

(a)cyfarfodydd yr awdurdod lleol;

(b)cyfarfodydd unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)